Hygyrchedd
Defnyddio’r wefan hon
Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid oes testun arall da ar gyfer rhai delweddau
- nid yw rhai botymau wedi’u nodi’n gywir
- nid yw’r testun ar gyfer rhai dolenni cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
Adborth a manylion cyswllt
Mae’r wybodaeth ar y wefan hon ar gael mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille drwy gysylltu drwy un o’r dulliau canlynol:
e-bost: gwybodaeth@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â gwybodaeth@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cmru
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Tachwedd 2020. Adolygwyd ddiwethaf ar 16 Tachwedd 2020.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 16 Tachwedd 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Cowshed Communication Ltd.
Gwnaethom brofi cyfuniad o dempledi craidd, templedi cyffredin a thempledi cymhleth.
Gwnaethom brofi’r canlynol:
- prif blatfform ein gwefan, yn https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/