Mae prosiect darganfod gan CDPS ynglŷn â thechnoleg trydydd sector a llywodraeth wyrddach wedi siarad â gweision cyhoeddus ledled Cymru - dyma beth ganfuon nhw

2 Medi 2022

Canfu ein hymchwil fod gan rai pobl farn gref ar sut i ddylunio a rhedeg gwasanaethau’n gynaliadwy, ond eu bod yn gweld hi’n anodd mesur effaith amgylcheddol gwasanaethau

Mae prosiect ymchwil Technoleg Sero Net 12 wythnos y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi bod yn edrych ar sut gallai technoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus helpu Cymru i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr i sero erbyn 2050.

Trwy gyfweliadau uniongyrchol ac arolygon, roedd y tîm darganfod (a oedd yn cynnwys aelodau o'r asiantaeth datblygu digidol Perago a'r parc gwyddoniaeth M-SParc, yn ogystal â CDPS) wedi casglu tystiolaeth gan bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ledled Cymru.  

Roedd y cyfweleion yn cynnwys pobl a oedd yn dangos arfer da ym maes yr hinsawdd ddigidol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau perthnasol fel cynnal 'cwmwl' cyhoeddus. Ymchwiliodd y tîm hefyd i bolisi hinsawdd a digidol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Trwy ein gwaith ymchwil, mae'r tîm wedi llunio 6 argymhelliad ar gyfer sut gall defnydd o dechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus helpu Cymru i gyrraedd ei nodau hinsawdd.

Darllenwch adroddiad llawn y prosiect darganfod Technoleg Sero Net a gwyliwch sesiwn dangos a dweud derfynol y tîm sy'n crynhoi eu hargymhellion.

Argymhelliad 1 - Cynyddu ymwybyddiaeth

Yn aml, roedd gan arweinwyr technoleg, ac ymarferwyr, ddiffyg dealltwriaeth lawn o: 

  • sut gallai technoleg ddigidol gefnogi sero net yn gyffredinol 
  • nodau sero net eu sefydliad yn benodol   
  • beth oedd cyflawni sero net yn ei olygu yn eu cyd-destun proffesiynol 

Gallai'r rhan fwyaf o gyfranogwyr roi enghraifft neu ddwy o feysydd lle'r oedd eu gwaith digidol wedi cael effaith ar allyriadau carbon, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol. Fodd bynnag, roedd yn amlwg nad oedd rhai cyfranogwyr yn ymwybodol o'r darlun llawn.

“Nid wyf yn credu ... bod mwyafrif [y bobl yn] TG yn poeni llawer am gynaliadwyedd o ran eu gwaith”

Ymarferydd digidol mewn awdurdod lleol

“Nid ydym hyd yn oed wedi dechrau meddwl am sut gellir defnyddio technoleg ddigidol, mewn gwirionedd. Gadewch i ni roi'r ddau beth [technoleg ddigidol a'r hinsawdd] gyda'i gilydd”

Rheolwr gwasanaeth mewn gweinyddiaeth ganolog y sector cyhoeddus
Argymhelliad 1 – datrysiadau posibl
  • Ymgorffori cynaliadwyedd yn strategaethau digidol y sector cyhoeddus 
  • Cynnal ymgyrch gyfathrebu ar draws y sector cyhoeddus 
  • Gwneud cynaliadwyedd yn fwy amlwg yn Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru 

Argymhelliad 2 – Gwneud sero net yn flaenoriaeth ym maes technoleg ddigidol

Mae ymchwil wedi dangos bod datgysylltiad rhwng blaenoriaethau'r argyfwng hinsawdd a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus. Anaml y mae cynaliadwyedd yn sbardun i dimau digidol.  

Mae angen i bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru weld cynaliadwyedd yn cael ei flaenoriaethu o'r brig, lle y bydd yn hidlo i lawr i amcanion y tîm digidol. 

“I ni yn y byd digidol … nid ydym eto ... wedi rhoi ... datgarboneiddio ... wrth wraidd dylunio ein gwasanaeth”

Arweinydd digidol a thechnoleg mewn awdurdod lleol

“Rydym yn chwarae gêm hir ac yn ceisio cyflawni o'r gwaelod i fyny, sy'n anghywir. Fe ddylai ddod o'r brig i lawr”

Ymarferydd digidol mewn prifysgol yng Nghymru
Argymhelliad 2 – datrysiadau posibl
  • Gwneud sero net yn rhan o bob prosiect digidol 
  • Amlygu ymrwymiadau a pholisi hinsawdd presennol  
  • Gosod targedau tymor hir ar gyfer yr hinsawdd  
  • Pwysleisio sut gall technoleg ddigidol helpu i gyflawni sero net ar draws y sefydliad 
Mae angen i’r sector cyhoeddus ddarparu safonau ar gyfer mesur olion traed carbon digidol

Argymhelliad 3 - Helpu pobl i ddilyn arfer da sero net

Pan fydd gweithwyr cynaliadwyedd proffesiynol mewn sefydliadau, nid ydynt wedi'u cydgysylltu â thimau digidol i ddylanwadu arnynt a'u cefnogi.  

Yn aml, roedd gan y gweithwyr cynaliadwyedd proffesiynol y siaradon ni â nhw syniad da o sut gall technoleg ddigidol gefnogi sero net, ond llai o allu i wireddu'r syniadau hynny.

“Pe byddai'n rhaid i mi wneud rhywbeth yn y maes hwnnw [technoleg ddigidol], ni fyddwn yn gwybod ble i ddechrau”

Gweithiwr cynaliadwyedd proffesiynol

“Mae nodau fel yna yn y brifysgol ac maen nhw wedi'u hysgrifennu mewn papurau ar y brig, ond sut mae hynny'n trosi … i'r amgylchedd digidol go iawn, nid wyf yn credu ei fod yn digwydd, mewn gwirionedd”

Ymarferydd digidol a thechnoleg mewn prifysgol yng Nghymru

Fe glywson ni gan rai darparwyr cwmwl cyhoeddus mai diwylliant sefydliadol oedd un o'r ffactorau mwyaf a oedd yn rhwystro cleientiaid rhag helpu i gyflawni sero net.

Argymhelliad 3 – datrysiadau posibl
  • Cyfeirio at waith da presennol yn y maes hwn 
  • Meithrin cymunedau arfer da  
  • Annog sefydliadau i ryngweithio ag ymarferwyr presennol sy'n dangos esiampl dda  
  • Datblygu sgiliau digidol cynaliadwy 
  • Hyrwyddo diwylliant digidol 

Argymhelliad 4 – Mesur ôl troed carbon gwasanaeth digidol

Cododd yr angen i werthuso effaith gwasanaethau ar yr hinsawdd mewn ymchwil defnyddwyr. Nid oedd ffordd glir a rhwydd o werthuso ôl troed gwasanaeth digidol o ran yr hinsawdd. Roedd dull o'r fath hefyd ar frig rhestr ddymuniadau tîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Roedd gan rai o'r bobl a gyfwelon ni safbwyntiau cryf ar sut i ddylunio a chynnal gwasanaethau'n gynaliadwy, ond roedden nhw'n cael trafferth mesur effaith amgylcheddol gwasanaethau. 

“Byddai'n helpu i wneud penderfyniadau petaen ni'n gallu meintioli effeithiau technoleg ddigidol o gymharu â di-ddigidol. Nid wyf yn hoffi dweud, 'O, wel, byddai'n well fwy na thebyg.' Rwy'n hoffi gallu ei brofi” 

Arweinydd digidol a thechnoleg mewn gweinyddiaeth ganolog y sector cyhoeddus

“Bydden ni'n cael trafferth mawr i feintioli sut byddai'r pethau rydyn ni'n mynd i'w gwneud yn y dyfodol yn cyfrannu at yr agenda ddatgarboneiddio”

Arweinydd digidol a thechnoleg mewn awdurdod lleol
Argymhelliad 4 – datrysiadau posibl
  • Darparu safonau ar gyfer mesur ôl troed carbon digidol 
  • Rhoi enghreifftiau o fesur ôl troed gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd, ar draws sianeli  
  • Rhoi arweiniad ar fesur ôl troed systemau TG etifeddol o ran yr hinsawdd  
  • Rhoi arweiniad ar gymharu effaith gwasanaethau digidol ac all-lein ar yr hinsawdd
Erychodd tîm Technoleg Sero Net ar chwe ffordd y gallai’r sector cyhoeddus digidol gyfrannu at Gymru wyrddach

Argymhelliad 5 – Cefnogi gwaith cynaliadwyedd ar draws ffiniau

Canfu ein gwaith ymchwil fod lleihau dyblygu, a symud tuag at wasanaethau a rennir ar draws y sector cyhoeddus, yn ffordd bwysig o leihau allyriadau. O fewn ac ar draws sefydliadau, mae timau'n aml yn gweithredu'n annibynnol ar ei gilydd. Mae hynny'n lleihau eu gallu i ailadrodd arferion digidol cynaliadwy da o fannau eraill.

Nid yw cydweithio ar fodelau darparu gwasanaeth yn syniad newydd (mae'n ymddangos ym Map trywydd sero net Cymru ar gyfer 2022-2026) ond, os caiff ei wneud yn dda, fe allai gael effaith fawr.

Siaradodd lawer o gyfranogwyr am arbedion effeithlonrwydd a buddion amgylcheddol canfyddedig gwaith gwasanaeth a rennir.

“Petai gennym ni sefydliad canolog a oedd yn helpu i hwyluso [rhannu], boed hynny'n ymwneud â systemau neu reoli gwasanaethau digidol neu gymorth mewn gwasanaethau digidol, rwy'n credu y byddai hynny'n eithaf defnyddiol. Yn gyffredinol, byddai hynny'n darparu arbedion effeithlonrwydd hefyd - os byddwch chi'n ei wneud unwaith, yn hytrach na bod pob bwrdd iechyd yn ei wneud yn annibynnol”

Arweinydd cynaliadwyedd ym maes iechyd a gofal
Argymhelliad 5 – datrysiadau posibl

Argymhelliad 6 - Gwneud cynaliadwyedd yn rhan o gaffael

Amlygodd ein gwaith ymchwil polisi a'n sgyrsiau â gweision cyhoeddus y cyfle i gaffael cynhyrchion a gwasanaethau digidol mewn ffordd sy'n helpu i leihau allyriadau carbon. 

Dywedodd defnyddwyr nad oeddent yn gwybod sut i drosi meddwl am gynaliadwyedd yn gaffael digidol. Fodd bynnag, roedden nhw'n cefnogi ymgorffori cynaliadwyedd mewn polisi a phlatfformau caffael ehangach, yn hytrach na'i adael i sefydliadau unigol ei ddehongli.

“Byddai arfer da y gallem gyfeirio ato - sy'n dweud, 'Os ydych yn ysgrifennu manyleb ar gyfer meddalwedd neu galedwedd, dyma'r pethau y dylech fod yn ceisio eu hadlewyrchu mewn tendr' - yn ein harbed ni i gyd rhag gorfod ymbalfalu”

Arweinydd digidol a thechnoleg ym maes iechyd a gofal
Argymhelliad 6 – datrysiadau posibl
  • Rhoi arweiniad ar ymgorffori nodau sero net mewn caffael digidol  
  • Cynnwys arbenigwyr cynaliadwyedd yn gynnar wrth wneud penderfyniadau caffael 
  • Datblygu perthnasoedd â gwerthwyr i gynnwys nodau sero net  
  • Gwneud dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (sy'n gwneud gwasanaethau'n fwy effeithlon ac felly'n fwy gwyrdd, o bosibl) yn rhan o brynu yn ogystal ag adeiladu cynhyrchion a gwasanaethau 

Y camau nesaf

Byddwn bellach yn rhannu ein prif ganfyddiadau ag amryw randdeiliaid ac yn cytuno gyda nhw ar y camau gweithredu i symud ymlaen â'r gwaith hwn.

Darllenwch adroddiad llawn y prosiect darganfod Technoleg Sero Net a gwyliwch sesiwn dangos a dweud derfynol y tîm sy'n crynhoi eu hargymhellion.

Gwnewch sylwadau isod neu anfonwch neges e-bost at CDPS gyda chwestiynau am y gwaith hwn.