‘Mae’n boen cymryd sgrin lun’

Yn ystod y cam alffa, gwerthusodd tîm gwasanaeth grantiau Chwaraeon Cymru 4 prototeip gyda chyfranogwyr a oedd wedi gwneud cais am gyllid chwaraeon cymunedol yn flaenorol – dyma beth ganfuon nhw

27 Mai 2022

Canolbwyntiodd y tîm alpha ar ddylunio, profi ac ailadrodd prototeipiau a oedd yn cwmpasu’r rhan fwyaf o’r broses ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr grant © Unsplash

Mae Chwaraeon Cymru a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn gweithio ar brosiect Ystwyth i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru trwy wella gwasanaeth ymgeisio digidol y sefydliad. 

Yn dilyn cam darganfod, parhaodd Chwaraeon Cymru a CDPS i weithio gyda’i gilydd ar gam alffa 12 wythnos, a orffennodd yng nghanol mis Ionawr 2022 – mae’r postiad blog hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r cam alffa. 

Deall llywio

Wrth i’r tîm alffa bwyso a mesur y gwaith, fe sylweddolon ni na allem gyflawni’r cwmpas gwreiddiol. Fe gytunon ni gyda noddwyr y prosiect, Chwaraeon Cymru a CDPS, i ganolbwyntio ar y canlynol:

‘I rywun nad yw’n deall technoleg, mae’n boen cymryd sgrin lun ac yna ei atodi’

Defnyddwyr wedi’u clystyru ar bob pen o’r raddfa sgiliau digidol

Fe wnaethon ni werthuso 4 prototeip mewn 15 sesiwn gyda chyfranogwyr a oedd wedi ymgeisio ar gyfer buddsoddiadau neu grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru yn flaenorol. Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu:

“Mae’r cwestiynau hyn fel petaen nhw’n addas i glybiau rygbi a thimau pêl-droed. Dydyn nhw ddim mor addas i ni…”

Beth nesaf?

Cyflwynodd y tîm ganfyddiadau ac argymhellion y cam alffa i noddwyr y prosiect, Chwaraeon Cymru, ym mis Ionawr, ochr yn ochr â chynnig ar gyfer y cam nesaf.

“’Tasen ni ddim wedi cael y cyllid … ni fyddai’r clwb yn bodoli”

Rydyn ni bellach mewn cyfnod alffa 14 wythnos estynedig (rydyn ni’n ei alw’n ‘alffa+’) sy’n canolbwyntio ar ddylunio a phrofi proses ymgeisio am grantiau o’r dechrau i’r diwedd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys profi prosesau swyddfa gefn a fyddai’n gweddu’n well i anghenion defnyddwyr a Chwaraeon Cymru.

Dywedwch wrthym am eich profiad o wasanaethau grantiau yn y blwch sylwadau isod. Ac os ydych yn gorff chwaraeon a hoffai ymwneud â datblygu gwasanaeth Chwaraeon Cymru, anfonwch neges e-bost atom 

Darllenwch fwy:

Un tro … mewn tîm gwasanaeth Ystwyth

Ceisiadau sain? Helpu i fwrw’r rhwyd grantiau yn ehangach

Prototeip i gychwyn sgwrs

Cam darganfod Chwaraeon Cymru – yr hyn a ddysgodd y tîm

Chwaraeon Cymru – canfyddiadau diwedd y cam darganfod

Cam darganfod Chwaraeon Cymru

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *