15 Medi 2021

Yn ein blogiau blaenorol am yr adolygiad tirwedd rydyn ni wedi trafod pwysigrwydd meddu ar ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n gwneud gwasanaeth digidol a sut mai siarad â pherchnogion gwasanaethau yw sail y ddealltwriaeth hon. 

Yn y blog diweddaraf yma roedden ni am ymhelaethu ychydig yn ehangach ac amlygu nad ni yng Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yw’r unig rai sydd wrthi yn y maes hwn. Mae llawer o sefydliadau eraill o’r un anian o amgylch y byd (sy’n cael eu galw’n “Unedau Llywodraeth Ddigidol”) wedi mynd i’r afael â materion cyffelyb ac rydyn ni’n awyddus i ddysgu wrthyn nhw.

Beth yw “Uned Llywodraeth Ddigidol”? 

Ers dechrau’r 2010 au mae Unedau Llywodraeth Ddigidol (DGU), gan ddilyn y llwybr a sefydlwyd gan yr uned gyntaf Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, wedi dod yn nodwedd gyffredin yn nhirwedd sefydliadol llywodraethau. 

Mae Unedau wedi ymddangos yn: 

  • yr Unol Daleithiau (dwy: Gwasanaeth yr ‘United States Digital Service’ ac ‘18f’ yn ogystal ag ar lefel daleithiol) 
  • Awstralia (‘Australian Digital Transformation Agency’) 
  • Canada (‘Canadian Digital Service’) ac unedau llywodraeth ddigidol is-genedlaethol 
  • ac mewn mannau eraill 

Does dim dwywaith bod Unedau wedi bod yn amrywiol eu siâp, eu gorchwyl a’u ffocws: mae rhai’n gweithredu ar lefel genedlaethol, eraill ar lefel is-genedlaethol; mae rhai’n rhychwantu llu o swyddogaethau llywodraeth, eraill yn rhychwantu ychydig. Yn fras, fodd bynnag, dangoswyd bod nodweddion arbennig i Unedau Llywodraeth Ddigidol llwyddiannus fel:

  • gweithredu yng nghanol swyddogaethau llywodraeth, yn hytrach nag mewn adran neu asiantaeth benodol 
  • ffafrio arferion dylunio a ffyrdd o weithiau sy’n ystwyth ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr 
  • ceisio pontio seilos a bylchau, gan ddefnyddio dulliau “ar sail llwyfannau” 
  • rhoi gwerth ar wneud penderfyniadau ar sail data 
  • canolbwyntio ar gyflawni a “chymryd camau pendant” 

Beth mae Unedau Llywodraeth Ddigidol wedi’i gyflawni? 

Mae llu o fentrau, cynnyrch, gwasanaethau a safonau wedi dod i’r amlwg drwy’r Unedau. O fwrw golwg o amgylch y byd, mae llawer y gallwn ddysgu wrtho. Dyma nodi rhai enghreifftiau:

Ychydig yn nes at gartref, mae llawer o sylw’n cael ei hoelio’n aml ar gyflawniadau Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS), UK Government Digital Service.  

Ymhlith pethau eraill, mae GDS, ers ei sefydlu yn 2011, wedi: 

Nid oes modd atgynhyrchu profiadau GDS o reidrwydd ym mhobman a dyna pam rydyn ni’n awyddus, yn rhan o’r adolygiad tirwedd, i ddysgu o ystod eang o Unedau Llywodraeth Ddigidol. 

Ac nid gan unedau ar lefel genedlaethol yn unig y mae gennym ddiddordeb dysgu. Mae llawer o arloesi digidol rhagorol wedi digwydd hefyd ar lefel llywodraeth ranbarthol, wladwriaethol, ddinesig a lleol, fel yn San Francisco lle mae cannoedd o wefannau llywodraeth leol yn cael eu cyfuno’n un parth sy’n gyfeillgar i’r defnyddiwr.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r adolygiad tirwedd? 

Rydyn ni’n hyderus bod llawer o wersi gwych y gallwn eu dysgu – yn llwyddiannau ac yn fethiannau – wrth Unedau Llywodraeth Ddigidol. 

Fel damcaniaeth gychwynnol, rydyn ni wedi nodi rhestr hir o “bethau mae Unedau Llywodraeth Ddigidol wedi’u gweithredu’n llwyddiannus” ac rydyn ni’n defnyddio hyn i arwain ein syniadau ynghylch a allen nhw fod o gymorth wrth osod blaenoriaethau CDPS wrth symud ymlaen. 

Ar y rhestr hir, mae:

  • ail-lunio gwasanaethau, drwy drawsffurfio gwasanaethau a oedd yn rhai analog neu’n rhai analog i raddau helaeth yn flaenorol (e.e. rhai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy’r post/ar bapur) a’u gwneud yn hygyrch yn ddigidol
  • cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio gwasanaethau digidol sydd eisoes yn bodoli, naill ai drwy eu gwella i ateb anghenion defnyddwyr yn well neu orfodi’r defnydd ohonyn nhw
  • datblygu llwyfannau a chydrannau a rennir (fel gwasanaethau gwe-letya yn y cwmwl neu wasanaethau hysbysu) y gellir eu creu unwaith a’u hailddefnyddio ar draws Cymru
  • nodi arfer gorau a rhannu hyn rhwng sefydliadau
  • uwchsgilio timau ym maes trawsnewid digidol a llunio gwasanaethau
  • datblygu safonau cyffredin ar gyfer gwasanaethau
  • cynnig mewnwelediadau data i’r rhai sy’n creu ac yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau
  • creu cyfleoedd i unigolion gyrchu eu data eu hunain a gwybod sut mae’n cael ei ddefnyddio

Fodd bynnag, nid ydyn ni’n cymryd dim o hyn yn ganiataol – rydyn ni hefyd yn rhagweithiol yn ceisio mantoli a fyddai modd atgynhyrchu’r cyflawniadau hyn o fannau eraill yma, ac a oes unrhyw beth ar goll.

Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n cael llawer o sgyrsiau gydag unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r byd sydd wedi chwarae rhan fawr yn natblygiadau’r Unedau Llywodraeth Ddigidol.

Os hoffech rannu rhai o'ch profiadau gyda ni, mae croeso i chi gysylltu! Gadewch sylw isod neu gallwch ein trydar ar @cdps_cymru