16 Mehefin 2021

Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddom ein Safonau Gwasanaeth drafft. Ers hynny, buom yn edrych ar sut maent yn cael eu defnyddio, sut mae safonau’n cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill a beth allwn ei wneud i gefnogi eu mabwysiadu’n ehangach.

Beth rydym wedi’i ddysgu

Trwy ein hadolygiad, rydym wedi dysgu bod llawer o dimau’n ymwybodol o’r safonau gwasanaeth, ond mae enghreifftiau o ble y’u defnyddiwyd ar-lein yn gyfyngedig.

Dywedodd yr adolygiad y canlynol wrthym hefyd:

  • mae timau’n deall ac yn cefnogi’r angen am safonau pwrpasol i Gymru, ond roedd rhywfaint o ddryswch ynghylch y set newydd a’r set sydd ar wefan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd 
  • mae diffyg gwybodaeth fanwl am ffyrdd digidol o weithio
  • nid oes digon o bwyslais ar gynhwysiant a hygyrchedd yn y safonau cyfredol
  • nid yw’r safonau cyfredol yn cwmpasu’r daith gyfan drwy wasanaeth yn eglur – all-lein ac ar-lein
  • mae creu timau amlddisgyblaethol mewnol yn her
  • mae angen cyfarwyddyd ymarferol ar sut i fodloni’r safonau
  • byddai asesiadau’n cael eu croesawu, ond hoffai timau ddeall mwy am sut byddai hyn yn gweithio
  • mae angen cymuned ar bobl a lle i rannu eu rhwystredigaethau, heriau a dysgu, ond efallai nad oes ganddynt yr hyder i wneud hynny

Rydym yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaredig o’n safonau

Rydym yn diweddaru ein safonau er mwyn ymateb i’r adborth hwn. Rydym wedi grwpio’r safonau’n 3 adran, ac wedi ychwanegu dau bwynt newydd i gwmpasu darparu profiad cydgysylltiedig a gwneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio’r gwasanaeth.

Bodloni anghenion defnyddwyr

1.         Ffocws ar lesiant pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol

2.         Hyrwyddo’r Gymraeg 

3.         Deall defnyddwyr a’u hanghenion

4.         Darparu profiad cydgysylltiedig *

5.         Gwneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio’r gwasanaeth * 

Creu timau digidol da

6.         Bod â pherchennog gwasanaeth grymus

7.         Bod â thîm amlddisgyblaethol 

8.         Ailadrodd a gwella’n gyson 

9.         Gweithio’n agored

Defnyddio’r dechnoleg a’r data cywir

10.       Defnyddio technoleg addasadwy 

11.       Ystyried moeseg, preifatrwydd a diogeledd drwyddi draw

12.       Defnyddio data i wneud penderfyniadau 

Beth fyddwn yn ei wneud nesaf

Hoffem wneud yn siŵr y gallwn gynnig y lefel briodol o gymorth i sefydliadau i’w helpu i fodloni’r safonau hyn. Dyma beth rydym am ei wneud:

Pennaeth Safonau a Sicrwydd

Yn gam cyntaf, byddwn yn cyflogi Pennaeth Safonau a Sicrwydd i’n helpu i ymgorffori’r safonau ar draws pob rhan o’r sector cyhoeddus; i ddatblygu proses sicrwydd sy’n bodloni anghenion y sector cyhoeddus yng Nghymru; a sefydlu cymuned o ddiddordeb o amgylch y safonau i ymarferwyr.

Hyfforddiant

Rydym am roi’r 12 o safonau hyn wrth wraidd yr arlwy sgiliau a gallu rydym yn ei datblygu. Rydym yn cynllunio cwrs ar y 12 safon a sut i’w rhoi ar waith yn ymarferol.

Cyfarwyddyd

Rydym yn datblygu mwy o gyfarwyddyd ar gyfer pob un o’r safonau, gan roi mwy o gyd-destun ar gyfer pob un a chyngor ar sut i ddechrau cymhwyso’r safon honno.

Cefnogi timau

Rydym yn dechrau prosiect darganfod â Chwaraeon Cymru a’u hyfforddi drwy gymhwyso’r 12 safon drwy ddarganfod.

Un set o safonau i Gymru

Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r safon hon fel y dewis diofyn ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan ddisodli’r set bresennol.

Byddwn yn ysgrifennu blogiau am ein cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn dros yr ychydig fisoedd nesaf, felly cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gadw mewn cysylltiad a chael mwy o wybodaeth am y gymuned ymarfer pan fydd wedi’i lansio.