Sut roeddem yn deall yr angen am gymuned newydd ar gyfer ymchwil defnyddwyr yng Nghymru

Gall dechrau cymuned broffesiynol newydd fod yn frawychus ond mae ein Uwch Ymchwilydd Defnyddiwr, Gabi Mitchem-Evans, yn dangos bod rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i gymryd eich camau cyntaf

15 Mai 2023

Pam Cymuned Ymchwil Defnyddwyr i Gymru

Nododd ein Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr dri phrif amcan ar gyfer ein tîm y llynedd. Un yw “Pobl, Cymunedau a Rhwydweithiau”. Mae’r flaenoriaeth hon yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd i ddysgu, rhannu a gwella’r ffordd yr ydym yn dylunio wrth ganolbwyntio ar y defnyddiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn dal i fod yn newydd yn y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, felly mae’n bwysig dechrau creu cysylltiadau nawr. Trwy wneud hyn, cawn eu cefnogi i ddylunio mewn modd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ac o safon uchel, o’r cychwyn cyntaf. 

O brofiad, roeddem yn ymwybodol nad oedd gwerth a buddion ymchwil defnyddwyr wedi’u deall yn dda gan arweinwyr ledled Cymru, ac mai ychydig o ymchwilwyr defnyddwyr a gyflogir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Mae cymuned ymarfer yn darparu cefnogaeth i’r rheiny sy’n gweithio mewn maes a rennir i ddatblygu eu sgiliau a gweithio trwy broblemau tebyg, fel arfer o fewn un sefydliad. Ein cenhadaeth yma’n CDPS yw cefnogi pobl ledled Cymru, felly aethom â hyn gam ymhellach a phenderfynu bod angen cymuned ar gyfer y genedl gyfan. 

Ymchwil desg

Gwnaethom ymchwil desg i ddysgu am gymunedau presennol, sut maent yn gweithio a siarad â phobl ag oedd eisoes yn rhedeg cymunedau llwyddiannus.

Gweithdai cychwynnol

Darllenais lyfr Emily Webber, Building Successful Communities of Practice, a roddodd sicrwydd i mi fod yna ffordd benodol o gychwyn cymuned. Gan ddefnyddio ei hargymhellion ar gyfer ymarferion, dechreuais gynllunio gweithdy i ateb y cwestiynau hyn: 

Fe wnaethom wahodd cydweithwyr Llywodraeth Cymru a oedd wedi bod yn rhedeg eu cymuned ymchwil defnyddwyr mewnol eu hunain, yn ogystal â chydweithwyr CDPS. Gweithiodd hyn yn dda. Byddwn yn argymell dechrau gyda grŵp cychwynnol bach llawn bobl sy’n deall y cyd-destun ddigon i wneud cyfraniadau defnyddiol. Roedd y gweithdy yn werthfawr iawn ac yn rhoi momentwm a hyder i ni symud ymlaen. 

Roedd gennyf hefyd ddau ymchwilydd defnyddiwr newydd (Yana a Tom) yn ymuno â’r tîm ar yr adeg hon, a oedd yn golygu y byddem yn gallu gwneud cynnydd tuag at ein cenhadaeth mewn modd llawer cyflymach a chynaliadwy. 

Darganfod anghenion y defnyddiwr

Ar ôl y gweithdy, fe benderfynon ni ddechrau gyda darn diwastraff o waith y cyfnod darganfod, i weld beth oedd anghenion ein defnyddwyr. 

Rhannwyd y gwaith mewn i sbrintiau, lle cynhaliwyd ymchwil desg, cyfweliadau, ac arolwg i’n helpu i ddeall pwy oedd ein haelodau, beth oedd ei angen arnynt, a’r dirwedd gymunedol bresennol.

Cynllunio sbrint ar gyfer ein hymchwil cyfnod darganfod

Dod o hyd i bobl i gyfweld

Nid oeddem yn gwybod i ddechrau pwy fyddai ein darpar aelodau, felly defnyddiwyd sianeli cymdeithasol CDPS, ein cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau personol i ddechrau lledaenu’r gair am ein harolwg. Fe ddefnyddion ni hwn fel sianel i recriwtio ohoni, er mwyn i ni gyfweld â hwy yn hwyrach.

Cynhaliom gyfweliadau â 6 o gyfranogwyr a chawsom 20 ymateb i’r arolwg, gan y rheini mewn rolau ymchwilydd defnyddwyr, ac mewn rolau erill.

Ein neges cyfryngau cymdeithasol a helpasom ni i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer ymchwil a chyrraedd darpar aelodau

Darganfyddwch beth ddysgon ni a beth wnaethon ni gyda’n canfyddiadau yn ein blog nesaf…

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *