Amdanom ni
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gorff hyd braich i Llywodraeth Cymru.
Ynghyd â’r Prif Swyddogion Digidol ym maes Iechyd, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ni sy’n gyfrifol am gyflwyno’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Ein cenhadaeth yw:
- bod yn alluogwr dibynadwy trawsnewid digidol
- cynorthwyo sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddylunio a darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio
- adeiladu gallu digidol trwy raglen sgiliau gynhwysfawr a datblygu piblinell o dalent ddigidol ar gyfer sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus
- sicrhau bod arfer da ar gael yn hawdd ac uno pobl a sefydliadau i rannu gwybodaeth a phrofiad drwy ein cymunedau ymarfer