15 Ionawr 2021

Gwersi Prototeipio a Ddysgwyd

Yn rhan o gam Alffa’r prosiect drws blaen Gofal Cymdeithasol i Oedolion rydyn ni’n gweithio arno gyda chynghorau Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot, rydyn ni wedi bod yn creu prototeip o ddatrysiad posibl y gallwn ei brofi gyda defnyddwyr. Yn y postiad hwn, mae’r datblygwr, Matthew Pugh, yn sôn ychydig wrthym am yr ymagwedd at brofi ac ailadrodd trwy brototeipio.

Pam creu prototeip?

Y nod yw profi cysyniadau dylunio’n gyflym. Mae’n bwysig cadw hyn mewn cof, yn enwedig wrth ddylunio gwefan brototeip. Cyn gynted ag y bydd prototeip yn anodd ei addasu i ganfyddiadau ymchwil defnyddwyr, ni fydd yn effeithiol mwyach.  

Am y rheswm hwn, rydyn ni bob amser yn dechrau’r broses brototeipio trwy dynnu llun. Mae hyn yn caniatáu i ni dasgu syniadau ymhlith y tîm i gael strwythurau a syniadau dylunio cyflym. Gwneir hyn orau mewn timau amlddisgyblaethol fel y gallwn gael ystod o safbwyntiau ar yr hyn allai weithio a’r hyn na fydd yn gweithio. Yn nodweddiadol, bydd arbenigwr ar dechnoleg yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bosibl, tra bydd dylunwyr yn aml yn canolbwyntio ar yr hyn fyddai’n arddangos cysyniadau orau i ddefnyddwyr. Un her a wynebon ni trwy’r dull hwn oedd bod rhaid i unrhyw ymchwil defnyddwyr a wnaed gennym gael ei gynnal o bell o ganlyniad i gyfyngiadau clo COVID-19. Am y rheswm hwnnw, roedd ein prototeipiau papur yn deillio’n bennaf o sesiynau cynhyrchu syniadau i dasgu syniadau a phrofi datrysiadau rhwng y timau sy’n gweithio ar y prosiect. Yn y prosiectau y bûm yn rhan ohonynt yn y gorffennol, roedd prototeipiau papur hyd yn oed yn cael eu datblygu a’u profi gyda rhai defnyddwyr, lle y bo’n bosibl. Ar ôl i’n prototeipiau papur gadarnhau’r hyn yr oeddem yn chwilio amdano, roedd angen i ni ddechrau profi gyda defnyddwyr go iawn. I wneud hyn, roedd arnom angen rhywbeth y gellid ei rannu ychydig yn haws.

Aros yn hyblyg wrth ddatblygu fersiynau dylunio

Ar ôl i ni leihau’r syniadau dylunio i un neu ddau, roedd angen i ni brofi ein canfyddiadau gyda defnyddwyr go iawn. Roedd angen i’n syniadau gael eu dilysu trwy ymchwil defnyddwyr i weld a oeddent yn cael yr effaith a fwriadwyd. Mae’n bosibl sefydlu prototeip sy’n gallu gwneud hyn yn eithaf cyflym gan ddefnyddio gwasanaethau fel Figma, sy’n caniatáu ar gyfer creu ffug-raglenni’n gyflym. Er ei bod yn cymryd ychydig yn hirach i greu hyn na lluniadau papur, mae’n rhoi canlyniadau gwell wrth gynnal ymchwil defnyddwyr gan ei fod yn aml yn edrych yn well ac yn haws ei addasu a’i newid.

Fe all fod pwysau i fynd yn syth at brototeip wedi’i godio, ond mae angen i ni allu aros yn hyblyg gan fod syniadau’n esblygu’n gyflym ar y cam hwn. Gall mynd yn syth at brototeip wedi’i godio fod yn beryglus, fel y bydd unrhyw ddatblygwr meddalwedd profiadol yn ei ddweud wrthych: mae’n aml yn fwy anodd o lawer newid dyluniad pan fydd yn bodoli mewn cod. Gall newidiadau sylweddol i ddyluniadau prototeip wedi’i godio arwain yn gyflym at fygiau a gwastraff amser. Byddwn eisiau dilyn y trywydd hwn dim ond pan fydd y dyluniadau wedi cael eu dilysu digon i sicrhau bod y cam nesaf yn werth yr ymdrech. I osgoi hyn, fe anfonon ni ddolenni i’r prototeip a’i rannu ar sgrîn, a gofyn i ddefnyddwyr roi eu barn am y dyluniad, gan wneud nodiadau ar sut y dylai’r dyluniadau esblygu wrth symud ymlaen.

Nesáu at ddyluniadau terfynol gan ddefnyddio cod 

Ar ôl trafod canfyddiadau ymchwil defnyddwyr o gamau cyntaf y prosiect, mae’r adborth yn ddigon penodol erbyn hyn i ni allu dechrau canolbwyntio ar ddyluniad terfynol. Ar yr adeg hon, mae’n briodol codio’r fersiwn nesaf oherwydd bod angen i ni bellach allu profi agweddau fel gwahanol senarios defnyddwyr, ieithoedd, defnydd ar ddyfeisiau symudol, a dilysu safonau hygyrchedd. Mae symud i brototeip wedi’i godio ar y cam hwn yn ein helpu i osgoi sefyllfa lle mae gennym ddwsin neu fwy o ddyluniadau Figma ar wahân sy’n gynyddol anodd eu cadw’n gyfredol.

Roedd dilysu’r rhan fwyaf o’n dyluniad yn golygu ein bod yn gwybod na fyddai dyluniadau’n amrywio gormod. Mae’n cymryd llawer o amser i greu prototeip wedi’i godio, hyd yn oed pan ddefnyddir cydrannau sydd eisoes yn bodoli. Mae’n bosibl llunio dyluniad Figma mewn ychydig oriau, ond mae’n gallu cymryd diwrnodau i greu prototeipiau wedi’u codio, yn dibynnu ar eu cymhlethdod. Pan fyddwn yn gweithio ar wibiadau wythnosol a dwywaith yr wythnos, gall hyn olygu bod perygl arafu fersiynau dylunio os caiff ei wneud yn rhy gynnar.

Canolbwyntiodd dyluniad y prototeip cychwynnol ar gyflymder creu. I alluogi hyn, defnyddiais system ddylunio sydd eisoes yn bodoli (o’r enw Material UI), sy’n set o gydrannau parod. Caniataodd hyn i mi greu dyluniad tebyg i’r prototeip Figma heb wastraffu amser yn dylunio fy narnau fy hun o’r rhaglen we. Nid oedd dyluniadau cynnar yn cysylltu ag unrhyw gronfa ddata na Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) oherwydd bod angen i ni addasu ein dyluniadau’n gyson. Roedd y broses ddatblygu hon a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio yn sicrhau bod defnyddwyr prawf yn dilysu ein dyluniadau’n barhaus. Roedd data wedi’i godio’n galed ar y cam hwn o hyd, ond fe sicrheais fod modd i’r fersiwn fyw o’r prototeip (a oedd ar gael i’r cyhoedd) gael ei diweddaru’n awtomatig wrth i’r broses ddatblygu fynd rhagddi.

Tra bod y rhan flaen gychwynnol wedi’i chodio yn cael ei defnyddio yn y rownd nesaf o sesiynau ymchwil defnyddwyr, creais API syml. Mae APIs yn cynnig ffordd fwy hyblyg o rynweithio â data, gan ganiatáu i ni ofyn am ddata gwahanol ar gyfer defnyddwyr gwahanol, er enghraifft. Disodlodd hyn ddata wedi’i godio’n galed yn y rhaglen. Galluogodd y newid hwn i fi baratoi ar gyfer cam nesaf y fersiwn a fyddai’n caniatáu ar gyfer gwahanol senarios a defnyddwyr. Oherwydd fy mod yn gwybod y byddai angen i’r rhaglen ganlyniadol gynnwys ymatebion ieithyddol gwahanol, fe sicrheais fy mod yn cynnwys lleoleiddio hefyd yn barod ar gyfer cyfieithiadau.

