19 Mawrth 2021

Mae cyfathrebu’n agored wedi bod yn flaenoriaeth i ni o’r cychwyn cyntaf. Er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, mae angen i sefydliadau gyfathrebu yn effeithiol yn fewnol ac yn allanol. Rydym wedi defnyddio’r egwyddor o gyfathrebu’n agored ym mhopeth ydym ni wedi ei wneud yn y ganolfan hyd yn hyn. Ond rydym hefyd eisiau deall sut mae sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru yn cyfathrebu er mwyn eu cefnogi wrth iddyn nhw ddarparu gwasanaethau, gweld ble mae arfer da yn digwydd a pha gefnogaeth sydd ei hangen.   

I’n helpu ni ddeall hyn, rydym wedi cychwyn darn byr o waith sy’n edrych ar rai o’r heriau a sut y gallai’r Ganolfan gynnig cefnogaeth gyfathrebu yn ystod trawsnewid digidol. 

Beth fydd y gwaith? 

Gan weithio gyda’r awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’n sgwad ddigidol ar wella mynediad i ofal cymdeithasol oedolion, rydym wedi paru gyda Perago i geisio: 

  • deall y rhwystrau wrth gyfathrebu am ddarparu gwasanaeth digidol 
  • archwilio sut gall timoedd cyfathrebu rannu gwybodaeth yn gyson am newidiadau digidol 
  • profi y syniad o gynnig cymorth ymarferol 
  • rhannu arfer da 

Dyddiau cynnar 

Rydym wedi dechrau trafod gyda’r timoedd yng Nghyngor Castell Nedd Port Talbot. Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae’r sgyrsiau hyd yn hyn wedi rhoi syniad da i ni o’r gwaith cynllunio cyfathrebu sydd eisoes wedi ei wneud gan y cyngor ac effaith Covid ar y cynlluniau hynny. 

Yn ogystal a chanolbwyntio ar gynllunio, deall y sefyllfa a’r strategaeth, rydym hefyd wedi edrych ar: 

Sianeli – mae weithiau’n heriol gwybod pa gyfrwng i'w ddefnyddio wrth gyfathrebu, sy’n hawdd i bawb eu ddefnyddio, gan fod swyddi a lleoliadau gwaith bellach mor amrywiol.  Mae deall pa gyfrwng i ddefnyddio i gyfathrebu gyda pha gynulleidfa yn allweddol. Rydym wedi trafod gweithio mwy gyda fideo (wedi ei recordio a byw) i helpu pobl i ddeall negeseuon cymhleth. Rydym hefyd wedi trafod defnyddio rhaglenni eraill o fewn Office365 fel Team Live Events er mwyn amlygu arweinwyr a gwneud sesiynau cwestian ac ateb yn haws. 

Cynnwys – mae cynnwys dilys, amserol sydd o ddiddordeb i'r darllenydd wastad yn allweddol, ond mae’r timoedd hefyd yn edrych ar gategoreiddio cynnwys fel ei bod yn hawdd dod o hyd i negeseuon perthnasol. Rydym wedi trafod datblygu themâu neu erthyglau nodwedd cyson er mwyn creu rhythm a threfn. 

Steil a Thon – mae pobl yn hoffi clywed gan bobl felly byddwn yn chwilio am gyfleoedd i roi sylw i'r bobl tu ôl i wasanaethau digidol. Mae na lawer o waith da yn cael ei wneud gan bobl dda. Er mwyn i'r cynnwys apelio yn ehangach (yn fewnol ac yn allanol) efallai y gallai weithio rhannu mwy am y personoliaethau tu ôl i'r gwasanaethau. 

Camau nesaf 

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweithio’n agos gyda thimoedd yng Nghastell Nedd Port Talbot ac yn cychwyn y drafodaeth gyda Thorfaen a Blaenau Gwent i geisio deall y problemau ehangach o’r heriau a’r anghenion sydd gan dimoedd yn darparu gwasanaethau digidol. 

Dywedodd Nita Sparkes o Gastell Nedd Port Talbot “Mae hwn yn gyfle gwych i ni a dw i wir yn edrych ymlaen i weld canlyniad y gwaith a sut y bydd yn ein helpu i gryfhau ein strategaeth gyfathrebu ar gyfer y gwaith trawsnewid digidol sy’n digwydd ar hyn o bryd.” 

Rydym yn gwybod fod na waith da yn digwydd mewn sefydliadau cyhoeddus a’u timoedd cyfathrebu yng Nghymru ac mae eleni wedi bod yn fwy o her nag arfer. Fel rhan o’r gwaith yma, rydym eisiau edrych ar sut allwn ni rannu syniadau, ffordd o weithio a heriau. Os oes gennych chi unrhyw syniadau sut i gyfathrebu newidiadau mewn gwasanaethau digidol yng Nghymru neu enghreifftiau o sut mae hyn wedi ei wneud, mae croeso i chi gysylltu gyda ni. Byddem ni yn falch iawn o glywed gennych.