Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru

Mae’r safonau hyn yn nodi’r disgwyliadau o ran gwasanaethau digidol newydd a rhai sydd wedi’u hail ddylunio sydd wedi eu hariannu gan sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.

Bodloni anghenion defnyddwyr

  1. Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol
  2. Dylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg
  3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion
  4. Darparu profiad cydgysylltiedig
  5. Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth

Creu timau digidol

  1. Bod â pherchennog gwasanaeth sydd wedi’i rymuso
  2. Sefydlu tîm amlddisgyblaethol
  3. Ailadrodd a gwella’n aml
  4. Gweithio’n agored

Defnyddio’r dechnoleg iawn

  1. Defnyddio technoleg y gellir addasu ei graddfa
  2. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch ar bob cam
  3. Defnyddio data i wneud penderfyniadau

Bodloni anghenion defnyddwyr 

1. Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol 

Dylai timau gwasanaeth gael eu hysgogi gan ganlyniadau sydd o fudd i bobl Cymru, nid gan restrau o ofynion technegol. Dylech ystyried cenedlaethau’r dyfodol a meddwl am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Dylai gwasanaethau gyfrannu at 7 nod llesiant Cymru

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn am ffordd newydd o feddwl am sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu. Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i wella llesiant pobl Cymru ac yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.  

Sut i ddechrau arni  

Defnyddiwch adnoddau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddeall effaith ehangach eich gwasanaeth. Mae’r Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cwestiynau i’w hystyried wrth ddylunio gwasanaeth newydd neu gynllunio newid i wasanaeth. 

2. Dylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg  

Mae’n rhaid i wasanaethau yng Nghymru fodloni anghenion pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Mae angen i chi ddylunio a chreu gwasanaethau sy’n hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ac yn trin pobl sy’n ei siarad yn gydradd â phobl sy’n siarad Saesneg. Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar hybu’r Gymraeg

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau pob dydd. Mae’n rhan o’n hunaniaeth fel cenedl. Mae’n rhaid i ni ddylunio gwasanaethau sy’n rhoi hyder i siaradwyr Cymraeg eu defnyddio yn Gymraeg. 

Sut i ddechrau arni  

Gwnewch gynnwys Cymraeg yn ganolog i ddatblygu’ch gwasanaeth o’r dechrau. Peidiwch â dechrau ystyried agweddau Cymraeg ar y gwasanaeth ar ôl y broses ddylunio. 

Profwch gynnwys Cymraeg gyda defnyddwyr cyn gynted ag y gallwch. Mae angen i’r Gymraeg a ddefnyddiwch, a’r ffordd y mae defnyddwyr yn defnyddio gwasanaeth Cymraeg, ffurfio rhan o’ch cynllun profi defnyddioldeb. 

Dyluniwch ddatrysiadau technegol gydag anghenion defnyddwyr Cymraeg mewn cof. Ystyriwch anghenion Cymraeg wrth brynu meddalwedd a gwasanaethau gan werthwyr. Dyluniwch fanylebau gan ddefnyddio’r canllawiau hyn ar gyfer profiad dwyieithog da i ddefnyddwyr.  

3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion  

Mae’n rhaid i wasanaeth gael ei ddylunio yn unol ag anghenion defnyddwyr, pwy bynnag yw’r defnyddwyr hynny. Mae anghenion defnyddwyr yn bwysicach na’r ffordd y mae sefydliad wedi’i strwythuro neu’r dechnoleg y mae’n ei defnyddio ar hyn o bryd.  

Edrychwch ar daith y defnyddiwr o’r dechrau i’r diwedd, gan ddeall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau, boed hynny ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pawb, felly mae’n rhaid i chi ystyried hygyrchedd. 

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae deall defnyddwyr a’u hanghenion yn arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer gwasanaeth. Mae gwneud gwaith ymchwil yn uniongyrchol gyda defnyddwyr yn lleihau’r perygl o wastraffu amser ac arian yn creu rhywbeth nad yw’n cael ei ddefnyddio neu sy’n achosi problemau mwy i ddefnyddwyr. Mae dysgu am y bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaeth yn newid y pwyslais o feddwl am ddatrysiadau i ganolbwyntio ar y problemau go iawn y mae angen eu datrys. Mae’n eich helpu i wneud penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth am y ffyrdd symlaf a mwyaf cost-effeithiol o fodloni anghenion defnyddwyr. 

Sut i ddechrau arni  

Cyn buddsoddi mewn cynnyrch digidol newydd, dylech:  

4. Darparu profiad cydgysylltiedig 

Mae gwasanaethau nad ydynt yn gydgysylltiedig yn anodd i bobl eu defnyddio. Mae angen i’r gwasanaethau a ddarparwch weithio’n ddi-dor pa ffordd bynnag y mae defnyddwyr yn cael gafael arnynt er mwyn iddynt gael profiad cyson. Trefnwch dimau mewnol i gefnogi’r gwasanaeth a bodloni anghenion defnyddwyr. 

