14 Mai 2021

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, mae sefydliadau angen cyfathrebu yn effeithiol yn fewnol ac yn allanol. Ym mis Mawrth, fe wnaethom ni ddarn byr o waith yn edrych ar rai o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau wrth gyfathrebu datblygiadau digidol ac oedd yna le i'r Ganolfan fod yn cefnogi. 

Mewn partneriaeth gyda chwmni Perago, fe fuom yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol oedd yn rhan o’n cynllun sgwad digidol yn datblygu gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion. Roeddem eisiau: 

  • deall y rhwystrau sydd yna wrth gyfathrebu am ddarparu gwasanaethau digidol yn well 
  • edrych sut y gall timoedd digidol gefnogi y syniad o ‘weithio’n agored’ yn ystod newid digidol. 
  • profi’r cysyniad trwy gynnig cefnogaeth ymarferol  
  • rhannu arfer da 

Beth wnaethom ni ddarganfod 

Roedd nifer o’r blaenoriaethau ar gyfer cyfathrebu digidol yn debyg i'r hyn y bydden nhw ar gyfer unrhyw bwnc neu ymgyrch arall. Roedd nodau clir, deall eich cynulleidfa, cynllun eglur, modd o fesur llwyddiant a ffordd glir o ddarparu yn angenrheidiol. Dyma rai o’r pwyntiau eraill y gwnaethom sylwi arnynt: 

  1. Gall cyfathrebu datblygiadau digidol fod yn anodd, gyda therminoleg ddieithr, dyletswyddau a ffyrdd o weithio sy’n newydd i rai sefydliadau. Mae hwn yn faes newydd i amryw sy’n gweithio yn y byd cyfathrebu ac maent eisiau datblygu eu sgiliau personol, yn chwilio am gyngor ac arweiniad. 
  2. Nid yw gweithio’n agored wastad yn dod yn hawdd i sefydliadau ac mae’n aml yn ffordd newydd o weithio. Er mwyn symud i fod yn fwy agored, mae angen mwy o gyswllt rhwng timoedd. Gall fod yn ddefnyddiol cychwyn gyda grwpiau a phrosiectau llai, gan ddysgu o’r rhain ac addasu wrth symud ymlaen.
  3. Mae cael perthynas bositif a chlir rhwng timoedd cyfathrebu a thimoedd digidol yn helpu wrth arbrofi gyda sianeli newydd a ffyrdd newydd o gyfathrebu.  
  4. Mae angen i dimoedd cyfathrebu gael dealltwriaeth glir o’u defnyddwyr, fel sydd gan berchenogion y gwasanaeth a’r timoedd digidol yn ehangach. Pwy ydy’r gynulleidfa, beth maen nhw angen ei wybod, pryd a sut? 
  5. Mae’n well gan gynulleidfaoedd glywed gan bobl, yn arbennig am bethau nad ydynt eto yn ymddiried ynddynt neu’n eu deall. Trwy rannu cynnwys sy’n cysylltu gwybodaeth gyda pherson, neu grwp o bobl, mae modd dal sylw a datblygu dealltwriaeth well. Mae hefyd yn adeiladu ymddiriedaeth ac yn codi sgwrs.  
  6. Bydd angen i dimoedd digidol a chyfathrebu ddod yn fwy cyfforddus yn defnyddio sianeli cyfathrebu dwy-ffordd er mwyn annog sgwrs, syniadau a heriau. Mae mewnbwn yn dod yn rhan o’r broses. Mae cynnig ffordd i'r gynulleidfa siarad yn uniongyrchol gyda’r timoedd sy’n darparu, perchnogion y gwasanaeth neu rhanddeiliaid yn helpu’r gynulleidfa deimlo perchnogaeth neu i deimlo’n rhan o’r newid a bydd hynny yn gymorth i yrru newid mewn ymddygiad. 

Rhannu gwybodaeth 

Fe wnaethom fanteisio ar y cyfle hefyd i gynnig cymorth ymarferol ac i rannu arfer da. Arweiniodd hyn at ganllaw byr oedd yn cynnwys tips, adnoddau a chyngor ymarferol. Bydd hwn nawr yn cael ei ddatblygu ar gyfer creu llyfryn ‘Cyfathrebu Digidol’ fydd ar gael i bawb trwy wefan CDPS. 

Mae hwn yn un o’r tri argymhelliad, sydd oll wedi eu derbyn, fydd yn rhan o waith y Ganolfan dros y 12 mis nesa. Y tri argymhelliad ydy: 

  1. Datblygu llyfryn ‘Cyfathrebu Digidol’ fydd yn rhan o adran ‘Offer’ CDPS ar y wefan 
  1. Datblygu Cymuned Arfer ar gyfer cyfathrebwyr sy’n gweithio gyda thimoedd digidol 
  1. Profi cefnogaeth timoedd cyfathrebu fel rhan o waith y sgwads digidol 

Ydych chi awydd bod yn rhan o gymuned? 

Yr ail argymhelliad y byddwn yn edrych arno ydy datblygu cymuned arfer ar gyfer cyfathrebwyr sy’n gweithio gyda thimoedd digidol neu mewn sefydliadau sy’n mynd trwy newid digidol.

Rydym eisiau rhannu syniadau, ffyrdd o weithio a heriau yn y gymuned. Felly, os oes gennych chi farn neu syniadau am gyfathrebu newid yn y sector gyhoeddus yng Nghymru neu gydag enghreifftiau yr hoffech rannu, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Os hoffech chi fod yn rhan o’r gymuned yma, cysylltwch gyda ni trwy: https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/cyfathrebu-digidol/