Mae defnyddwyr yn cael eu heffeithio gan y ffordd rydym yn dweud pethau: iaith, naws, hygyrchedd, a chynwysoldeb ein cynnwys. 

Pwysigrwydd cynnwys da

Gall cynnwys ddyrchafu neu ddifetha gwasanaeth. Gall fod y gwahaniaeth rhwng pobl yn deall gwasanaeth neu gynnyrch, neu beidio.  

Mae cynnwys da hefyd yn helpu eich sefydliad i gyflawni ei nodau. 

Pan fydd pobl yn deall gwybodaeth ac yn cyrchu gwasanaethau yn hawdd, mae ganddynt berthynas well gyda'ch sefydliad. Efallai na fydd angen iddynt gysylltu â chi dros y ffôn na gwneud cwyn. 

Mae helpu pobl i ddatrys eu problemau ar-lein hefyd yn arbed amser gwerthfawr i'ch staff. Mae'n fwy cost-effeithiol na dulliau eraill o ddarparu gwasanaeth, megis dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. 

Ysgrifennu ar gyfer anghenion defnyddwyr

Mae ysgrifennu ar gyfer angen defnyddiwr bob amser yn sicrhau bod pwrpas i'r cynnwys a'i fod yn datrys problem i'ch defnyddwyr. 

Dyma'r prif wahaniaeth rhwng ysgrifennu cynnwys a dylunio cynnwys. Mae bod yn ddylunydd cynnwys yn golygu canolbwyntio’ch gwaith ar anghenion defnyddwyr.  

Bydd yr anghenion defnyddwyr hyn wedi'u canfod mewn ymchwil defnyddwyr. Fel dylunydd cynnwys, gallwch wneud eich ymchwil eich hun wrth y ddesg.

Os oes gennych chi ymchwilydd defnyddwyr o fewn eich gafael, gallant eich helpu i wneud ymchwil mwy manwl i ddarganfod pa broblemau sydd gan eich defnyddwyr, a pha gefnogaeth sydd ei hangen ar eich defnyddwyr i ddatrys eu problemau.  

Dysgwch fwy am anghenion defnyddwyr

Darganfyddwch pa eiriau mae eich defnyddwyr yn eu defnyddio

Trwy ddysgu am y geiriau a’r ymadroddion y mae eich defnyddwyr eisoes yn eu defnyddio, gallwch greu cynnwys mewn ffordd berthnasol y gallant ei ddeall. 

Mae hyn yn helpu i enwi'ch cynnwys yn gywir fel y gall pobl ddod o hyd iddo. Mae hefyd yn sicrhau eich bod chi'n defnyddio'r un derminoleg y mae defnyddiwr yn gyfarwydd â hi ac yn gyfforddus â hi.  

Y ffordd orau o glywed a deall yr iaith y mae eich defnyddwyr yn ei defnyddio yw trwy gynnal ymchwil defnyddwyr. 

Gall yr ymchwil hwn fod ar sawl ffurf, gan gynnwys: 

  • ymchwil allweddair 
  • gwrando cymdeithasol 
  • adolygiadau llenyddiaeth 

Defnyddio offer gwrando cymdeithasol a thactegau megis cynnal chwiliad boolean i ddarllen yr iaith a'r cynnwys y mae eich defnyddwyr yn eu defnyddio wrth drafod pwnc. 

Mae Google yn prosesu tua 8.5 biliwn o chwiliadau’r dydd (Internet Live Stats, 2022). Gallwch ddefnyddio geiriau allweddol a data chwilio i weld pa iaith y mae pobl yn ei defnyddio wrth wneud chwiliad.  

Yn hollbwysig, gall ymchwilio allweddeiriau hefyd ddweud wrthych os na all cynnwys ddatrys problem defnyddiwr. Os nad yw rhywun yn chwilio am y pwnc ar-lein, mae'n annhebygol y medrwch ddatrys y broblem gyda chynnwys ar-lein. 

Offer i ddod o hyd i eiriau allweddol ymchwil 

  • Google AdWords 
  • Googe Search Console (for existing content) 

Dysgwch fwy am ymchwil allweddair 

Defnyddiwch iaith glir

Mae defnyddio iaith glir yn sicrhau eich bod yn diwallu anghenion mwy o ddefnyddwyr oherwydd bydd mwy o bobl yn deall eich cynnwys. 

Mae wedi cael ei esbonio fel hyn: “Nid gorsymleiddio yw, ond agor allan”  

Gall hyn fod yn anodd pan fydd arbenigwyr pwnc yn ysgrifennu cynnwys. 

Ystyriwch, i reolwr cyfryngau cymdeithasol, y byddai hashnod, argraff neu retweet yn iaith bob dydd. I rywun sy'n newydd i'r cyfryngau cymdeithasol, nid yw hon yn iaith sy'n golygu dim.  

Sgoriau darllenadwyedd a darllen 

Gall ysgrifennu ar gyfer sgôr darllen isel helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn fwy cynhwysol ac yn haws ei ddarllen. 

Mae sgôr darllen yn ganllaw i'w ddilyn. Anaml y bydd dilyn sgôr darllen o dan anfantais i ddefnyddwyr â lefel uwch o lythrennedd. Fodd bynnag, profi eich cynnwys yw'r unig ffordd i sicrhau bod eich cynnwys yn addas ar gyfer eich cynulleidfaoedd.  

Peidiwch â defnyddio idiomau, ystrydebau, jargon, bratiaith, a gorgwrteisi 

Dyma restr o ddiffiniadau'r geiriau yma: 

Mae idiomau yn ymadroddion nad oes iddynt ystyr llythrennol. 

Mae ystrydebau yn ymadroddion sydd yn gyffredin ac yn cael eu gorddefnyddio fel nad ydyn nhw'n cael unrhyw effaith wirioneddol ar eich brawddeg. 

Jargon yw'r iaith arbenigol, yn aml yn dechnegol, a ddefnyddir gan bobl mewn maes, proffesiwn neu grŵp cymdeithasol penodol. 

Bratiaith yw iaith anffurfiol sgwrsio, negeseuon testun, a chyfathrebu cymdeithasol achlysurol arall ymhlith ffrindiau.  

Gorgwrteisi yw geiriau neu ymadroddion mwynach a ddefnyddir i bylu effaith geiriau neu ymadroddion mwy uniongyrchol neu annymunol. 

Os byddwch yn osgoi defnyddio'r rhain yn eich gwaith ysgrifennu, bydd yn gliriach, yn fwy cynhwysol ac yn haws i bobl ei ddeall.  

Defnyddiwch acronymau yn gynnil 

Mewn gwasanaethau sector cyhoeddus, anaml y bydd pobl sy'n rhyngweithio â gwasanaeth yn deall acronymau lle cânt eu defnyddio. 

Mae Grammarly yn diffinio acronym fel: 

Math penodol o fyrfodd sy’n ffurfio gair ynganadwy o lythyren neu sillaf gyntaf pob gair mewn ymadrodd. Er enghraifft, mae’r gair LASIK yn acronym ar gyfer laser-assisted in situ keratomileusis.

Defnyddiwch acronymau dim ond pan fydd yr acronym yn fwy adnabyddus na'r geiriau y maent yn sefyll drostynt. Maent eisoes yn gynhwysol ac yn haws eu deall. Rhai enghreifftiau o’r rhain yw:  

  • BBC 
  • Laser 
  • Scuba 
  • radar 

Ceisiwch osgoi defnyddio unrhyw acronym arall lle bo modd. Mae'n ychwanegu at y llwyth gwybyddol ar gyfer y person sy'n ceisio deall y cynnwys.  

Offer darllenadwyedd 

Dysgwch fwy am ddarllenadwyedd 

Strwythuro a fformatio cynnwys

Strwythuro a fformatio testun i gyfeirio defnyddwyr at y cynnwys sy'n berthnasol ac sydd bwysicaf iddynt. 

Ar-lein, mae pobl yn darllen mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn aml yn golygu sganio i ddod o hyd i'r wybodaeth fwyaf perthnasol iddynt. Anaml iawn y mae'n golygu darllen holl gynnwys tudalen.  

Yn aml gall gwasanaethau cyhoeddus fod yn gymhleth gyda llawer o wybodaeth. Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i'w symleiddio ar gyfer eich defnyddwyr. 

Ysgrifennwch y cynnwys sydd ei angen ar y defnyddiwr i ddatrys ei broblem yn unig. Efallai nad dyma'r cyfan y credwch sydd ei angen arnynt. Mae unrhyw beth arall yn fewnol i'ch sefydliad.  

Tips cynnwys 

Osgówch waliau o destun. Os yw'ch cynnwys yn edrych fel wal, mae angen ei docio. 

Defnyddiwch is-benawdau i rannu'ch cynnwys yn glir a helpu pobl i lywio i'r wybodaeth sy'n berthnasol iddyn nhw.  

Mae rhestrau bwled neu restrau wedi'u rhifo yn fwy uniongyrchol. 

Mae brawddegau a pharagraffau byrion yn haws eu darllen a'u deall. 

Ysgrifennu pâr ac ysgrifennu triawd

Mae ysgrifennu pâr ac ysgrifennu triawd yn dechnegau a all gynnwys arbenigwr cynnwys, arbenigwr pwnc a chyfieithydd.

Dysgwch sut i ysgrifennu triawd.

Ysgrifennwch yn gynhwysol a diragfarn

Bydd ysgrifennu cynnwys yn gynhwysol ac yn ddiragfarn yn diwallu anghenion amrywiol eich defnyddwyr. 

Mae’n hawdd ysgrifennu o’n profiadau a’n safbwyntiau ein hunain. Yn aml, gall hyn wneud i bobl sydd ddim fel ni deimlo eu bod wedi'u heithrio gan ein hysgrifennu. 

Gofynnwch bob amser, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol 

Pan fyddwn yn ysgrifennu am bobl, ni ddylem wneud unrhyw ragdybiaethau. 

Pan fydd yn bosib, dylen ni ofyn i'r person rydyn ni'n ysgrifennu am sut y byddai'n well ganddyn nhw gael eu disgrifio. 

Ysgrifennwch ar gyfer y cyd-destun 

Pan fyddwn yn ysgrifennu am berson neu bobl, darganfyddwn gymaint ag y gallwn am eu cyd-destun, fel y gallwn ddeall ac adlewyrchu eu profiad bywyd yn llawn.  

Gall cyd-destun person fod yn gysylltiedig â’i hil, rhyw, neu brofiad bywyd. Gall hefyd fod yn rhywun sy'n delio â galar, problemau iechyd meddwl neu bryderon ariannol. 

Ysgrifenwch gyda gofal, sensitifrwydd, parch a chywirdeb. 

Offer i wirio cynhwysiant eich cynnwys 

Darllenwch fwy am iaith gynhwysol 

Peidiwch â defnyddio cwestiynau cyffredin

Anaml y bydd cwestiynau cyffredin (FAQs) yn eich helpu i ddiwallu anghenion eich defnyddwyr. 

Maent yn aml yn haws eu hysgrifennu ond dyma ddigon o dystiolaeth i ddangos nad yw cwestiynau cyffredin yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr.  

  • Mae'n cymryd llawer o amser i ddefnyddiwr ddarllen rhestr hir o gwestiynau. 
  • Nid oes unrhyw sicrwydd bod cynnwys a fydd yn ateb eu cwestiwn. 
  • Mae cwestiynau cyffredin yn aml yn dyblygu cynnwys sydd eisoes yn bodoli yn rhywle arall. 
  • Os nad oes ateb i'w cwestiwn, bydd y defnyddiwr wedi gwastraffu llawer o amser ac yn rhwystredig iawn. 

Dewisiadau eraill yn lle cwestiynau cyffredin 

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod o hyd i ba eiriau mae'ch defnyddwyr yn eu defnyddio. Bydd hyn, ynghyd â chael swyddogaeth chwilio ar eich gwefan, yn sicrhau bod modd dod o hyd i'ch cynnwys yn hawdd.  

Dysgwch fwy am gwestiynau cyffredin 

Dulliau o brofi'ch cynnwys

Dyma rai dulliau i brofi llwyddiant eich cynnwys presennol: