29 Hydref 2021

Ar ôl i’n cam darganfod ddod i ben, rydyn ni wedi treulio ychydig o amser yn myfyrio ar y broses a beth rydyn ni wedi’i ddysgu fel tîm.

Nid oedd Chwaraeon Cymru erioed wedi gweithio mewn ffordd ystwyth o’r blaen. Roedd yn ffordd newydd a chyffrous o weithio ac fe ymgyfarwyddon ni’n gyflym â hi.

O’r sesiwn baratoi gyntaf oll, pan ddaethon ni at ein gilydd fel ‘sgwad’ i benderfynu sut i weithio fel tîm a’r nodau ar gyfer y cam darganfod, roedd yn amlwg y bydden ni’n llwyddo dim ond os oedden ni’n gweithio ar y cyd ac yn defnyddio’r sgiliau unigol yr oedd pob aelod o’r tîm yn eu cyfrannu.

Roedd cyfathrebu’n rheolaidd yn allweddol hefyd. Fe gadwon ni mewn cysylltiad â’n gilydd trwy’r ap negeseua Slack, lle’r oeddem yn gallu rhannu syniadau, gofyn am adborth neu help, a rhoi diweddariadau ar ein darnau unigol o waith yn gyflym iawn. Fe gynhalion ni hefyd wibiadau cynllunio awr o hyd a sesiynau ‘sefyll’ 15 munud dyddiol, lle y trafodon ni waith y dydd a lle’r oedd y tîm cyfan yn ymrwymo i dasgau.

Fe wnaeth yr offeryn cydweithio ar-lein Trello ein helpu i aros ar y trywydd iawn hefyd, gan ganiatáu i ni rannu’r gwaith yn ddarnau hawdd eu rheoli y gallai un neu fwy o aelodau’r tîm ymgymryd â nhw. Roedd wastad ymdeimlad go iawn o gyflawniad yn y tîm hefyd pan lwyddon ni i symud tasg o’r golofn ‘ar waith’ i’r golofn ‘wedi’i gwblhau’!

Yn ogystal, roedd gallu gweithio ar y cyd yn y byd rhithwir newydd hwn yn her y llwyddodd y tîm i’w goresgyn yn gyflym gan ddefnyddio offer ar-lein. Yn y cyfnod cyn Covid, byddai tîm prosiect yn casglu o gwmpas bwrdd gwyn go iawn gyda nodiadau gludiog yn barod, ond disodlwyd hyn â’r bwrdd gwyn rhithwir Mural. Rhoddodd hyn y rhyddid i ni i greu unrhyw beth o fap proses o’n system ymgeisio bresennol, i rywle i ledaenu a phostio ein canfyddiadau o’r gwaith ymchwil defnyddwyr.

Fodd bynnag, y peth pwysicaf y mae Chwaraeon Cymru wedi’i ddysgu o’r cam darganfod yw ‘gweithio’n agored’, sef un o’r deuddeg o Safonau Gwasanaeth Digidol ar gyfer Cymru a grëwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Sicrhaodd y tîm ein bod yn gweithio’n agored trwy gyhoeddi nodiadau wythnosol rheolaidd a oedd yn dynodi’r cynnydd yr oeddem wedi’i wneud a’r hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yr wythnos flaenorol, yn ogystal â chynnal sesiynau dangos a dweud y gwahoddwyd aelodau allweddol o staff Chwaraeon Cymru iddynt (gan gynnwys noddwyr y prosiect) i glywed drostyn nhw eu hunain am y gwaith yr oeddem yn ei wneud gyda chyfle i roi adborth a gofyn cwestiynau.

Yn ogystal â’r sesiynau dangos a dweud, fe gynhalion ni ‘sesiynau galw heibio ystwyth’ hefyd. Roedd y rhain ar agor i unrhyw aelod o staff Chwaraeon Cymru i ddod i ofyn cwestiynau i ni am y prosiect, neu ffyrdd ystwyth o weithio yn gyffredinol. Mae’r ddau wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod tîm staff ehangach Chwaraeon Cymru yn ymwneud â’r prosiect.

Newid arwyddocaol arall i Chwaraeon Cymru oedd caniatáu i staff weithio ar un maes gwaith yn unig am gyfnod penodol, ac roedd y gallu i ganolbwyntio ar hynny’n braf ac wedi cael effaith fawr. Ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni gael dealltwriaeth mor ddofn a gwneud a chyflawni cymaint o waith petaen ni’n cydbwyso nifer o feysydd gwaith ar yr un pryd.

Ar ôl profi buddion gweithio yn y modd hwn yn uniongyrchol, byddwn yn sicr o weithredu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yma gyda darnau eraill o waith yn Chwaraeon Cymru ac, yn dilyn y sesiynau galw heibio ystwyth, mae’n amlwg bod awydd am ffyrdd newydd o weithio yn y sefydliad cyfan.

Postiad blog gan: Dîm darganfod Chwaraeon Cymru