Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) – ymlaen â ni!

12 Ionawr 2021

Ymrwymiad i gefnogi digidol yng Nghymru

Yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22, cyhoeddodd Rebecca Evans fod £4.9m o gyllid wedi cael ei ddyrannu i CDPS ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn newyddion gwych i wasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru. 

Mae cyfle cyffrous iawn ar gael bellach i adeiladu ar chwe mis cyntaf CDPS. Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a’n rhwydwaith o bartneriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid sy’n tyfu’n barhaus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da, cynhwysol a hygyrch a sicrhau bod y bobl sy’n dylunio a darparu’r gwasanaethau yn meddu ar y sgiliau, y gallu, yr uchelgais a’r cymorth iawn.

Beth rydym wedi’i wneud hyd yma

Ers lansio, mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys: 

Bu brwdfrydedd mawr, heriau, a llawer o geisiadau i ni wneud mwy na’n cylch gorchwyl gwreiddiol ar gyfer y cam Alffa. Ac uwchlaw popeth, mae’r ymgysylltiad a’r gefnogaeth wedi bod yn wych. Mae’r fflam ynghynn!

Nesaf

Rydym wrthi’n cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond rydym yn gwybod y bydd: 

Ac o safbwynt personol

A minnau’n rhywun sydd wedi bod yn hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus digidol da, pobl a chanddynt sgiliau priodol, cynhwysiant a’r dyluniad sefydliadol iawn ar gyfer darparu gwasanaethau digidol ers 20 mlynedd, a rhywun sy’n byw yng Nghymru ac yn caru’r wlad, rwy’n falch iawn o fod yn arwain CDPS fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro. Mae llawer i’w wneud yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, fel cynllunio, rhoi’r tîm at ei gilydd, llawer o gaffael, trefnu prosesau llywodraethu, mesurau effaith ac ati. Ac, wrth gwrs, parhau â’r gwaith rydym eisoes wedi’i ddechrau.

Ond mae’n gyffrous iawn. Rydym wedi gweithio gyda phobl wych hyd yma sydd eisoes wedi cael effaith yn eu sefydliadau ac mae llawer mwy i ddod. 

Gallwch ddilyn ein cynnydd trwy ein blog neu gysylltu â ni trwy info@digitalpublicservices.gov.wales

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *