Bu Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda ni a'n partner recriwtio i recriwtio Pennaeth Digidol ar gyfer yr awdurdod lleol.  

Mae Yolk Recruitment wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ac wedi gweithio gyda ni ers mis Ebrill 2023 i ddarparu recriwtio i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Dyma'r tro cyntaf i Fro Morgannwg weithio gydag asiantaeth recriwtio. Roedden nhw eisiau dod o hyd i'r dalent iawn ar gyfer y swydd.  

Ar ôl sgwrs gychwynnol gyda Yolk Recruitment i drafod y farchnad bresennol a sut orau y gallen nhw eu cefnogi.  

Be wnaethon ni

Ar ôl sgwrs gychwynnol gyda'r awdurdod lleol i drafod y farchnad bresennol a sut y gallai Yolk eu cefnogi orau, fe wnaethon nhw ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y cyngor i ddeall gofynion y rôl yn well.  

Mae gan Yolk dîm sector cyhoeddus ac nid er elw, a recriwtwyr Digidol, Data a Thechnoleg arbenigol (DDaT) yn eu tîm. Maen nhw'n arbenigwyr wrth wynebu'r heriau recriwtio'r sector cyhoeddus. 

Buon nhw'n cydweithio â'r cyngor i lunio map ffordd recriwtio, gan amlinellu'r cerrig milltir a'r prosesau.  

Cynhaliodd yr awdurdod lleol eu hymgyrch arferol eu hunain ochr yn ochr â Yolk i arbed amser a chyflymu pethau. 

Yn dilyn cyngor Yolk, peidiodd y cyngor â defnyddio'u ffurflen gais arferol gan ei fod yn aml yn atal ymgeiswyr prysur rhag gwneud cais.  

Ar wahân i hysbysebu'r rôl trwy wahanol sianeli, roedd Yolk yn rhagweithiol wrth ymgysylltu ag ymgeiswyr posibl, gan gyrraedd llawer mwy o ymgeiswyr.  

Ar ôl sgrinio cannoedd o ymgeiswyr, derbyniodd y cyngor restr fer o'r 5 ymgeisydd mwyaf perthnasol gyda CVs wedi'u golygu a llythyrau eglurhaol i atal rhagfarn anymwybodol posibl.  

Gwahoddwyd 3 ymgeisydd wedyn i gyfweliad, ac yna cafodd dau eu rhoi ar y rhestr fer i gam terfynol. 

Sut aeth pethau

Tri mis oedd hyd y broses recriwtio, o'r rôl yn mynd yn fyw i'r person cywir sy'n dechrau yn ei swydd newydd. 

Mynegodd y cyngor eu bod wedi eu plesio gyda'r gefnogaeth a gawsant, y broses ddi-dor a'r dalent wych ac amrywiol y daethant ar eu traws. 

Diolch i weithio gyda Yolk, gallai'r cyngor ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig: dod o hyd i'r person iawn ar gyfer y swydd.  

Mae Yolk yn ymroddedig i gael gwared ar rwystrau a meithrin cynwysoldeb, a'r canlyniad yw penodiad llwyddiannus sy'n cyd-fynd â'n gweledigaeth ar gyfer sector cyhoeddus modern â sgiliau digidol yng Nghymru. 

Gweithio gyda ni

Gallwch gael cymorth i lenwi rolau digidol, data a thechnoleg yng Nghymru drwy weithio gyda Yolk Recruitment.