Dylech bob tro brofi rhywbeth yr ydych am i'r defnyddwyr daflu goleuni arno. Gall hyn fod yn:

  • ddyluniad cysyniadol
  • cynnwys
  • taith defnyddwyr

Pryd dylech chi brofi

Mae profi yn bwysig trwy gydol cylch bywyd cynnyrch neu wasanaeth. Mae hyn yn golygu profi cynnyrch neu wasanaeth o syniadau cyfnod cynnar drwodd i’r gwasanaeth byw sydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio ac yn rhyngweithio â gwasanaeth yn newid yn gyson. Mae hyn yn golygu bod angen gwaith cynnal ac adborth parhaus arno i sicrhau ei fod:

  • yn gyfoes
  • yn diwallu anghenion defnyddwyr (gallai’r rhain newid dros amser)
  • yn effeithlon
  • yn gwneud yr hyn y cafodd ei sefydlu i’w wneud

Byddwch yn glir ynglŷn â pham rydych chi’n profi

Cyn i chi brofi rhywbeth bydd angen i chi ddiffinio’r hyn sydd angen i chi ei ddysgu. Gallai hyn ddod o broblem, damcaniaeth, neu dybiaeth.

Mae profi yn ymwneud â dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ddatrys problem. Nid yw ar gyfer ceisio dod o hyd i dystiolaeth i gyd-fynd â’r hyn yr hoffech i ddefnyddiwr ei ddweud.

Profi syniadau neu gysyniadau newydd

Mae prototeipio yn caniatáu i chi brofi syniad cyn ei wneud yn fyw i’r cyhoedd.

Dulliau o brofi rhywbeth sy’n bodoli eisoes