Yn dilyn ymchwili gyda defnyddwyr, rydym wedi lansio cyrsiau hyfforddi newydd ar gyfer timau ac arweinwyr sy'n darparu gwasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru.

26 Hydref 2022

Rydyn ni'n gyffrous iawn i lansio ein hiteriad cyntaf o 'Campws Digidol', gan gynnwys 3 chwrs hyfforddiant newydd i Ystwyth a digidol

Yn ein cofnod blog diwethaf, soniwyd am werth sicrhau bod ‘Campws Digidol’ yn datblygu yn unol â Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru

Ers hynny, rydym wedi canolbwyntio’r gwasanaeth ar 3 o’r safonau hyn:

Rydym wedi siarad â phobl sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant blaenorol gyda Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (CDPS). Trafodwyd hefyd â phobl nad oedd yn gwybod llawer am bwysigrwydd dulliau digidol, nac ychwaith werth adeiladu gwasanaethau i ddiwallu anghenion defnyddwyr. 

Cyrsiau hyfforddi newydd

Yn dilyn yr ymchwil yma, rydym yn gynnwrf I gyd wrth lansio ein hiteriad cyntaf o ‘Campws Digidol’. Mae’n cynnwys 3 chwrs hyfforddi newydd:

Digidol ac Ystwyth: yr hanfodion

Bydd y cwrs yma yn:

  • egluro sut mae digidol yn ysgogi newid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • eich cyflwyno i ffyrdd Ystwyth o weithio
  • sôn wrthych am Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru

Addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yng Nghymru, neu gyda thimau sy’n darparu gwasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru ac rheiny sy’n newydd i ffyrdd digidol neu Ystwyth o weithio.

Sylfeini Ystwyth ar gyfer timau

Bydd y cwrs hwn yn:

  • esbonio gwerthoedd ac egwyddorion ffyrdd Ystwyth o weithio 
  • dangos pam a sut mae ffyrdd Ystwyth o weithio yn helpu timau i ddarparu gwasanaethau gwell i ddefnyddwyr  
  • eich helpu i ddeall cylch bywyd y cynnyrch 
  • dangos i chi sut i roi dulliau gweithio ac arferion Ystwyth ar waith yn eich tîm 

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn, neu gyda thimau sy’n darparu gwasanaethau sector gyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio tuag at fod yn ymarferydd ffyrdd digidol, neu ffyrdd Ystwyth o weithio.

Sylfeini Ystwyth ar gyfer arweinwyr

Yn dilyn y cwrs, mi fydd arweinwyr yn:

  • deall pam ei bod yn bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus digidol yn cael eu dylunio gan ddefnyddio safonau sy’n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, y gwasanaethau y mae trigolion yn eu defnyddio o’u dechrau I'w diwedd, yn ogystal â bod yn gynhwysol 
  • egluro a hyrwyddo gwerthoedd ac egwyddorion ffyrdd Ystwyth o weithio  
  • bod yn fodel rôl ar gyfer y diwylliant a’r arweinyddiaeth sy’n cefnogi gweithio Ystwyth 
  • ennyn mwy o ddealltwriaeth dros sut mae cyfeirio trawsffurfiad, diwygio’r ffordd y mae tîm yn gweithio, yn ogystal â gwneud newidiadau i'r amgylchedd ehangach er mwyn cefnogi'r trawsffurfiad

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n arwain timau sy’n darparu gwasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru, a’r rhai sy’n gweithio tuag at fod yn ymarferydd ffyrdd digidol, neu ymarferydd ffyrdd Ystwyth o weithio.

Profi’r cyrsiau

Roeddem eisiau sicrhau bod ein cyrsiau yn diwallu anghenion y defnyddwyr.

Fe wnaethom alw ar sefydliadau i brofi'r cyrsiau hyn i ni. Rydym yn ddiolchgar i awdurdodau lleol Sir Fynwy a Chastell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rhain fydd y garfan gyntaf i gymryd rhan, profi a rhoi adborth i ni ar eu profiad. 

Rydym wedi enwi’r cyrsiau yma yn seiliedig ar ymchwil gyda defnyddwyr. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn ydyn nhw, ac i bwy maen nhw, yn glir.  

Tra bod cyrsiau hyfforddi yn gallu bod yn effeithiol, mae ein hymchwil defnyddwyr hefyd wedi cadarnhau nad ydynt yn ddigon ar eu pen eu hunain i gael effaith pellgyrhaeddol ar lefel sefydliadol. Mae hyn yn sicr yn wir am y math o drawsnewidiad digidol rydym yn gweithio tuag ato yng Nghymru. 

Sesiynau cefnogi

Mae angen i arweinwyr a'u timau siarad yr un iaith, meddu ar y sgiliau cywir, a chael eu cefnogi y tu hwnt i'r diwrnod hyfforddi. Yn ogystal â deall cyd-destun y sector gyhoeddus yng Nghymru a dilyn Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, mae angen cefnogaeth gynhwysfawr arnynt, gan gynnwys:

  • hyfforddi 
  • cyfleoedd i ddysgu wrth wneud 
  • cefnogaeth i wybod lle mae dechrau 
  • deunyddiau ac adnoddau 
  • cyfle i ofyn cwestiwn i rywun pan nad ydynt yn siŵr 

Er mwyn cefnogi’r dull yma, mi fydd y ‘Campws Digidol’ hefyd yn lansio sesiynau ‘Coffi Cyflym’ a ‘Chinio a Dysgu’ yn rhad ac am ddim. Medrwch archebu lle ar y cyrsiau hyn:

  • mae Coffi Cyflym yn gyfarfodydd gyda strwythur ond heb agenda – maent yn gyfle i drafod pynciau yr hoffech chi siarad amdanyn nhw, ac i bawb ddysgu rhywbeth newydd
  • mae ein sesiynau Cinio a Dysgu yn para 50 munud, ac yn mynd at wraidd pwnc gyda grŵp o hyd at 20 o bobl