23 Medi 2020

‘Mae newid digidol yn ymwneud â mwy na thechnoleg yn unig, mae’n ymwneud â newid diwylliant. Mae’n ymwneud â bod yn agored. Mae’n ymwneud â defnyddio data i ddatrys problemau. Yn lle dylunio gwasanaethau o safbwynt yr hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru yn credu y mae ei angen ar ddinesydd, mae ymagwedd ddigidol yn golygu dylunio gwasanaethau sy’n bodloni anghenion y defnyddiwr.’ Daeth hyn o’r adroddiad Newid y System: Gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus trwy ddefnyddio digidol yn well. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gallu manteisio ar bŵer y datblygiadau digidol a welwn o’n hamgylch bob dydd a gwella canlyniadau i bobl Cymru.

Mae rhan o’r gwaith sydd wedi digwydd ers i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi wedi arwain at greu CDPS. Bydd y sefydliad newydd hwn yn helpu i fodloni’r angen cyffredin am hyfforddiant, rhannu arfer da a chymorth arbenigol i weddnewid gwasanaethau.

Mae llawer i’w wneud a galw mawr am gymorth. Ein safbwynt cychwynnol yw y byddwn yn datblygu ein gwasanaethau ar y cyd â’r rhai a fydd yn elwa ohonynt.

Canfu gwaith ymchwil cychwynnol a gynhaliwyd gennym yn gynnar yn 2020:

  • nad oes dealltwriaeth gyffredin, bendant o’r hyn y mae “digidol” yn ei olygu
  • nad yw pob uwch arweinydd yn deall sut i weithredu gweddnewid digidol
  • bod llawer o staff y sector cyhoeddus yn awyddus i helpu, ond eu bod yn ceisio cymorth ac arweiniad
  • ei bod yn anodd i dimau gadw golwg ar arfer da a rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu
  • bod diffyg safonau technegol a dylunio gwasanaeth cyffredin

Rydym bellach wedi symud ymlaen o waith ymchwil i weithredu, gan ddechrau gyda 3 phrosiect:

Sgwad gweddnewid digidol — ymgysylltu ymarferol, gan helpu timau sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddechrau defnyddio dulliau gweithio ystwyth ac offer a thechnegau sydd ar gael trwy’r rhyngrwyd. Rydym eisoes wedi creu ‘Sgwad Digidol’ amlddisgyblaethol i roi cymorth cyflym i dri awdurdod lleol er mwyn profi’r cynllun gyda’r bwriad o’i gyflwyno’n ehangach. Byddwn yn rhannu mwy am hyn a’r gwersi a ddysgwyd wrth i’r prosiect ddatblygu mewn postiadau yn y dyfodol.

Sgiliau digidol — darparu hyfforddiant digidol penodol i uwch arweinwyr, prif weithredwyr, aelodau etholedig a staff eraill y sector cyhoeddus

Hyb gwybodaeth — edrych ar ffyrdd o helpu i egluro safonau technegol a dylunio gwasanaeth a’u rhannu’n rhwydd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru

Wrth i ni greu ein gwasanaethau a phrofi dulliau, byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgwn trwy’r blog hwn. Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a hoffech gymryd rhan, byddem yn falch iawn o glywed gennych gwybodaeth@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru