Cynnwys
Asesu gallu eich tîm
Nid yw bob amser yn bosibl cael ymchwilwyr defnyddwyr ac ymarferwyr dylunio eraill sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr sy'n siarad Cymraeg rhugl yn eich tîm.
Y cam cyntaf yw deall y bylchau gallu a sgiliau yn eich tîm, gan gynnwys:
- a ydyn nhw'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg, a sut
- yr hyder sydd gennych a meysydd rydych yn gyffyrddus a hwy
Er enghraifft, gallai eich ymchwilydd defnyddiwr profiadol fod yn siaradwr Cymraeg rhugl, ond nid yw'n teimlo'n gyfforddus yn hwyluso cyfweliadau yn y Gymraeg.
Trwy ddeall eich gallu, gallwch benderfynu:
- addasu eich dull a'ch methodoleg
- cynnwys cydweithwyr i gynnal neu gefnogi gyda sesiynau
- cael help gan gyfieithydd neu ddehonglydd
Pennu disgwyliadau clir a realistig gyda'ch tîm, rhanddeiliaid a chyfranogwyr am yr hyn y gallwch chi ei wneud.
Manteisiwch i'r eithaf ar wahanol gryfderau eich tîm, a gofynnwch am gymorth i lenwi eich bylchau sgiliau.
Ymchwilio i bynciau sensitif yn y Gymraeg
Dim ond ymarferwyr hyfforddedig a phrofiadol ddylai gynnal ymchwil sensitif.
Mae angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg hyderus er mwyn osgoi cael eich hun neu eich cyfranogwr mewn sefyllfa lle:
- nid ydych yn deall y rhan fwyaf o iaith eich cyfranogwr
- ni allwch gyfathrebu'n effeithiol a chynnig y cymorth sydd ei angen
Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch
Mae ymchwil defnyddwyr yn dasg i'r tîm cyfan.
Ond efallai na fyddwch yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol lle mae eich ymchwilydd defnyddiwr neu rywun arall yn siarad Cymraeg rhugl.
Ar ôl i chi ddeall gallu eich tîm, gofynnwch am y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch o'r dechrau. Efallai yr hoffech chi feddwl am ffyrdd gwahanol o gael gafael arnyn nhw hefyd.
Er enghraifft, gallwch geisio dod o hyd i gydweithwyr gyda'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen arnoch sy'n hapus i helpu mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn gynnwys cyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd, neu ymarferwyr dylunio eraill sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Ystyriwch sut i gynnwys a gweithio'n agos gyda nhw, yn enwedig os nad ydyn nhw'n gyfarwydd â gweithio mewn ffyrdd ystwyth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Mae gennych ddisgwyliadau rhesymol o'r siaradwyr Cymraeg yn eich tîm
Gall fod galw mawr am ymchwilwyr defnyddwyr ac ymarferwyr eraill sy'n siarad Cymraeg, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt gefnogi sawl prosiect ar unwaith heb ystyried eu llwyth gwaith.
Gall disgwyl gormod gan y siaradwyr Cymraeg yn eich tîm effeithio ar y canlynol:
- lefelau straen eich tîm
- ansawdd yr ymchwil
- ansawdd yr allbynnau yn Gymraeg
Gall y ffocws fynd ar goll, y cyd-destun, neu brosesau a systemau pwysig gael eu cyfaddawdu sy'n sicrhau ansawdd eich ymchwil.
Gallwch sefydlu eich tîm ar gyfer llwyddiant trwy sicrhau bod digon o amser gennych ar gyfer cyflawni fel bod yr ymchwilydd yn deall ac yn cefnogi'r strategaeth a'r paratoadau ehangach, nid yn unig gyda thasgau a gweithgareddau penodol.
Addasu eich methodoleg ymchwil
Archwilio gwahanol ffyrdd o gofnodi profiadau defnyddwyr Cymraeg, ac addasu'r fethodoleg yn dibynnu ar eich nodau, anghenion a gallu.
Er enghraifft, efallai na fydd eich ymchwilydd defnyddiwr yn siarad Cymraeg rhugl, ond gallai arolwg wedi'i gyfieithu fodloni eich nodau a'ch anghenion. Gall cyfieithydd neu gydweithiwr arall eich helpu i'w gynhyrchu'n ddwyieithog, a dadansoddi'r ymatebion a'r mewnwelediadau.
Gallwch hefyd ddatblygu gwahanol adnoddau i gefnogi cyfieithu'r ymatebion, gan gynnwys templedi, rhestri geiriau a phatrymau.
Os ydych yn bwriadu cyfweld â chyfranogwyr, ystyriwch:
- a ydych yn fwy cyfforddus gyda sgwrs strwythuredig iawn
- recordio'r sesiwn fel y gallwch ei hadolygu'n ddiweddarach, gan gynnwys yr iaith
- os gall Cynorthwyydd Personol eich cefnogi
Os ydych yn profi cynnyrch neu wasanaeth, ystyriwch:
- os ydych yn cynnal rowndiau profi ar wahân ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg
- ym mha gyfnodau o ddatblygiad y mae angen i chi eu profi
Ymgyfarwyddwch â'r iaith
Fel gydag unrhyw ymchwil, mae'n arfer da ymgyfarwyddo ag iaith eich cyfranogwyr, yn enwedig os yw'n bwnc arbenigol neu dechnegol gyda therminoleg y diwydiant.