Rydym yn gweithio gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu i cynnal gweminar yn archwilio effeithiau deallusrwydd artiffisial (AI) ar weithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru.   

Bydd y weminar hon yn cael ei lywio gan gyhoeddiadau diweddar Cyngor Partneriaeth y Gweithlu 'Rheoli technoleg sy'n rheoli pobl' a 'Defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn gwaith: adroddiad meincnodi ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddeallusrwydd artiffisial yn sector cyhoeddus Cymru'.   

Bydd panel o gynrychiolwyr o Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr datganoledig yn ymuno â ni i drafod sut y gellir integreiddio technolegau AI yn effeithiol yn y gweithle wrth flaenoriaethu egwyddorion gwaith teg i weithwyr. 

Peidiwch â cholli'r cyfle i gyfrannu at y sgwrs am lunio dyfodol gwaith yng Nghymru!