Trosolwg
'Anghenion defnyddwyr' yw’r hyn y mae angen ar ddefnyddwyr gan wasanaeth. Maent yn mynegi nodau, gwerthoedd a dyheadau pobl.
Mae'n rhaid i chi fodloni anghenion eich defnyddiwr er mwyn i'ch defnyddiwr allu gwneud rhywbeth.
Dysgu sut i gynnal ymchwil am eich defnyddwyr a’u hanghenion.
Mae dogfennu a chyfathrebu'r hyn ry’ch chi'n ei ddysgu am eich defnyddwyr a'u hanghenion yn sicrhau bod:
- pawb yn eich tîm yn deall yr hyn sydd ei angen
- gennych rywbeth y gallwch gyfeirio yn ôl ato pan fo angen
- timau eraill yn elwa ac yn defnyddio'ch canfyddiadau i lywio eu gwaith
Gall anghenion defnyddwyr gynrychioli un defnyddiwr neu fwy nag un, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw fanylion personol.
Maent fel arfer yn dechrau ar lefel uchel, yn eang o ran cwmpas, ac yn gymharol gyson dros amser.
Gallwch barhau i ddilysu a chynnwys mwy o fanylion wrth i chi ddysgu mwy gan eich defnyddwyr.
Dogfennu anghenion defnyddwyr
Mae sawl ffordd y gallwch gofnodi yr hyn ‘ry’ch chi’n ei ddeall am eich defnyddwyr a’u hanghenion:
- map profiad
- map o daith y defnyddiwr
- personas defnyddiwr
- straeon defnyddiwr neu straeon tasg
Dylai anghenion defnyddwyr:
- fod yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil defnyddwyr, nid rhagdybiaethau
- canolbwyntio ar broblemau'r defnyddiwr yn hytrach na datrysiadau posibl
- bod wedi'u dogfennu neu wedi'u hysgrifennu yn iaith y defnyddiwr.
Mae iaith eich defnyddwyr yn cynnwys geiriau, ymadroddion a chysyniadau y maent yn gyfarwydd â hwy.
Ysgrifennu straeon defnyddiwr a straeon tasg
Gallwch ddogfennu a chyfleu eich dealltwriaeth o'ch defnyddwyr mewn sawl ffordd, ond mae straeon defnyddwyr a straeon tasg yn fformat cyffredin.
Gallwch eu defnyddio i flaenoriaethu a rheoli gwaith, olrhain tasgau a gweithgareddau, ac asesu a ydych yn bodloni anghenion defnyddwyr.
Wrth ysgrifennu straeon tasg a straeon defnyddiwr, defnyddiwch iaith eich defnyddiwr a chanolbwyntiwch ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt.
Straeon defnyddiwr
Dyma enghraifft o stori defnyddiwr:
Fel… [defnyddiwr]
Rwyf eisiau/angen/yn disgwyl… [cam gweithredu]
Fel y gallaf… [nod]
Er enghraifft,
Fel… myfyriwr sy'n byw yng Nghymru
Rwyf eisiau gwybod… faint o ddisgownt a gaf ar fy nhreth gyngor
Fel y gallaf… roi trefn ar fy arian
Straeon tasg
Mae ffocws straeon tasg yn canolbwyntio llai ar y defnyddiwr a mwy ar y dasg maen nhw'n ceisio ei chyflawni.
Dyma enghraifft o stori tasg:
Pan dwi’n… [sefyllfa]
Rwyf eisiau/angen/ yn disgwyl… [cam gweithredu]
Fel y gallaf… [nod]
Er enghraifft:
Pan dwi’n … cyfrifo fy nhreth gyngor
Rwyf angen…gwybod pa ostyngiadau rwy'n gymwys iddynt
Fel y gallaf… roi trefn ar fy arian ymlaen llaw
Rhannu eich anghenion defnyddiwr
Dewch o hyd i ffyrdd o rannu'r rhain gyda phobl sy'n gysylltiedig â'ch gwasanaeth fel eu bod yn deall eich defnyddwyr a'r hyn sydd ei angen arnynt gan eich gwasanaeth. Er enghraifft, ymchwilwyr eraill, timau gwasanaeth, neu randdeiliaid.
Mae hyn yn golygu y gallant:
- ofyn cwestiynau
- dod o hyd i fylchau
- rhoi adborth ar yr hyn a wnewch
- herio eich rhagdybiaethau
- gwella eich gwasanaeth
Cofiwch ddiogelu data a phreifatrwydd eich cyfranogwr, yn unol ag anghenion GDPR a pholisïau eich sefydliad.