Addasu’r dyluniadau i ganfyddiadau ymchwil defnyddwyr

Pan oedd yr API yn barod, roedd canlyniadau’n dod i mewn o’r sesiynau ymchwil defnyddwyr. Fe ddefnyddion ni’r canfyddiadau hyn i addasu’r prototeip unwaith eto. Y tro hwn, gyda phŵer yr API, roeddem yn gallu creu sawl defnyddiwr a chanddynt achosion gwahanol. Caniataodd hyn i ni brofi amrywiaeth ehangach o syniadau dylunio a senarios yn gyflym ac yn rhwydd yn y rownd nesaf o ymchwil defnyddwyr. Un o’r pethau eraill yr oeddwn yn gallu eu cynnwys yn y dyluniad hwn oedd cydrannau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) GOV.UK. Rhoddodd hyn olwg a theimlad glanach fyth i’r rhaglen a fyddai’n gyfarwydd i lawer o ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio gwasanaethau’r llywodraeth yn y gorffennol.

 

Meddwl am y Gymraeg

Tra bod y rownd nesaf o ddyluniadau’n cael eu profi, fe ymgorfforon ni elfennau dwyieithog y gwasanaeth i sicrhau ein bod yn gallu darparu a phrofi’r gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Roedd cynnwys yr elfennau hyn ar yr adeg hon yn golygu eu bod ar gael wrth baratoi ar gyfer y rownd nesaf o ymchwil defnyddwyr gyda siaradwyr Cymraeg. Oherwydd ein bod yn gwybod y byddai angen hyn o’r dechrau, roedd y seilwaith eisoes ar waith i ymdrin â’r ieithoedd gwahanol. Y cyfan yr oedd angen ei wneud oedd rhoi’r cyfieithiadau cywir yn y dyluniad fel y gallai’r wefan adlewyrchu dewisiadau ieithyddol.

Gwersi a ddysgwyd

Mae gwersi i’w dysgu mewn unrhyw brosiect. Yn yr un modd â dyluniadau’r prototeip, dylai ein hymagwedd gael ei haddasu hefyd. Dyna un o’r pethau sy’n gwneud dylunio gan ddefnyddio methodoleg Ystwyth mor bwerus: y disgwyliad diofyn i ddysgu ac addasu. 

  • y prif beth a gefais i’n bersonol o’r prosiect alffa hwn oedd dealltwriaeth o sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â chydrannau’r rhaglen. Er enghraifft, roedd defnyddwyr yn aml yn anwybyddu rhai cydrannau a oedd yn caniatáu iddynt ddangos/cuddio rhannau o gynnwys ar dudalen gan nad oeddent yn sylweddoli y gallent glicio arnynt i’w hymestyn i gael rhagor o wybodaeth, hyd yn oed pan oedd arwyddion gweledol yn dangos hynny. Roedd hynny’n syndod i mi gan fod cydrannau o’r fath yn cael eu defnyddio’n aml mewn amryw raglenni ar y we, ac roeddwn yn eithaf cyfarwydd â sut roedden nhw’n gweithio
  • peth arall a ddysgais oedd y byddai wedi bod yn haws o lawer petawn i wedi defnyddio cydrannau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) yn gynharach yn y broses. Yn y modd hwnnw, byddai ein hamser profi ymchwil defnyddwyr wedi canolbwyntio mwy ar y cynnwys yn hytrach na phrofi strwythurau a dyluniad cydrannau. Mae’r cydrannau GDS wedi cael eu profi’n drylwyr, ac mae defnyddwyr yn fwy tebygol o wybod sut i ryngweithio â nhw. Y cydrannau a ddefnyddiais ar ddechrau’r prototeip oedd y rhai yr oeddwn i’n fwy cyfarwydd â nhw. Felly, er ei bod yn haws i mi ddatblygu’r fersiwn brototeip wreiddiol gan eu defnyddio nhw, nid oedd rhai defnyddwyr yn siŵr sut i ryngweithio â strwythur y rhaglen yn gynharach yn y broses

Trwy’r cam datblygu nesaf, byddwn yn parhau i addasu a phrofi ein datrysiad. Yn ystod y cam Beta hwn, byddwn yn gweithio tuag at fersiwn swyddogaethol sylfaenol y gallwn ei phrofi mewn cyd-destun gwasanaeth byw. Yn ystod y cam hwn, byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgwn wrth i ni fynd ymlaen.