Mae’n bleser gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) gyhoeddi mai Dyfed Alsop, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yw cadeirydd y Gweithgor Safonau Digidol.
Mae’r grŵp wedi’i fandadu gan Lywodraeth Cymru fel y corff sy’n llywodraethu’r Safonau Gwasanaeth Digidol, ac sy’n curadu ac yn cymeradwyo mabwysiadu safonau digidol, data a thechnegol newydd o sectorau, gwledydd ac adrannau eraill y llywodraeth, gan sicrhau eu bod yn addas i’r diben yng Nghymru.
Mae deall a chadw at y safonau hyn yn allweddol i ddarparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr a'u bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff eraill o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, sy’n hyrwyddo cysondeb a rhagoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Amlygodd Harriet Green, cyd-Brif Swyddog Gweithredol y CDPS, bwysigrwydd y grŵp a’r ethos cydweithredol y mae’n ei gynrychioli, gan ddweud: “Mae’r Gweithgor Safonau yn enghraifft wych o sut y gall y CDPS ddod â’r sector cyhoeddus ynghyd i gytuno ar ffordd y gallwn ni gyd i weithio. Mae’n diffinio’r safonau arfer gorau y gall pawb eu defnyddio i adeiladu gwasanaethau digidol rhagorol, heb ailddyfeisio’r olwyn.
Mae penodiad Dyfed yn gam arall tuag at gorff grymus ac ymreolaethol – grŵp o lysgenhadon sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus digidol.
O dan arweinyddiaeth Dyfed, ry’n ni’n gyffrous i weld sut mae’r grŵp yn parhau i esblygu a meithrin cydweithio cryfach ar draws y sector cyhoeddus.”
Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2018 i reoli’r trethi datganoledig cyntaf yng Nghymru, ac mae Dyfed Alsop wedi bod yn Brif Weithredwr o’r dechrau.
Esboniodd: “Mae cydweithio wrth wraidd yr hyn yr ydym wedi ceisio’i wneud o fewn Awdurdod Cyllid Cymru o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n gyffrous am y cyfle gwych yma i gydweithio â chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i weld sut y gallwn gefnogi a herio’r naill a’r llall i gyflawni rhagoriaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus digidol ledled Cymru.
“Mae’r cyfleoedd a ddaw yn sgil ‘digidol’ i wella gwasanaethau cyhoeddus i'r Cymry yn enfawr, yn enwedig pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd mewn ffordd agored a chydweithredol. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu ar y cyd fel grŵp ac i ddod o hyd i ffyrdd o wneud i wasanaethau cyhoeddus weithio’n well i bawb yng Nghymru.”
Mae’r Gweithgor Safonau Digidol dal yn agored i gyfraniadau ac ymgysylltiad gan sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae'r ymdrech gydweithredol hon yn allweddol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digidol yn hygyrch, yn effeithlon ac yn cyd-fynd ag anghenion dinasyddion a thimau gwasanaethau cyhoeddus fel ei gilydd.
Os hoffech drefnu cyfweliad gyda naill ai Harriet Green neu Dyfed Alsop, e-bostiwch edwina.ohart@digitalpublicservices.gov.wales neu drwy ffonio 07511694450.