Ymgysylltu â chymunedau

10 Mehefin 2021

Wrth i ni ddatblygu a rhoi ffocws i’n darpariaeth, rydyn ni wedi bod yn meddwl am gymunedau a sut i greu ymgysylltiad ystyrlon. Wrth sôn am gymunedau, rydyn ni wedi bod yn meddwl am y term mewn tair ffordd: 

Cymunedau ymarfer – pobl sy’n dod at ei gilydd oherwydd bod ganddynt awydd cyffredin i ddatblygu a/neu wella’r ffordd maen nhw’n gwneud rhywbeth. 

Cymunedau diddordeb – pobl sy’n dod at ei gilydd oherwydd eu bod yn rhannu diddordeb mewn pwnc neu frwdfrydedd amdano. 

Ymgysylltu â’r gymuned – amlygu a gweithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael lleisio’u barn wrth ddatblygu a dylunio’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a gwasanaethau cyhoeddus. Gallai’r grwpiau hyn fod yn ddaearyddol neu wedi’u seilio ar achos neu gred. 

Cymunedau diddordeb a chymunedau ymarfer

Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cymunedau ymarfer a chymunedau diddordeb o dan un darn o waith. Mae angen i’r cymunedau hyn ddarparu gwerth go iawn, gan ddatblygu cymuned fywiog, ysgogi trafodaeth a chreu ymdeimlad o gyffro ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus digidol, rhannu arfer da a hwyluso twf sgiliau digidol. Rydyn ni wedi dechrau trwy lansio ein cymunedau cyntaf; mae un yn canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a’r llall ar gyfleu newid digidol. Rydyn ni bellach yn edrych ar y cymunedau nesaf y mae angen i ni eu creu, ac mae’n debygol y bydd y rhain wedi’u seilio ar ein Safonau Gwasanaeth Digidol.

Disgwylir i rai o’r rhain esblygu i ddod yn gymunedau ymarfer a gefnogir gan bennaeth proffesiwn. Ond, ar yr adeg hon, mae’n bwysig ein bod yn creu man lle y gall unrhyw un sydd â diddordeb ddod ynghyd i rannu gwybodaeth a syniadau. Yn y modd hwn, gallwn ymgysylltu â chynulleidfa ehangach a bod mewn sefyllfa well i ddeall yr hyn y mae ei angen o ran proffesiynau digidol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cael dealltwriaeth well o rywfaint o’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, yr heriau a’r cyfleoedd.

Yn ogystal â chefnogi ein dwy gymuned gyntaf, ein camau nesaf yw:

Ymgysylltu â’r gymuned 

Er ein bod wedi gwneud rhywfaint o waith i amlygu ein grwpiau rhanddeiliaid a chwsmeriaid, mae gennym ragor i’w wneud i amlygu a gweithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael lleisio’u barn wrth ddatblygu CDPS a gwasanaethau cyhoeddus. Gallai’r grwpiau hyn fod yn ddaearyddol neu wedi’u seilio ar achos neu gred. 

I gefnogi hyn, rydyn ni newydd ddechrau darn o waith gyda Co-production Network for Wales i: 

Wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, byddwn yn cyhoeddi mwy o flogiau ynglŷn â’n canfyddiadau a’r camau nesaf. Os hoffech gael gwybod mwy am y gwaith hwn neu ymuno ag un o’n cymunedau, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr.

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *