Sut i ddenu talent i rolau digidol, data a thechnoleg

Rydym yn rhannu rhai datrysiadau a syniadau i’r broblem sy’n wynebu nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, yn y farchnad swyddi bresennol, i ddenu pobl dalentog i swyddi digidol, data a thechnoleg.

24 Tachwedd 2022

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n partner atebion talent SyncD a’n pobl a’n harweinydd lles, Sarah Carter. Maent wedi datblygu strategaeth recriwtio triw a phrofi sy’n gynhwysol ac yn llwyddiannus; ar ôl cyflogi 17 aelod o staff parhaol mewn 5 mis.  

Dyma’r cofnod blog cyntaf yn ein cyfres Denu, Recriwtio, Cadw. Nod y gyfres yw mynd i’r afael â’r argyfwng yn y sector gyhoeddus wrth geisio denu, recriwtio a chadw mewn rolau digidol, data a thechnoleg. 

Rydym hefyd yn cyhoeddi offer a thempledi recriwtio y gallwch eu defnyddio er mwyn rhoi o’n datrysiadau a’n syniadau ar waith. 

Eich cynulleidfa darged

Man cychwyn pwysig i unrhyw ymgyrch recriwtio yw sicrhau eich bod yn deall eich cynulleidfa darged a sut y byddant yn derbyn eich hysbyseb. 

Gallwch wneud hyn drwy siarad am y rôl gydag aelodau o staff sydd eisoes yn gweithio yn y proffesiwn rydych chi’n bwriadu penodi iddo. 

Gallwch hefyd ddefnyddio LinkedIn Talent Insights. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fewnol ar dueddiadau’r farchnad i chi. Er enghraifft, os oes cyfradd gadael uchel (hynny yw, llawer o bobl yn gadael) o fewn un cwmni neu sefydliad byddwch yn gallu gweld hyn. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i dargedu gweithwyr o’r sefydliad hwn.  

Bydd ymgeiswyr o safon uchel yn cael eu boddi gan negeseuon recriwtwyr. Mae’n bwysig felly bod pwrpas i’ch neges a bod y rôl sydd yn cael ei hysbysebu yn berthnasol i’w sgiliau. 

Tynnu sylw ymgeisydd posib

Wrth ysgrifennu neges i ymgeisydd posib, dylech ddechrau trwy: 

Dylech deilwra bob neges, ond dyma wybodaeth hanfodol y dylech ei chynnwys:  

Ymgeiswyr goddefol

Mae’n bwysig ymgysylltu ag ymgeiswyr goddefol drwy gydol eich proses recriwtio. 

Gellir diffinio ymgeisydd goddefol fel rhywun sydd: 

Mae arolwg LinkedIn diweddar wedi dangos sut mai ymgeiswyr goddefol yw hyd at 75% o’r farchnad sydd ar gael.  

Mae eich strategaeth hysbysebu yn allweddol i ddenu ymgeiswyr goddefol. Gallai eich strategaeth gynnwys: 

Os ydych wedi datblygu rhwydwaith cryf gyda’ch presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan ddeniadol, yna dylai hyn hefyd helpu i ddenu ymgeiswyr goddefol a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod am eich gweithgaredd recriwtio. 

Recriwtio ar y cyfryngau cymdeithasol

Mewn marchnad swyddi gythryblus, mae’n rhaid ymgeiswyr gredu yng ngweledigaeth eich cwmni. 

Ers pandemig COVID-19, nid yw pobl yn cymryd rolau newydd ar gyfer gynyddu’u cyflog neu wella’u gyrfa yn unig. Mae pobl hefyd yn chwilio am sefydliadau sy’n mynd ati i geisio cael effaith gadarnhaol.

Gweithio yn yr awyr agored

Yn aml gallwch greu chwilfrydedd drwy: 

Bydd hyn yn helpu i greu diddordeb yn eich rolau gwag. 

A screenshot of a post by the Centre for Digital Public Services, sharing a blog on LinkedIn. 
Sgrinlun o neges gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, yn rhannu blog ar LinkedIn. 

Arfer gorau ar y cyfryngau cymdeithasol

Dyma gyngor i gynyddu ymgysylltiad a chyrhaeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol: 

Dyma enghraifft o neges Saesneg ar Twitter yn dilyn arferion gorau’r cyfryngau cymdeithasol.
Dyma enghraifft o neges Gymraeg ar Twitter yn dilyn arferion gorau’r cyfryngau cymdeithasol.

Cynyddu amrywiaeth gyda grwpiau cyfryngau cymdeithasol

Mae rhwydweithiau neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu hanwybyddu fel offeryn defnyddiol. Fodd bynnag, maent yn ddull cost-effeithiol a chyflym a all fod yn hanfodol wrth hysbysebu eich rôl i gymunedau mwy amrywiol. 

Yn CDPS, rydym yn cyhoeddi yn ddwyieithog ar ein holl gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn annog rhyngweithio ac ymestyn tua thalentau cymunedau amrywiol Cymru. 

Mae hefyd yn bwysig ymgysylltu â grwpiau LGBTQI+ a Contendiverse ar Slack, LinkedIn neu hyd yn oed Instagram a TikTok. Bydd llawer o aelodau’n ymgeiswyr goddefol sydd ddim yn cofrestru ar fyrddau swyddi. Mae eu cyfarfod ar lwyfannau y byddant eisoes yn eu defnyddio yn ffordd o estyn allan.  

Ni ddylai’r ymgysylltu hwn ddechrau a gorffen gyda dolen i’ch hysbyseb swydd. Dylai fod yn ymdrech ymwybodol, barhaus i weithio gydag aelodau’r grŵp a’u denu. Dylech hefyd fod yn onest am eich cynnydd mewn amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn hytrach na chymryd ymagwedd gyffredin at y pwnc.  

Dyma restr o grwpiau Slack efallai yr hoffech chi ymgysylltu â nhw os ydych chi’n gweithio ym maes technoleg

An example LinkedIn job post from a recent CDPS recruitment campaign.
Enghraifft o neges am swydd ar LinkedIn mewn ymgyrch recriwtio CDPS diweddar.

Creu argraff gyda’ch gwefan

Gwefan eich cwmni yn aml yw’r argraff gyntaf i ymgeiswyr posib. Dylai ddangos amcanion eich cwmni yn glir yn ogystal â dangos prosiectau enghreifftiol sy’n cyffroi pobl.  

Dylai tudalen recriwtio ar wefan bob amser fod yn ddeniadol i’r holl ymgeiswyr p’un ai yw’r cwmni yn recriwtio ar y pryd neu beidio. Yn CDPS, rydym ar hyn o bryd yn newid ein tudalen recriwtio i adlewyrchu hyn. 

Disgrifiadau swydd cynhwysol

Mewn hysbyseb swydd gynhwysol, dylech: 

Datganiad cynwysoldeb enghreifftiol

Darllenwch ymlaen 
  
Mae ymchwil yn dangos, tra bod dynion yn gwneud cais am swyddi y maen nhw’n bodloni 60% o’r meini prawf ar eu cyfer, mae menywod a phobl eraill ar yr ymylon yn tueddu i ymgeisio dim ond pan fyddant yn ticio pob blwch.  

Felly, os ydych chi’n credu eich bod yn addas i’r rôl, ond nid ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt ar y swydd ddisgrifiad, daliwch ati i gysylltu â ni. Byddem yn falch iawn o gael sgwrs i weld a fyddech yn gweddu i’r rôl.   

Rydym yn frwd ynglŷn â chreu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal ni waeth am anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, rhywedd a chyflwyniad rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant a chrefydd.   

Gweminar

Ar y gweill

Dilynwch ni ar Twitter neu LinkedIn i glywed am y gweminar nesaf yn y gyfres Denu, Recriwtio, Cadw.   

Gallwch ddefnyddio ein templedi ac offer recriwtio i roi rhai o’n hawgrymiadau ar waith. 

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *