Cyflwyniad i gynhyrchu estynedig adferol (RAG): gwella modelau mawr iaith gyda gwybodaeth allanol
Mae RAG yn dechneg sy'n gwella dibynadwyedd systemau DA trwy ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol o ffynonellau allanol. Ymunwch â'n gweminar gwyddor data i ddysgu mwy am sut y gall RAG wella perfformiad modelau iaith (LLM) e.e. chatbots neu systemau DA cynhyrchiol, trwy gynhyrchu ymatebion yn seiliedig ar gasgliad penodol o ddogfennau neu destun.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Beth yw RAG? Pam mae ei angen?
- Sut mae RAG yn mynd i'r afael â chyfyngiadau LLM traddodiadol
- Cydrannau RAG - sut mae elfennau RAG yn gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu ymatebion mwy manwl gywir sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Gwerthuso - sut allwn ni fesur perfformiad RAG? Sut ydyn ni'n gwybod ei fod yn gweithio'n dda?
- Astudiaeth ymarferol: cymhwyso egwyddorion RAG i gyfathrebu'n hawdd â'n data a derbyn atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
12pm 23 Ionawr 2025
Ar-lein