18 Awst 2021

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd cyfarfod misol cyntaf ein cymuned ymarfer ‘Cyfathrebu Digidol’. Mae 16 o ymarferwyr cyfathrebu wedi ymuno â’r gymuned ers i ni ei lansio yn ôl ym mis Mai.

Gofod a rennir ac annog ymgysylltu

Gall cymuned ymarfer dda helpu i chwalu seilos, cyflymu datblygiad proffesiynol a rhannu gwybodaeth a phrofiad. Dros amser, gobeithiwn y bydd y gymuned hon yn datblygu’n grŵp sy’n rheoli ei hun, ac i helpu i sbarduno hyn rydyn ni wedi creu dogfen gynllunio a rennir y gall unrhyw aelodau o’r gymuned gyfrannu ati trwy ychwanegu syniadau ar gyfer siaradwyr neu heriau yr hoffent eu trafod. Fe wnaethon ni hefyd roi ychydig o strwythur i’r cyfarfodydd misol i wneud yn siŵr ein bod yn cael cyfle i glywed gan y grŵp ac elwa o’r amser gyda’n gilydd. Gall y grŵp enwebu sefyllfa, problem, her neu lwyddiant y gallai fod yn ddefnyddiol i’r grŵp glywed amdano/amdani neu y gallai’r grŵp helpu i fynd i’r afael ag ef/hi. Rydyn ni eisiau i’r gymuned fod yn gyfle i’r aelodau dynnu sylw at y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ac yn rhywle i gael cyngor a chymorth ac ysgogi trafodaethau.

I’n helpu gyda hyn, dilynodd ein cyfarfod cyntaf agenda amlinellol:

  • cyflwyniadau a chroeso
  • cyflwyniad: Beth ydym ni’n ei olygu wrth ‘Gyfathrebu Digidol’
  • holi ac ateb
  • drosodd i chi – 2 drafodaeth x 7 munud 
  • crynodeb – Awgrymiadau ar gyfer y cyfarfod nesaf
  • gorffen

Beth ydym ni’n ei olygu wrth gyfathrebu gweddnewid digidol?

Yn y rhan ar ‘Beth ydym ni’n ei olygu wrth Gyfathrebu Digidol’, fe glywson ni gan Victoria Ford sydd wedi cyflawni nifer o rolau ym maes cyfathrebu a digidol, gan gynnwys Pennaeth Cyfathrebu yn y sector cyhoeddus, am flynyddoedd lawer. Soniodd Victoria am y gwahaniaeth rhwng cyfathrebu newid neu weddnewid digidol a chyfathrebu digidol. Dechreuodd gyda’r diffiniad canlynol o ddigidol:

‘Mae’r termau digidol a TG yn aml yn cael eu defnyddio i olygu’r un peth, ond mae gweddnewid digidol yn ymwneud â chymaint yn fwy na thechnoleg yn unig. Mae’n ymwneud â dylunio gwasanaethau o amgylch anghenion eich defnyddwyr, mae’n ymwneud â chreu sefydliad sydd â’r diwylliant a’r sgiliau i alluogi newid i lwyddo. Mae’n ymwneud â phobl.’

Yn ogystal â sôn am y syniad o ‘weithio’n uchel’ a rôl gweithwyr cyfathrebu proffesiynol wrth gynorthwyo unigolion, timau a sefydliadau i wneud hyn, esboniodd Victoria yr angen i osod cyd-destun a chyflwyno agwedd ddynol, hyblyg at gyfathrebu gweddnewid digidol. Siaradodd am gydweithio a chwilio am gyfleoedd i annog sefydliadau i ymwneud â newid digidol.

Trafododd y grŵp gyflwyniad Victoria, gan gynnwys rôl cyfathrebu wrth ddatblygu strategaeth sefydliadol a sut gallwn ni addasu ein hoffer a’n technegau i ymateb i gyflymder a heriau newid digidol.

Rhannu heriau a cheisio cyngor

Gan fod y sgyrsiau ynglŷn â’r diffiniad o ddigidol a rôl timau cyfathrebu wedi mynd ymlaen yn hirach na’r disgwyl, dim ond un o’r cwestiynau gan y grŵp yr oedd gennym amser i’w ateb. Gofynnodd Rob Owen-Jones o Gyngor Bro Morgannwg:

“Byddwn â diddordeb gwybod a oes unrhyw un wedi cael profiad o gydlynu rhwydweithiau mewnol o bobl nad ydynt yn ymwneud â chyfathrebu sy’n gwneud elfennau o waith cyfathrebu, a sut i annog arfer gorau.

Y broblem rwy’n ceisio ei datrys yw ein rhwydwaith mewnol o olygyddion cynnwys ar gyfer y wefan. Mae gennym ni drefniant lle mae dwsinau o gydweithwyr mewn meysydd gwasanaeth unigol sy’n cynnal rhannau o’n gwefan.”

Ysgogodd y cwestiwn hwn sgwrs ddiddorol ynglŷn â thechnegau ar gyfer dod â phobl at ei gilydd ar draws busnes i gydweithio ar bynciau y tu allan i’w rolau craidd a rhoi pobl mewn grwpiau yn ôl sgiliau a diddordebau yn hytrach na phynciau busnes. Trafododd y grŵp ganllawiau arddull a sicrwydd, a soniodd am enghreifftiau lle’r oedd hyn wedi gweithio’n dda yn y gorffennol ar safleoedd fel gov.uk. Mae Rob ac eraill bellach yn bwriadu ystyried yr enghreifftiau hyn yn eu sefydliadau eu hunain.

Edrych ymlaen at ein cyfarfod nesaf

Roedd yn wych bod yn rhan o sgwrs mor fywiog a dechrau deall sut gall y gymuned hon ychwanegu gwerth. Roedd ein hagenda ychydig yn uchelgeisiol a byddwn yn anelu at un cyflwyniad ac un cwestiwn grŵp ar gyfer yr un nesaf! 

Wrth i’r gymuned ddatblygu, gobeithiwn hefyd y bydd y grŵp yn rhoi adborth ar eu profiadau o weithredu rhai o’r syniadau a drafodwyd, fel bod dysgu’n dod yn gylchol ac wedi’i seilio ar brofiadau go iawn yr arbenigwyr cyfathrebu yn yr ystafell (rithwir!).

Os hoffech ddod yn rhan o’r gymuned hon ac mae gennych syniadau a phrofiadau i’w rhannu, neu heriau yr hoffech eu trafod gyda grŵp ehangach o arbenigwyr cyfathrebu, cysylltwch â ni ar info@digitalpublicservices.gov.wales Byddem yn falch iawn petaech chi’n cymryd rhan.