Byddwn ni yn: 

  1. Dylanwadu ar yr agenda ddigidol ar gyfer Cymru (fel bod eglurder o ran arweinyddiaeth a chyfeiriad) 
  2. Gweithio gyda sefydliadau i wneud pethau'n wahanol (fel bod dulliau digidol yn cael eu mabwysiadu i wneud gwasanaethau sy'n diwallu anghenion defnyddwyr yn well) 
  3. Tyfu gallu a sgiliau modern (DDaT) yn sector cyhoeddus Cymru (fel bod gan bobl yr hyder, y sgiliau, y gallu a'r medrau i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus) 
  4. Gwreiddio safonau a chanllawiau (fel bod cysondeb o ran dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwasanaethau'n haws i'w defnyddio a'i gwneud yn haws i sefydliadau gydweithio) 
  5. Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau a rennir (fel ein bod yn osgoi dyblygu, ac aneffeithlonrwydd ac yn darparu buddion defnyddwyr a gwerth am arian ar draws y sector cyhoeddus) 
  6. Rhedeg CDPS gwych (fel bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu gyrfaoedd, ac mae ein busnes yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn cynnig y gwerth mwyaf am arian)