Beth yw tîm amlddisgyblaethol?

Mae tîm amlddisgyblaethol yn fwy na chyfanswm ei rannau oherwydd bod cryfderau pob aelod o’r tîm yn cyfuno i greu datrysiad cyfannol – ond mae arno angen yr awdurdod i wneud penderfyniadau go iawn, yn ôl Susan McFarland-Lyons

23 Mehefin 2022

Tîm amlddisgyblaethol yw tîm sydd wedi’i dynnu at ei gilydd o wahanol ddisgyblaethau er mwyn ymchwilio’r un broblem © Pexels

Perchennog cynnyrch. Dylunydd gwasanaeth. Rheolwr cyflawni. Ymchwilydd defnyddwyr. Dylunydd profiad y defnyddiwr. Dylunydd cynnwys. Os yw’r teitlau swyddi hyn yn gyfarwydd i chi, mae’n debyg bod gennych afael eithaf da ar sut mae tîm amlddisgyblaethol yn gweithio. Efallai eich bod chi’n un o’r ymarferwyr hyn? Efallai bod gennych rai o’r disgyblaethau hyn yn eich sefydliad? Ond os nad ydych erioed wedi clywed am y rolau hyn, darllenwch ymlaen!

Uno o amgylch problem

Mae tîm amlddisgyblaethol, o ran dylunio gwasanaeth neu ddylunio cynnyrch arall, yn dîm sy’n cael ei greu i ganolbwyntio ar ddatrys problem. Mae’r broblem yn debygol o fod yn niwlog i ddechrau, ond mae tystiolaeth o’i bodolaeth wedi dod i’r amlwg ac mae pobl wedi sylwi arni. Nid ydym yn siŵr pa grwpiau o bobl yn union y mae’r broblem hon yn effeithio arnynt na sut mae pob un yn ei phrofi, ac nid ydym yn gwybod beth yw’r ateb yn bendant.

Felly, mae tîm yn cael ei greu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol ddisgyblaethau sydd â phrofiad o archwilio problem. Fe’i gelwir yn dîm amlddisgyblaethol. Rhoddir y dasg iddo ganfod pa grwpiau o bobl y mae’r broblem yn effeithio arnynt a sut mae’n effeithio arnynt. Yna, mae’r tîm amlddisgyblaethol yn ceisio llunio a gweithredu datrysiad sy’n mynd i’r afael â’r broblem gyfan.

Nodwedd sylfaenol tîm amlddisgyblaethol yw bod y tîm yn bodoli ar gyfer y genhadaeth unigol hon a’i fod yn gweithio fel un i sicrhau ei llwyddiant.

Mae’r tîm yn fwy na chyfanswm ei rannau oherwydd bod y gwahanol sgiliau ac arbenigedd y mae pob aelod o’r tîm yn eu cyfrannu at y broblem yn fwy tebygol o arwain at ddatrysiad ystyriol, cyfannol.

Nid yw hynny’n golygu bod tîm amlddisgyblaethol yn dod i mewn o’r tu allan i adran ac yn gweithredu’n annibynnol ar y rhai hynny sy’n byw’r broblem. Mae’r bobl yn y gwasanaeth yn helpu’r tîm i ddeall y broblem ac yn egluro unrhyw gyfyngiadau neu gyd-destun. Mae’r ‘arbenigwyr pwnc’ hyn yn hanfodol, felly, i greu datrysiad a werthfawrogir, ochr yn ochr â’r tîm amlddisgyblaethol.

Nid tîm prosiect yw tîm amlddisgyblaethol

Ym maes rheoli prosiectau yn draddodiadol, bydd rheolwr yn aml yn cael gwybod am broblem sydd ar fin digwydd ac yn ystyried mai ei gyfrifoldeb ef yw gwybod sut i’w datrys. Wrth ymateb, efallai bydd yn rhagnodi datrysiad ar ei ben ei hun ac yn neilltuo tîm i’w weithredu. Mae’r tîm prosiect yn mynd ati i gyflawni’r cyfarwyddyd ac yn adrodd yn ôl i’r arweinwyr bob wythnos neu ddwy gyda diweddariad ar gynnydd.

