Er fy mod wedi gweithio yn y maes cyfieithu ac ysgrifennu copi ers blynyddoedd, roedd y term ‘ysgrifennu triawd’ yn un newydd i ni.

Roeddwn yn amheus a chwilfrydig wrth ddechrau ar y gwaith fel person llawrydd yn darparu cefnogaeth Gymraeg i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar y prosiect hwn.

Nod y prosiect

Dyma brosiect yn edrych ar gynnwys yn ymwneud â chostau byw ar wefannau awdurdodau lleol.  

Roedd dau amcan i’r prosiect: 

  1. Deall sut y gall awdurdodau lleol gydweithio a rhannu cynnwys sy’n cwrdd ag anghenion defnyddwyr yn well, a gwella’r gwasanaethau a ddarperir o safbwynt cysondeb drwy gydweithio. 
  2. Deall ffyrdd o wella cynnwys Cymraeg a gwerth cynhyrchu cynnwys dwyieithog o safon. 

Fe wnaethom ganolbwyntio’n benodol ar dudalen gynnwys ‘Grant Hanfodion Ysgol’. Mae hwn yn grant sydd ar gael i rieni cymwys ledled Cymru i helpu teuluoedd incwm isel sydd â phlant yn yr ysgol i dalu am eitemau a gweithgareddau ysgol. 

Gall hyn gynnwys hanfodion ystafell ddosbarth a gwisgoedd ysgol, ond hefyd offer chwaraeon, gwersi cerdd a theithiau ysgol. 

Fe wnaethom ddewis y gwasanaeth penodol hwn fel peilot gan ei fod yn rhan o’r cymorth costau byw sydd ar gael yng Nghymru a chanfu ein hymchwil nad oedd digon o deuluoedd yn gwneud cais oherwydd problemau gyda’r wybodaeth sydd ar gael. 

Nid cyfieithu, chwaith…

Roedd hi’n glir o’r dechrau nad darn o waith cyfieithu traddodiadol a rôl chyfieithydd arferol fyddai gen i.

Fel arfer, mae cynnwys yn cael ei baratoi mewn un iaith a’i anfon draw i gael ei gyfieithu air am air yn llythrennol.

Ond gyda’r gwaith yma roeddwn yn rhan o’r tîm prosiect, yn cyfarfod yn gyson ac yn rhan o bob cam o’r gwaith oedd yn arwain at y sesiwn ysgrifennu triawd.

Ysgrifennu triawd

Roedden ni wedi clywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi cynnig ar ‘ysgrifennu triawd’ o’r blaen, felly fe wnaethon ni gwrdd â nhw i ddysgu am eu profiad o gynnwys cyfieithydd Cymraeg yn yr ysgrifennu.

Mae’n sesiwn ysgrifennu ar y cyd rhwng:

  • yr arbenigwr cynnwys (sy’n deall y maes)
  • y dylunydd cynnwys (sy’n arbenigo mewn ysgrifennu cynnwys)
  • y cyfieithydd (sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect o’r dechrau).

Cwpl o oriau oedd y sesiwn, ac roedd yn chwa o awyr iach o ran fy mhrofiad am sawl rheswm.

Dysgwch sut i ysgrifennu triawd.

Buddion y ffordd o weithio

Drwy fod yn rhan o’r gwaith o’r dechrau roedd gen i wir ddealltwriaeth o’r cyd-destun a’r pwnc dan sylw.

Roedd cael gwrando, trin a thrafod efo’r arbenigwyr yn y maes, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ac edrych ar ymchwil yn golygu fod y cynnwys Cymraeg yn gallu cael ei ysgrifennu cystal â’r Saesneg.

Roedd o’n brofiad creadigol a hynny’n cael ei adlewyrchu yn safon y cynnwys, gan sicrhau bod y cynnwys yn syml, yn glir ac yn llifo’n naturiol yn y ddwy iaith.

Gyda phroses o greu ar y cyd, yn hytrach na chyfieithu’n llythrennol roedd posib rhoi ystyriaeth a statws gyfartal i’r Gymraeg. Arfer da y dylid pob corff ei ystyried ar gyfer y dyfodol.

Y camau nesaf...

Ar hyn o bryd rydym yn profi’r cynnwys newydd gyda defnyddwyr ac efallai y bydd angen i ni ei adolygu o’u hadborth eto, cyn ei gyflwyno i’r awdurdodau lleol i’w weithredu.

Rydym hefyd yn cynnal sgwrs ag awdurdodau lleol i nodi’r hyn a fyddai fwyaf gwerthfawr a defnyddiol iddynt wrth symud ymlaen, a sut y gallwn ailadrodd a graddio’r gwaith hwn i fodloni amcanion y prosiect ar draws y darn costau byw ehangach. Gallai hyn gynnwys datblygu rhai offer ac adnoddau i gefnogi crëwyr cynnwys awdurdodau lleol.

Byddwn yn rhannu mwy am y gwaith hwn yn yr wythnosau nesaf a byddwn yn cynnal sioe dangos a dweud yn ddiweddarach y mis hwn gyda gwahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â cyfathrebu@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru.