Mae set ddata graidd Cymru Gyfan yn cynnwys adroddiadau data y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhannu â phob ysgol gynradd ac uwchradd ac awdurdod lleol yng Nghymru.  

Mae Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag ystadegwyr a chydweithwyr polisi ysgolion i awtomeiddio cynhyrchu'r adroddiadau hyn. Mae hwn yn ateb dros dro i helpu i gefnogi hunanwerthuso dysgu a chynnydd. 

Ymunwch â'r sesiwn hon i ddysgu mwy am sut mae'r uned wedi defnyddio: 

  • SQL i awtomeiddio prosesu data ar raddfa 

  • R i adeiladu piblinell ddadansoddol atgynhyrchadwy 

  • R i adeiladu adroddiadau PDF wedi'u teilwra i bob ysgol 

  • nodi a sicrwydd ansawdd i ddilysu'r adroddiadau 

  • codio arferion gorau i alluogi adroddiadau effeithlon a dwyieithog 

  • eu pecynnau R pwrpasol eu hunain i helpu eraill yn y dyfodol 

Mae'r Uned Gwyddor Data wedi ysgrifennu blog fel cyflwyniad i un o'r pecynnau R y byddant yn eu trafod yn y weminar hon. 

Mae'r gweminar hwn ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.