Gallai’r broses hon arwain at ganlyniad effeithiol os yw’r rheolwr yn gyfarwydd â’r mater penodol ac wedi’i ‘datrys’ droeon. Fe all ddilyn patrwm i’w datrys. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, mae problemau’n newydd, yn amwys neu’n gymhleth, ac mae’n hanfodol llwyr ddeall y broblem a’i hachosion er mwyn datgelu datrysiad a fydd yn gweithio. Rôl y rheolwr yw neilltuo’r broblem ac nid y datrysiad i dîm. Yr arweinwyr sy’n gyfrifol am y broblem o hyd, ond nid nhw yw’r rhai sy’n ei datrys.

Mae tîm amlddisgyblaethol angen awdurdod

Er mwyn gwneud penderfyniadau i gyflawni nod, mae angen i dîm amlddisgyblaethol gael yr awdurdod i wneud penderfyniadau pwysig. Gall hyn fod yn heriol mewn strwythurau pŵer lle mae arweinyddiaeth yn cael ei harfer o’r brig i lawr. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw timau amlddisgyblaethol annibynnol yn tanseilio’r hierarchaeth gynhenid mewn sefydliad. Efallai bydd gan y tîm amlddisgyblaethol ganiatâd i wneud penderfyniadau, ond mae’n hanfodol bod y tîm yn ymgysylltu â’r arweinwyr yn barhaus, gan roi digon o gyfle i roi adborth, trafod a herio.

Gall y rolau o fewn tîm amlddisgyblaethol newid yn ddibynnol ar y cam yng nghylch bywyd y cynnyrch neu’r broblem © Pexels

Yn yr un modd ag y mae’r tîm yn cael ei rymuso, felly hefyd pob aelod o’r tîm. Maen nhw’n cael eu dal yn gyfrifol am eu perfformiad a’r hyn maen nhw’n ei gyflawni gan weddill y tîm amlddisgyblaethol yn hytrach na rheolwr llinell. Gall y ddibyniaeth hon ysgogi unigolion i berfformio’n uwch oherwydd bod ganddynt gyfrifoldeb am eu gwaith a’r cyfle i gymhwyso eu sgiliau a’u profiad i’r eithaf.

Rolau mewn tîm amlddisgyblaethol

Bydd y rolau mewn tîm amlddisgyblaethol yn amrywio yn unol â manylion penodol yr her maen nhw’n mynd i’r afael â hi a pha gam y mae’r prosiect neu’r gwasanaeth wedi’i gyrraedd. Fodd bynnag, mae craidd tîm amlddisgyblaethol yn debygol o gynnwys rhywun sy’n:

Mae’r rolau o fewn tîm amlddisgyblaethol yn addasu yn ôl y cam yng nghylch oes y cynnyrch (neu’r broblem). Er enghraifft, mewn cam darganfod, mae’r tîm yn brysur yn archwilio’r broblem, felly mae ymchwilydd defnyddwyr yn hanfodol. Yn ystod y cam ffurfio syniadau, mae sgiliau dylunydd gwasanaeth sy’n gallu gweld sut mae’r gwahanol rannau o broblem gyfan yn rhyngweithio yn hanfodol. Ar gamau eraill, yn dibynnu ar y datrysiad a ddewiswyd, efallai bydd angen i ddatblygwyr, dylunwyr rhyngweithio, strategaethwyr cynnwys neu ymarferwyr eraill gyfrannu mwy.

Mae tîm sy’n creu gyda’i gilydd yn aros gyda’i gilydd

Nid yw llwyddiant yn cyrraedd ei begwn ar yr adeg lansio. Dylai timau amlddisgyblaethol barhau i fod yn gyfrifol am eu cynnyrch neu wasanaeth ar ôl iddo gael ei lansio. Wrth i flaenoriaethau neu dasgau ychwanegol ddod i’r amlwg, bydd y tîm amlddisgyblaethol yn troi ei sylw tuag at ddarparu’n barhaus er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn aros yn berthnasol i anghenion defnyddwyr sy’n esblygu.

Mae Susan McFarland-Lyons yn rheolwr cyflawni sy’n gweithio ar dîm Safonau Gwasanaeth Digidol CDPS

Darllenwch fwy

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *