2 Rhagfyr 2020

Image for post

Dysgu o’r rheng flaen

Mae Chris Owens, rheolwr yn nhîm yr Un Pwynt Cyswllt i Oedolion yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, yn rhan o brosiect y sgwad arbenigol, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chyllid Cymdeithasol. Yn y blog diweddaraf hwn, mae Chris yn rhoi ei brofiad o weithio gyda’r prosiect hyd yn hyn.

Rheolwr Gwasanaeth — fy mhrofiad i!

Croeso i fy mlog cyntaf ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Fi yw rheolwr y tîm ar gyfer un pwynt cyswllt i oedolion @CyngorCnPT, ac rwy’n gweithio gyda sgwad trawsnewid digidol cyntaf y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Rydym ni’n edrych sut gallwn ni wella gwasanaethau i’r defnyddiwr ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion.

Pam ddechreuais i gymryd rhan

Ar ôl gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol ers 16 mlynedd, rwy’ wedi gweld newid sylweddol yn y ffordd y mae gwasanaethau wedi’u cynllunio dros y cyfnod hwnnw ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r tîm sy’n llunio’r rheini am flynyddoedd i ddod. Fel gwasanaeth llinell flaen, y cysylltiad â’n preswylwyr yw’r peth pwysicaf oll ac, yn benodol, sut brofiad caiff ein preswylwyr o’n gwasanaeth a sut rydym ni’n cyflwyno’r deiliannau gorau posibl i’r bobl y mae arnynt ein hangen ni fwyaf. Teimlom y gallai bod yn rhan o’r prosiect hwn olygu bod gan fwy o drigolion lais o ran llunio’n gwasanaethau a ble byddai angen i ni wneud newidiadau i gynorthwyo â hyn.

Camu’n ôl

Fel gweithiwr cymdeithasol, mae ein hyfforddiant bob amser yn gofyn i ni fyfyrio — beth wnaethom ni, beth aeth yn dda neu ddim cystal, beth ddysgom ni a beth byddwn ni’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf i wella. Mae’r prosiect yn caniatáu i ni gymryd cam yn ôl a myfyrio ar brofiad y preswylwyr, a ph’un a yw hwnnw’n ddigon da. Roedd angen i ni ddangos gostyngeiddrwydd a chydnabod, i wella’n gwasanaethau, bod angen i ni droi at yr arbenigwyr ar eu dylunio — nid ni, nid CDPS, ond y preswylwyr eu hunain. Roedd angen inni sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Defnyddio ‘Agile’

Roedd gweithio ar brosiect ‘Agile’ yn brofiad newydd i mi a doeddwn i bob amser yn siŵr am y geiriau technegol oedd yn cael eu defnyddio. Weithiau, mae fel siarad iaith arall, ond yr hyn oedd bwysicaf i fi oedd sicrhau nad prosiect arall oedd hwn fyddai’n cymryd mor hir fel bod y rheswm dros ei wneud eisoes wedi dyddio erbyn iddo ddod i ben. Dyna un o’r pethau allweddol mae dull Agile wedi’i roi i ni. Mae’r prosiect wedi symud yn gyflym, rydym wedi sefydlu ffordd o ddefnyddio iaith sy’n golygu rhywbeth i bob un ohonom. Mae’r tîm o Gyllid Cymdeithasol wedi gwrando ar ein profiadau a dod o hyd i ffordd o drosi hynny yn ddarlun digidol ystyrlon gyda chymorth gan ein preswylwyr a’r cyfweliadau a gynhaliwyd eisoes. Yn bersonol, gweld prosiect yn symud mor gyflym ac mor effeithlon yw’r rheswm pam y bu’n werth rhoi cymaint o fy amser fy hun iddo.

Beth ddysgais i hyd yn hyn

  • mae’n hanfodol cynnwys barn preswylwyr wrth gynllunio ein gwasanaethau. Nhw sy’n ganolog i’r rheswm pam mae angen i ni gael hyn yn gywir
  • rydw i wedi dysgu am y gwahaniaethau rhwng ein tri awdurdod lleol (mae hwn yn brosiect ar y cyd â @BlaenauGwentCBC a @TorfaenCouncil) a, gobeithio, wedi cymryd y gorau o’n gwasanaethau ein gilydd a dysgu o’r hyn nad yw’n gweithio cystal i bob un ohonom
  • gan symud yn gyflym, mae’r dangos a dweud yn ffordd wych o gynnal diddordeb pobl yn y broses, mae’n cadw pethau’n flaenllaw, ac rydych chi’n teimlo’n aelod gwerthfawr o’r grŵp
  • byddai gwneud hyn ar fy mhen fy hun yn amhosibl, mae wedi cymryd amrywiaeth o sgiliau a phobl i ddwyn y cyfan oll at ei gilydd. Ac, yn bwysig, gwrando ar ein gilydd heb fod yn amddiffynnol a bod yn agored i bosibiliadau newydd
  • yn olaf, rwy’ wedi dysgu bod cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi agor syniadau ar gyfer meysydd gwella gwahanol a sut gallwn ni ddatblygu’r rheini yn y dyfodol hefyd

At ei gilydd, rwy’ wir wedi mwynhau bod yn rhan o’r prosiect ac rwy’ wedi teimlo’n gysylltiedig a bod gwerthfawrogiad ohonof. Mae ein tîm wedi gweithio mor dda gyda’n gilydd, ac rwy’n hyderus iawn y bydd y canlyniad yn y pen draw yn gipolwg craff ac ystyrlon i’r ffordd gallwn ni wella popeth y gwnawn, gan ganolbwyntio ar brofiad y preswylydd.