Ydych chi’n siarad Ystwyth? Ôl-sylliad

2 Rhagfyr 2020

Pan fyddwch yn mynd dramor, ydych chi’n ceisio dysgu’r iaith sy’n cael ei siarad yn y man rydych yn ymweld ag ef neu a yw hynny’n rhy anodd, felly rydych yn cadw at yr hyn rydych chi’n ei wybod — eich iaith eich hun? Yn y prosiect hwn, mae’n teimlo fel ein bod ni’n dysgu iaith newydd, sef Ystwyth, gan fod y fethodoleg hon yn dod â’i therminoleg ei hun.

Geiriau newydd fel ‘curiadau drwm’, ‘seremonïau’, ‘cam darganfod’, ‘alffa’, ‘damcaniaethau’, ‘ymchwil defnyddwyr’, ‘gwibiadau’ a ‘syniadaeth’. Pan siaradon ni gyntaf am gynnal cyfarfod dyddiol ar ein sefyll… daeth Rhod Gilbert i’r meddwl! Yn ffodus, rydyn ni’n gweithio mewn amgylchedd cefnogol lle mae tîm y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn ein helpu i ddeall nid yn unig y ffordd o weithio, ond yr iaith hefyd.

Difyr a dryslyd

Mae’r timau darparu mewnol yn credu bod y derminoleg yn ddoniol weithiau, ac yn defnyddio’r gwahanol dermau mewn ffordd eithaf ysgafngalon fel arfer. Mae un neges e-bost a gawson ni gan aelod o’r tîm darparu mewnol yn dangos hyn, ‘…rwy’n mynd trwy’r holl ddogfennau ac yn defnyddio geiriadur i geisio canfod beth yw ystyr rhai geiriau’. Pan gawson ni ein cyfarfod tîm darparu mewnol cychwynnol gyda’r sgwad arbenigol, y peth cyntaf y sylwon nhw arno oedd yr iaith a pha mor ddryslyd ydoedd. Roedden nhw’n gyfarwydd â defnyddio dull gwahanol ar gyfer gwella ac ailddylunio gwasanaethau, a gwnaethon nhw ddechrau gosod y derminoleg Ystwyth yn y broses honno. Yn ffodus, mae yna rywfaint o debygrwydd. Ond nid yw bob amser yn bosibl, a lle mae tebygrwydd o ran cysyniadau, gallai’r union ddull a chyflwyniad fod yn wahanol, a gall hyn fod yn ddryslyd.

I ddod yn rhugl mewn unrhyw iaith, mae angen i chi ei defnyddio gymaint â phosibl, gan wybod er y byddwch yn gwneud camgymeriadau, y byddwch yn gwella dros amser. A ninnau’n gweithio fel rheolwyr prosiect, rydyn ni’n aml yn gyswllt rhwng cymorth allanol a’r tîm darparu mewnol. Mae angen i ni drosi’r wybodaeth a ddarperir gan y siaradwyr rhugl yn iaith blaen i’r siaradwyr anfrodorol. Mae’r ffaith nad ydyn ni’n rhugl ein hunain yn golygu bod perygl y gallwn fethu’r ystyr neu’r manylion ar adegau.

Fel rhan o dîm y sgwad arbenigol, fe’n hanogwyd i fod yn agored ynglŷn â hyn a herio i sicrhau ein bod ni i gyd yn deall ein gilydd.

Ydych chi’n codi’r ‘iaith’?

Rydyn ni tua 9 wythnos i mewn i’r prosiect ac yn dechrau dod yn gyfarwydd â’r ‘iaith’ newydd, gan ei defnyddio wrth gyfathrebu â’n gilydd a chyda’r tîm CDPS. Rydyn ni’n ceisio peidio â defnyddio’r iaith gormod gyda’n timau prosiect mewnol ar yr adeg hon, gan ddod o hyd i’n hiaith blaen ein hunain i gyfleu’r hyn sydd ei angen a’n sefyllfa bresennol yn lle hynny. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn sôn am ‘seremonïau’, rydyn ni’n cael cyfarfodydd prosiect neu sesiynau dal i fyny, a dydyn ni ddim yn dweud ein bod ni yn y ‘cam alffa’ ond yn meddwl am ddatrysiadau posibl i wella’r gwasanaeth.

Ydy’r ‘iaith’ newydd yn bwysig?

Felly, a oes ots bod iaith newydd yn gysylltiedig ag Ystwyth? Oes, yn ein barn ni. Fe all greu rhwystr rhwng staff y gwasanaeth a thîm y prosiect i ddechrau. Os yw tîm y gwasanaeth eisoes ychydig yn betrus, efallai na fydd y rhwystr hwn yn helpu i’w hysgogi i gymryd rhan yn weithredol. Gallai’r rhwystr hwnnw greu dieithriad a gallai’r bobl hynny sy’n gweithio yn y gwasanaeth ac sy’n allweddol i ddeall y sefyllfa’n llwyddiannus, creu datrysiadau a fydd yn gweithio, a gweithredu’r newid, golli diddordeb. Felly, yn ein barn ni, mae dau ateb posibl. Y cyntaf fyddai dysgu iaith newydd Ystwyth iddynt. Yr ail fyddai cefnu ar yr iaith yn gyfan gwbl a defnyddio iaith blaen.

1. Mae’r opsiwn cyntaf yn golygu treulio amser gyda’r timau mewnol gan fynd trwy brosesau Ystwyth yn fanwl ac, yn ôl pob tebyg, cynnwys offeryn cyfieithu neu restr termau. Mae’n rhaid mynd trwy’r dull gyda thîm mewnol, a dyna a wnaethon ni yn ein cyfarfod cychwynnol, ond mae’n cymryd ychydig yn fwy na rhyw awr i ymgyfarwyddo â’r holl derminoleg! Hefyd, gellid dadlau y bydd dull arall o wella gwasanaethau yn dod i’r amlwg yn y dyfodol agos, felly pam dysgu iaith newydd dim ond iddi gael ei disodli ag un arall ymhen ychydig flynyddoedd?

2. Yr ail opsiwn yw cefnu ar yr iaith dechnegol a chadw at iaith blaen. Ond yna fe ofynnon ni i’n hunain, a yw dysgu iaith newydd yn rhoi unrhyw fanteision i ni? Rydyn ni’n ffodus ein bod ni’n siarad ychydig o wahanol ieithoedd rhyngom, ac wrth drafod hyn ymysg ein gilydd, fe sylweddolon ni fod dysgu iaith wahanol yn aml yn rhoi dealltwriaeth i ni o ddiwylliant arall neu ffordd arall o ystyried cysyniadau. Mae hyn yn ychwanegu at ein gallu creadigol ac yn caniatáu i ni feddwl am bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol. Felly, efallai po fwyaf y cawn ein hamlygu i iaith a chysyniadau newydd, y mwyaf y byddwn yn cynyddu ein gallu creadigol a’n ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau neu sefyllfaoedd?

Rydyn ni wir yn mwynhau’r prosiect, mae’r sgwad arbenigol yn amyneddgar, yn wybodus ac yn gefnogol iawn, mae’r timau darparu mewnol yn ymgysylltu’n weithredol, mae’r cyfathrebu’n rhagorol, ac mae’n faes gwerth chweil i ganolbwyntio arno i helpu defnyddwyr gwasanaeth. A pho fwyaf rydyn ni’n defnyddio’r iaith Ystwyth newydd, y mwyaf y mae’n dod yn rhan o’n hiaith.

Mynd i’r afael â mater iaith

Felly, un wers o’r prosiect yw ystyried sut i fynd i’r afael â mater iaith cyn cynnal prosiect. Peidiwch ag ofni trafod gyda’r rhai sy’n ymwneud â’r prosiect. Efallai y penderfynir croesawu’r derminoleg newydd, neu gellid penderfynu defnyddio iaith blaen. Gallech wneud y ddau a chyd-greu eich rhestr termau eich hun, gan fynd trwy’r derminoleg Ystwyth a ddefnyddir a gofyn i’r tîm darparu mewnol ba eiriau yr hoffen nhw eu defnyddio.

Y peth pwysicaf yw bod y cysyniadau wrth wraidd yr iaith yn cael eu harchwilio a’u hychwanegu at ein llyfrgell o ffyrdd o ystyried problemau a gwella gwasanaethau.

Postiad gan:

Mandy Butcher — Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Nita Sparkes — Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mark Sharwood — Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *