Mae ein Safonau Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn dweud:

Dylem fesur pa mor dda mae gwasanaethau'n gweithio i ddefnyddwyr yn gyson. Dylai timau ddefnyddio data am berfformiad i ganfod a blaenoriaethu gwelliannau.

Pwysigrwydd defnyddio data i wneud penderfyniadau

Mae angen i chi ddeall pa ddata fydd yn eich helpu i fodloni anghenion defnyddwyr. Mae data'n dweud mwy wrthych am y gwasanaeth ac fe ellir ei rannu ymhlith sefydliadau perthnasol er mwyn gwella profiad defnyddwyr.

Dechrau arni

Dylech:  

  • feddwl pa ddata sydd gennych eisoes a sut y gallai wella profiad y defnyddiwr   
  • meddwl pa ddata allwch chi ei gael gan eraill neu ei rannu am eich gwasanaeth er mwyn bodloni anghenion defnyddwyr yn well  
  • diffinio metrigau perfformiad ymlaen llaw fel eich bod chi'n gwybod pa les sy'n edrych a sut y bydd yn cael ei fesur   
  • monitro ymddygiad defnyddwyr mewn amser real trwy ddadansoddeg i benderfynu pa mor dda y mae'r gwasanaeth yn bodloni anghenion defnyddwyr   
  • defnyddio data perfformiad i wneud penderfyniadau ar yr hyn sydd angen ei wella 

Esiamplau o ddefnyddio data

Dyma 3 enghraifft o'r ffordd y mae sefydliadau yng Nghymru wedi defnyddio data i wneud gwell penderfyniadau. Mae'r enghreifftiau hyn yn seiliedig ar weminar a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2022.

Gwylio'r weminar

Defnyddio data i ragfynegi capasiti gwelyau ysbytai

Disgrifiodd Jeremy Griffith, Prif Swyddog Gweithredu ar gyfer COVID Vaccine Wales sut roedd ef a'i dîm wedi defnyddio data i ragfynegi capasiti gwelyau ysbytai ac effaith brechiadau yn ystod y pandemig COVID-19 yn 2020.

Cymorth a hyfforddiant

Trafododd Suzanne Draper, Pennaeth Mewnwelediad ac Ymgysylltu, Data Cymru, y cymorth a'r hyfforddiant maen nhw'n eu cynnig trwy eu rhaglenni DataBasic Cymru a Hysbysu ac Ysbrydoli.

Data hawdd ei ddeall

Fe glywson ni gan John Morris, Pennaeth Data a Daearyddiaeth yn Llywodraeth Cymru. Fe bwysleisiodd:

  • y dylai data fod yn hawdd ei ddehongli
  • bod angen gwybod pwy rydych chi'n ei darged
  • pwysigrwydd gallu herio data

Rhoddodd enghreifftiau o sut roedd Llywodraeth Cymru wedi defnyddio data i fapio amserau gyrru, gweithgarwch tref a pherygl llifogydd.