Addas ar gyfer

  • Y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau datganoledig. Os nad ydych yn siŵr, gallwch wirio ar y gofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig.
  • Y rhai nad ydynt erioed wedi bod ar gwrs hyfforddi CDPS o'r blaen.
  • Y rhai sy'n newydd i ffyrdd digidol ac Ystwyth o weithio.

Cost

Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Cynnwys y cwrs

Bydd ein cwrs yn:

  • rhoi trosolwg o ffyrdd digidol ac Ystwyth o weithio
  • cwmpasu hanes Ystwyth, sut a pham y daeth i'r amlwg
  • edrych ar y gwahaniaeth rhwng ffyrdd Ystwyth a Rhaeadr o weithio

Canlyniadau'r cwrs

Ar ddiwedd ein cwrs, byddwch yn gallu:

  • deall beth mae 'digidol' yn ei olygu
  • cymharu ffyrdd Rhaeadr ac Ystwyth o weithio
  • asesu pryd i gymhwyso dulliau Rhaeadr ac Ystwyth
  • deall pwysigrwydd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o fewn gwasanaethau

Sut byddwch chi'n dysgu

  • Ar hyn o bryd, Saesneg yw iaith y cwrs.
  • Ar hyn o bryd, mae'n cael ei gyflwyno'n fyw ar Microsoft Teams.
  • 1 sesiwn hanner diwrnod (3 awr 30 munud).
  • 12 bobl fesul sesiwn.
  • Tasgau grŵp i'ch helpu i ddysgu.

Cofrestru eich diddordeb

Llenwch ein ffurflen i fynegi’ch ddiddordeb i gofrestru eich diddordeb.