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae’n rhaid i chi ddeall taith y defnyddiwr, a sut mae’r defnyddiwr yn mynd trwy bob sianel gyfathrebu a sefydliad, i ddylunio gwasanaethau sy’n gwneud synnwyr ac sy’n gyson.   

Sut i ddechrau arni  

Mapiwch brofiad y defnyddiwr o’r gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, gan nodi ble mae angen i’r defnyddiwr ryngweithio â sianeli digidol ac all-lein gwahanol. Dylai dylunwyr ac ymchwilwyr defnyddwyr weithio gyda thimau gweithrediadau i adolygu a gwneud newidiadau i’r sianeli eraill hyn, fel y bo’r angen. 

Cymerwch gyfrifoldeb am weithio gyda sefydliadau eraill ar rannau gwahanol o daith y defnyddiwr fel bod y gwasanaeth yn gydlynol ac yn bodloni anghenion defnyddwyr ar bob cam. Defnyddiwch ddata ac adborth defnyddwyr o bob sianel i fireinio a gwella’r gwasanaeth a chynyddu defnydd digidol.   

5. Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth 

Fel arfer, nid oes dewis arall yn lle defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, felly mae’n rhaid iddynt weithio i bawb. Dyluniwch wasanaethau i fod yn gynhwysol, gan wneud yn siŵr bod unrhyw un y mae angen iddo eu defnyddio yn gallu gwneud hynny mor rhwydd â phosibl. Mae cynnwys defnyddwyr sy’n aml yn cael eu hallgáu o wasanaethau yn gwneud y gwasanaethau hynny’n haws i bawb eu defnyddio. 

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae cynhwysiant digidol yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd a chael at wasanaethau. Mae bod yn ddigidol alluog yn bwysig i gael at waith, addysg, gofal iechyd a gwybodaeth diogelwch cyhoeddus. Mae’r grwpiau sy’n fwyaf tebygol o gael eu hallgáu’n ddigidol yn cynnwys pobl â lefelau addysgol neu incwm is, yr henoed a phobl ag anableddau. Y rhesymau mwyaf cyffredin pam nad yw pobl yn gallu mynd ar-lein yw cost technoleg neu fand eang a diffyg sgiliau digidol.  

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud bod rhaid i chi beidio ag allgáu grwpiau gwarchodedig rhag cael at wasanaethau cyhoeddus. Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 yn dweud bod rhaid i chi sicrhau bod gwasanaethau digidol yn cydymffurfio â safon gyson o hygyrchedd. 

Sut i ddechrau arni  

Dylech: 

Er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018, mae’n rhaid i wasanaethau digidol: 

Creu timau digidol 

6. Bod â pherchennog gwasanaeth sydd wedi’i rymuso  

Fe ddylai fod un perchennog gwasanaeth wedi’i rymuso sydd â’r awdurdod i wneud yr holl benderfyniadau busnes, cynnyrch a thechnegol am wasanaeth. 

Mae’r un unigolyn yn atebol ac yn gyfrifol am ba mor dda y mae’r gwasanaeth yn bodloni anghenion ei ddefnyddwyr, a dyna sut bydd ei lwyddiant yn cael ei werthuso. Dysgwch fwy am berchnogion gwasanaethau yn GOV.UK. 

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae perchennog gwasanaeth yn gyfrifol am y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, a allai gynnwys llawer o gynhyrchion a sianeli digidol ac all-lein. Efallai y bydd ychydig o bobl yn gyfrifol am wasanaeth, ond mae’n rhaid i un unigolyn gael ei rymuso i gynrychioli anghenion defnyddwyr. 

Sut i ddechrau arni  

Dylech: 

7. Sefydlu tîm amlddisgyblaethol 

Mae gwasanaethau’n cael eu creu gan dimau. Fe ddylai pob un fod yn gymysgedd amrywiol o bobl, profiad, arbenigedd a disgyblaethau.  

Yn ogystal â bod â’r cymysgedd iawn o sgiliau a phrofiad ar gyfer pob cam o ddylunio a chreu’r gwasanaeth, fe ddylai eich tîm allu newid dros amser. Mae angen i chi hefyd wybod beth fyddai cost tîm sy’n gyfrifol am welliant parhaus y gwasanaeth. 

Pam mae hyn yn bwysig  

Bydd arnoch angen y sgiliau iawn yn y tîm i wneud penderfyniadau effeithiol a chyflawni’n gyflym. Nid oes modd cael rolau penodol bob amser pan fydd sefydliadau’n dechrau ar eu taith ddigidol. Ond mae’n bwysig deall yr amrywiaeth eang o sgiliau sy’n angenrheidiol ar wahanol gamau datblygu.  

Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd o sgiliau digidol, fel:  

Bydd arnoch angen arbenigwyr pwnc hefyd. Gallai’r rhain fod yn arbenigwyr busnes neu gyfreithiol, neu’n ymarferwyr fel gweithwyr cymdeithasol neu athrawon, yn dibynnu ar ba fath o wasanaeth rydych yn ei greu. 

