17 Mehefin 2021

Cefndir

Yn ystod ein cyfnod darganfod, clywsom y gallai fod diffyg dealltwriaeth o beth yw ystyr ‘digidol’, nad yw pob uwch arweinydd yn deall sut i roi trawsnewid digidol ar waith, a bod llawer o staff yn y sector cyhoeddus yn awyddus i gyfrannu at ddylunio gwasanaethau cyhoeddus gwell, ond bod angen yr hyfforddiant a’r gefnogaeth briodol arnynt 

Er mwyn cyflwyno a moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae angen arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus arnom sydd â gwybodaeth ddigonol i arwain trawsnewid digidol. Hefyd, mae angen gweithlu arnom sydd â’r wybodaeth, sgiliau a’r hyder priodol mewn ffyrdd digidol o weithio.

Dechrau’n fach

Mae meithrin sgiliau a gallu digidol ar draws y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru yn dasg enfawr, ac yn rhywbeth na fyddwn yn gallu mynd i’r afael ag ef i gyd ar unwaith. Rydym eisoes wedi profi sesiwn trosolwg arweinyddiaeth, a gyflwynwyd i dros 500 o arweinwyr yng Nghymru, a nawr rydym yn cydweithio â nifer o sefydliadau i nodi’r hyfforddiant a’r cymorth priodol sydd eu hangen ar bob lefel.

A allwch chi ein helpu? 

Ar ôl rhywfaint o ymgysylltiad cyn-marchnad i’n helpu i lunio ein manyleb a’n gofynion, rydym nawr wedi cyrraedd y cam o gaffael hyfforddiant a chymorth digidol arbenigol i helpu Cymru i fodloni ei gweledigaeth ddigidol i wella bywydau pawb drwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell.  

Os ydych chi’n ddarparwr hyfforddiant sy’n arbenigo mewn sgiliau a gallu digidol, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn ein gweminar sydd ar ddod, ddydd Mercher 23 Mehefin o 11am i 12pm, lle byddwn yn rhoi trosolwg ar gefndir y gwaith hwn a mwy o wybodaeth am yr anghenion hyfforddiant a chymorth penodol a nodwyd gennym. Byddwn hefyd yn sôn am fanylion y broses dendro rydym ar fin ei dechrau er mwyn dod o hyd i’r darparwr hyfforddiant priodol, ac yn ateb unrhyw gwestiynau gan ddarpar gyflenwyr.

Bydd y sesiwn hon ar agor i bob cyflenwr, ac rydym yn awyddus iawn i ymgysylltu â chwmnïau wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n darparu’r gwasanaethau hyn.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gweminar yma: 

https://www.youtube.com/watch?v=UL9R395VBho