Cyn y blwyddyn newydd, rydym yn trefnu cyfarfod i'r gymuned ymchwil defnyddwyr. Sesiwn wyneb yn wyneb fydd hon ar ddydd Iau 12 Rhagfyr yn BizSpace yng Nghaerdydd, lle byddwn yn dathlu'r holl ymchwil defnyddwyr gwych sy'n cael ei gynnal ledled Cymru! 

Dyma'r agenda:

  • 12 -1pm: cinio a rhwydweithio
  • 1.30-3.30pm: rhannu yn grwpiau i rannu a dathlu pa ymchwil sy'n digwydd yng Nghymru
  • 3.30 - 4pm: rhagor o rwydweithio cyn cloi
  • 4pm ymlaen: bydd cyfle i ymuno mewn 'ymgynnull cymdeithasol' ar ôl y digwyddiad

Yng nghyfarfod mis Hydref, gwnaethom ofyn i'n haelodau pa bynciau yr hoffent eu trafod yn y digwyddiad. Y thema ddaeth i'r amlwg oedd dysgu a rhannu pa ymchwil sy'n digwydd yng Nghymru a chreu allbwn gweledol er mwyn ei grynhoi. Bydd hyn yn helpu'r gymuned i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio a chynnal prosiectau tebyg gan rannu arfer da. 

Rydym wrthi’n chwilio am leoliad addas un ai yng Nghaerdydd neu Gasnewydd. Os gallwch awgrymu lleoliad/swyddfa addas y gallwn ei ddefnydido yn rhad ac am ddim sydd â lle i 30 o bobl, e-bostiwch josh.poulton@gwasanaethaudigidolcyhoeddus.llyw.cymru