Addas ar gyfer

Penaethiaid adrannau, gwasanaethau, neu sydd mewn rôl arweinyddiaeth debyg sydd:

  • wedi cwblhau 'Digidol ac Ystwyth: y sylfeini' a sydd am roi dulliau hyblygar waith yn eu tîm
  • â dylanwad dros adnoddau a ffyrdd o weithio

Cost

Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Cynnwys y cwrs

Bydd ein cwrs yn:

  • dangos i chi sut i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • eich helpu i sefydlu rolau, cyfrifoldebau a ffyrdd clir o weithio o fewn tîm Ystwyth
  • dangos i chi sut i gynllunio map ffordd cynnyrch
  • dangos sut i hwyluso sesiwn retro i adlewyrchu a gwella ffyrdd o weithio
  • trafod sut i greu amgylchedd i bobl wneud eu gwaith gorau
  • dangos i chi sut i ddangos cynnydd drwy weithio yn agored
  • rhoi cyngor i chi ar ddechrau arni yn eich tîm

Canlyniadau'r cwrs

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • deall gwerthoedd ac egwyddorion ffyrdd hyblyg o weithio
  • esbonio'r gwahaniaeth rhwng meddylfryd prosiect a chynnyrch a sut mae hyn yn cysylltu â gwahanol ddulliau (megis Rhaeadr ac Ystwyth)
  • creu gweledigaeth gwasanaeth i gyflawni nodau mesuradwy trwy ffyrdd hyblyg o weithio
  • asesu effaith adeiladu timau traws-swyddogaethol
  • myfyrio ar ffyrdd o wella arferion gwaith o fewn timau Agile
  • blaenoriaethu agweddau ar fap ffordd cynnyrch, sy'n cyd-fynd â gweledigaeth eich gwasanaeth
  • esbonio pwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • dechrau creu amgylchedd i bobl wneud eu gwaith gorau

Sut byddwch chi'n dysgu

Gofynnwn i'r holl gyfranogwyr gwblhau ein cwrs Digidol ac Ystwyth: y seiliau yn gyntaf.

  • Ar hyn o bryd, Saesneg yw iaith y cwrs.
  • Ar hyn o bryd, mae'n cael ei gyflwyno'n fyw ar Microsoft Teams.
  • Dros 2 ddiwrnod (14 awr).
  • 12 bobl fesul sesiwn.
  • Rydym yn hwyluso tasgau grŵp i'ch helpu i ddysgu.

Cofrestru eich diddordeb

Llenwch ein ffurflen i fynegi’ch ddiddordeb i gofrestru eich diddordeb.