Sut i ddechrau arni  

Bydd angen i chi: 

Os nad oes pobl yn eich sefydliad sy’n meddu ar y sgiliau hyn, bydd angen i chi brynu cymorth digidol arbenigol. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy’r Farchnad Ddigidol neu GwerthwchiGymru. Bydd hyn yn helpu cynyddu gallu a sgiliau mewnol trwy weithio gydag arbenigwyr. 

8. Ailadrodd a gwella’n aml  

Defnyddiwch ddull datblygu cyflym, fesul cam i roi meddalwedd ymarferol yn nwylo defnyddwyr cyn gynted â phosibl, mor aml â phosibl. Bydd hyn yn helpu timau i ailadrodd yn gyflym, yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr.   

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae angen i wasanaethau esblygu law yn llaw â dealltwriaeth well o anghenion defnyddwyr. Mae cyflwyno gwasanaeth i ddefnyddwyr cyn gynted â phosibl yn rhoi adborth i’r tîm ar y pethau sy’n gweithio a’r pethau y mae angen iddynt newid. Mae gallu gwella’r gwasanaeth yn barhaus yn golygu y gallwch ymateb i newidiadau ymhlith defnyddwyr neu mewn technoleg neu bolisi’r llywodraeth. 

Sut i ddechrau arni  

Dylech: 

9. Gweithio’n agored 

Gwnewch y gwasanaethau rydych yn eu creu, a’r technegau a ddefnyddiwyd i’w creu, mor agored â phosibl.  

Wrth i chi ddatblygu gwasanaeth, fe ddylai eich tîm gyfleu’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud a rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. Dylech hefyd rannu cod a phatrymau dylunio mor rhydd â phosibl er mwyn helpu eraill sy’n creu gwasanaethau cyhoeddus.  

Pam mae hyn yn bwysig 

Mae diwylliant agored a chydweithredol o fewn a rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus yn helpu i rannu gwybodaeth a darparu gwasanaethau cyson. 

Sut i ddechrau arni   

Dylech: 

Defnyddio’r dechnoleg iawn 

10. Defnyddio technoleg y gellir addasu ei graddfa 

Defnyddiwch yr offeryn symlaf a mwyaf priodol, a cheisiwch osgoi cael eich dal yn gaeth i gontractau ar gyfer technolegau penodol. 

Gadewch i’ch tîm ddefnyddio’r offer sy’n gweithio iddyn nhw. Anogwch nhw i ddefnyddio offer sy’n bodloni safonau agored, sydd wedi’u seilio ar y cwmwl ac sy’n cael eu cefnogi’n eang. 

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae dewisiadau technoleg yn cael effaith enfawr ar sut mae sefydliadau’n creu, ailadrodd a chynnal gwasanaethau. Mae’n rhaid i dechnoleg beidio â rhwystro gallu timau i weithio ar y cyd. 

Sut i ddechrau arni   

Dylech: 

11. Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogelwch ar bob cam 

Mae’n rhaid i wasanaethau digidol ddiogelu gwybodaeth sensitif a chadw data’n ddiogel. Dylech fynd i’r afael â materion moesegol sy’n gysylltiedig â phob gwasanaeth digidol ar bob cam o’u datblygiad.  

Pam mae hyn yn bwysig  

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dal gwybodaeth bersonol a sensitif am ddefnyddwyr. Mae’n rhaid i wasanaethau fod yn ddiogel er mwyn cadw ymddiriedaeth defnyddwyr. 

Sut i ddechrau arni   

Dylech: 

 12. Defnyddio data i wneud penderfyniadau 

Mesurwch ba mor dda y mae gwasanaethau’n gweithio i ddefnyddwyr yn gyson. Dylech ddefnyddio data perfformiad i flaenoriaethu gwelliannau. Os oes modd, dylai’r dull o gasglu’r data hwnnw fod yn awtomataidd ac ar y pryd, i’w wneud mor wrthrychol a hawdd ei gasglu â phosibl.  

Profwch newidiadau ailadroddol i wasanaethau gyda defnyddwyr. Dylai uwch arweinwyr gymryd rhan mewn gwaith ymchwil yn rheolaidd hefyd, er mwyn iddynt ddeall profiad y defnyddiwr. 

Pam mae hyn yn bwysig 

Mae angen i chi ddeall pa ddata fydd yn eich helpu i fodloni anghenion defnyddwyr. Mae data’n dweud mwy wrthych am y gwasanaeth ac yn gallu cael ei rannu ymhlith sefydliadau perthnasol i wella profiad defnyddwyr.   

Dylech fonitro perfformiad y gwasanaeth i gael gwybod ei fod yn parhau i ddatrys y broblem i ddefnyddwyr. Mae dadansoddeg amser real yn dangos sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â’r gwasanaeth ac a oes unrhyw broblemau y mae angen eu datrys o hyd.  

Sut i ddechrau arni 

Dylech: