Mae'r tîm y tu ôl i Dysgu trwy greu yn cyflwyno eu labordy digidol arbrofol sy'n archwilio sut mae pobl yn dysgu drwy greu pethau.

4 Tachwedd 2022

Shwmae! Ni yw’r tîm dysgu trwy greu.   

Noddir y tîm Dysgu drwy greu gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Mae'r fenter yn rhan o'n Campws Digidol.   

Bydd Dysgu trwy greu yn cael ei chynnal ochr yn ochr â chyrsiau hyfforddi digidol, cymunedau ymarfer, a chyfarfodydd anffurfiol, lle gall timau o bob cwr o Gymru rannu eu sgiliau a'u harbenigedd.  

Hanfod Dysgu trwy greu yw cynnal sesiynau labordy ymarferol a throchol, lle mae pobl yn dysgu sgiliau digidol, ac yn creu cynnyrch a gwasanaethau digidol - yn yr agored, go iawn. 

  1. Dysgu: cyflwyniad i gysyniadau newydd gan arbenigwyr 
  1. Creu: rhowch gynnig ar beth rydych chi wedi'i ddysgu, gyda chefnogaeth ymarferol 
  1. Adlewyrchu: Rhannwch beth rydych chi wedi'i wneud yn yr agored (a pharhau i ddysgu...) 
Cynrychiolaeth weledol o'r cylch dysgu, creu ac adlewyrchu.

O’r damcaniaethol i'r ymarferol

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddysgu am rywbeth newydd yw ei brofi eich hun. Drwy roi cynnig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu drwy arbrofi go iawn, gallwch droi gwybodaeth ddamcaniaethol yn sgiliau ymarferol. 

 Byddwn yn arwain cyfranogwyr gam wrth gam drwy: 

  • gymhwyso sgiliau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr 
  • prototeipio 
  • dylunio gwasanaeth dwyieithog  
  • ymchwil defnyddwyr 
  • technegau darparu Ystwyth 
  • penderfyniadau dan arweiniad data 
  • gweithio yn yr agored 

Erbyn diwedd y sesiynau, bydd gan bobl sy'n cymryd rhan ddarn o waith ar-lein y gallan nhw bwyntio ato a dweud ‘Fi wnaeth greu hwnna'.  

Profi ac itereiddio 

Arbrawf 4 wythnos yw ein lab cyntaf, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr lefel mynediad, neu bobl sy'n ceisio symud i swyddi 'digidol'.  

I ddechrau, rydyn ni'n gweithio gydag un o'n partneriaid presennol i’n helpu i'w greu, ei brofi a'i iteru. Os yw'n gweithio, yna byddwn yn ei ymestyn i eraill mewn sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru. 

Mae'n ddyddiau cynnar, ac rydym dal i ddarganfod mwy a mwy o bethau pob dydd. Ond, rydyn ni'n ymarfer yr hyn ni’n pregethu, drwy wneud pethau i'n helpu i ddysgu, a rhannu hynny yn yr agored.  

Dilynwch ein cynnydd 

Gallwch ddilyn y daith ar wefan y tîm, ac os hoffech ddarllen ein diweddariadau wythnosol, yna anfonwch e-bost at: hello@learnbymaking.wales