2 Hydref 2020

Yn ein blog rhagarweiniol, gwnaethom sôn am y tri maes ffocws ar gyfer y cyfnod alffa hwn o’r Ganolfan. Dyma’r ffrydiau gwaith rwyf yn eu harwain fel rheolwr rhaglenni — criw gweddnewid digidol, hyb gwybodaeth, a sgiliau a gallu.

Byddwn yn blogio am gynnydd pob un o’r rhain — maent yn rhannau pwysig nid yn unig o sefydlu’r Ganolfan, ond o ran dangos gwerth gwirioneddol i’r rhai sy’n darparu ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a’r bobl rydym yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer.

Dechrau arni

Y prosiect cyntaf i ddechrau arni yw ein criw yn edrych ar weddnewid digidol. Un o’r heriau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru yw dod o hyd i’r arbenigedd a’r sgiliau i ddechrau gweithio mewn ffordd wahanol, a llunio gwasanaethau sydd ag anghenion defnyddwyr wrth wraidd iddynt. Er y bydd ein prosiectau sgiliau digidol a hybiau gwybodaeth yn dechrau mynd i’r afael â hynny, mae angen i ni edrych ar ymgysylltu a throsglwyddo sgiliau’n ymarferol hefyd. Rydym yn gwneud hynny drwy gael tîm arbenigol, sef criw gweddnewid digidol, sy’n gallu gweithio ochr yn ochr â thimau mewn sefydliadau i’w cynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau sydd wedi’u seilio ar lunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr.

Yn dilyn ymarfer caffael i ddod o hyd i’r arbenigedd hwnnw, mae ein criw cyntaf yn cael ei redeg gan Social Finance. Ei rôl yw cynnig cymorth cyflym i dri awdurdod lleol, a fydd yn brawf ar gyfer cyflwyno’r dull hwn yn ehangach.

Dewis gwasanaeth

Gwnaethom benderfynu gweithio â thri awdurdod lleol, sef Castell-nedd Port Talbot (CnPT), Torfaen a Blaenau Gwent, nad ydynt fel arfer yn cydweithio â’i gilydd ar y mathau hyn o brosiectau, i brofi’r cysyniad o gydweithio mewn amgylchedd newydd. Roedd yr arweinwyr o bob awdurdod yn awyddus i hyrwyddo ffyrdd digidol a ffyrdd newydd i wella gwasanaethau i’w preswylwyr. Bu’r tîm, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol a’r tîm arbenigol o Social Finance, yn edrych ar faterion yn ymwneud â sut mae dinasyddion yn manteisio ar ofal cymdeithasol, gan ymchwilio’n benodol i broblemau o ran manteisio ar ofal cymdeithasol i oedolion, prinder darpariaeth gwybodaeth ddigidol, a darparu gwasanaethau trafodaethol. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan ymchwil a data defnyddwyr a gasglwyd yn ystod y cyfnod darganfod cynnar.

Roedd y gwasanaeth hwn yn un delfrydol i’n criw arbenigol cyntaf ei gefnogi, oherwydd:

  • mae’r materion diweddar yn ymwneud â COVID wedi effeithio’n ddifrifol arno, a bydd yn parhau i wynebu heriau wrth i bwysau ar wasanaethau gynyddu
  • mae’n cynnwys dibyniaethau a rhyngweithiadau ehangach â phartneriaid eraill, fel darparwyr iechyd a sefydliadau’r trydydd sector
  • mae ganddo’r potensial i gyflawni arbedion sylweddol o ran amser a chostau i’w ddarparu fel gwasanaeth
  • mae ganddo’r potensial i gyflawni gwelliannau sylweddol o ran boddhad defnyddwyr a’r amgyffrediad o ddarparu gwasanaeth da

Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr hyn y byddwn yn ei ddysgu o’r prosiect hwn yn ddefnyddiol i bob awdurdod lleol a darparwr gwasanaeth yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i rannu’r dysgu hwnnw wrth i bethau ddatblygu.

Beth nesaf?

Buom yn cydweithio â’r timau o’r tri awdurdod lleol am ychydig wythnosau erbyn hyn. Bu’n gyflym, bu rhai heriau, ond bu llawer o ddysgu hefyd. Mewn blogiau yn y dyfodol, byddwn yn clywed gan arweinwyr y prosiect ym mhob un o’r awdurdodau lleol am fod yn rhan o’r criw cyntaf hwn, a byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r cyfnod darganfod.