Mae'r esiamplau hyn wedi'u seilio ar weminar a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2021. Yn y weminar, trafodwyd:

  • ble mae’r bwlch mewn sgiliau a’r angen am reoli cyflenwyr, tech a sgiliau arwain
  • yr angen sydd yna i newid diwylliant yn ogystal â datblygu gallu technegol
  • ymagwedd ar reoli cyllid
  • parodrwydd i dderbyn trawsnewid digidol

Gwyliwch y weminar

Cyfranwyr

Dafydd Vaughan, aelod o banel cynghori CDPS ac arbenigwr technoleg ddigidol

Siaradodd Dai am y dewisiadau technegol ydym ni’n eu gwneud, sut i wneud yn siŵr y byddant yn addas i’r dyfodol a rheoli cytundebau TG sydd wedi eu hetifeddu.

Sam Hall, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol

Rhoddodd Sam drosolwg i ni o’r heriau technegol yn y sector gyhoeddus a beth sydd angen newid. Bu’n sôn am y diffyg hyblygrwydd a’r angen i wneud penderfyniadau dewr yn fwy effeithiol.

A hwythau yn eu rôl yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd rhai pethau roedd Sam wedi clywed eu bod yn rhwystr rhag trawsnewid digidol yn cynnwys: 

  • contractau hir 
  • darparu rhywbeth na ofynnwyd amdano 
  • cost uchel 
  • diffyg ffydd 
  • gormod o newid ar unwaith 

Soniodd Sam am hynny i wneud hyn, mae'n rhaid i rai pethau newid. Gan gynnwys: 

  • clo-i-mewn gyda gwerthwr 
  • herio'r broses 
  • bod yn gwsmeriaid gwell 
  • y broses gaffael 
  • bofleidio côd agored 

Mike Ogonovsky, Prif Swyddog Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cawsom drosolwg o’r gwaith mae wedi ei wneud yn arwain ymgynghoriadau fideo ac effaith COVID-19 ar gynnydd, defnydd a diwylliant.