28 Hydref 2020

Yn ôl ym mis Medi, fe rannon ni ein drafft cyntaf o’r Safonau Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cymru gyda chi. Roedden ni eisiau clywed eich barn amdanynt. Beth oedd yn gweithio, beth oedd ar goll a beth oedd ei angen i’w gwneud nhw’n asgwrn cefn ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus o bob math yng Nghymru.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb a gysylltodd trwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol, ac i’r rhai ohonoch a ymunodd ag un o’n dwy weminar ar y safonau, gan ofyn cwestiynau a rhoi adborth.

Adborth

Rydyn ni wedi ystyried popeth a ddywedoch chi wrthym, ac mae tair prif thema ar hyn o bryd:

Y Gymraeg — bu rywfaint o drafod ynglŷn â ph’un a ddylai gofynion yn ymwneud â’r Gymraeg gael eu nodi ar wahân neu a ydynt yn berthnasol i ‘anghenion defnyddwyr.' Mae’r safon hon yn ymwneud â deall anghenion pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond roedd mwyafrif y bobl yn teimlo y dylid cael safon sy’n canolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hymwreiddio yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu.

Llesiant cenedlaethau’r dyfodol — cawsom gryn dipyn o sylwadau ar y safon hon, a oedd oll yn cefnogi’r cyfle i seilio’r broses o ddylunio a darparu gwasanaethau ar 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mesur y safonau a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni — roedd y rhan fwyaf o’r adborth a gawsom o blaid y safonau ac yn teimlo bod y drafft yn agos ati, ond roedd pobl eisiau gwybod mwy am sut byddem yn sicrhau bod y safonau’n cael eu defnyddio a’u bodloni.

Y camau nesaf

O ystyried y gefnogaeth gref ar gyfer set o safonau y gall yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag atynt, a’r ffaith na heriwyd y drafft ei hun yn sylweddol, byddwn yn symud ymlaen i’r cam Beta yn awr. Bydd hyn yn caniatáu i ni brofi’r safonau, a gweld beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio, cyn i ni eu rhyddhau nhw’n ‘fyw’. Hyd yn oed wedyn, byddwn yn adolygu a diweddaru’n barhaus, lle y bo’r angen, o’r hyn a ddysgwn.

Profi’r safonau

Ein cam nesaf yw profi’r safonau mewn tri maes:

1. Roedd yn wych bod nifer o sefydliadau wedi cynnig profi’r safonau, ac rydyn ni bellach yn ystyried sut i weithio gyda nhw i brofi’r broses weithredu. Byddwn yn rhoi diweddariadau ar y gwaith hwnnw wrth iddo ddatblygu.

2. Rydyn ni hefyd wedi gweithio’n agos gyda Chronfa Ddigidol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i fynnu bod y safonau gwasanaethau digidol newydd yn cael eu defnyddio gan unrhyw awdurdodau lleol sy’n cael arian o’r gronfa hon i ddarparu gwasanaethau newydd. Mae hyn yn golygu y gallwn ddechrau profi’r safonau gydag awdurdodau lleol sy’n dylunio gwasanaethau newydd.

3. Rydyn ni bellach yn mynd i ddechrau gweithio tuag at y safonau hyn gyda’n prosiect sgwad arbenigol sy’n edrych ar gael mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion gyda Chyngor Bwrdeistref Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd unrhyw brosiectau eraill gan y sgwad sy’n cael eu lansio o’r Ganolfan yn gweithio tuag at y safonau hefyd.

Wrth i ni brofi’r broses weithredu, byddwn yn cael dealltwriaeth well o’r cymorth y gallai fod ei angen ar sefydliadau i fodloni’r safonau a’u gwneud yn weithredol, felly rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy’n ymwneud â’r camau cychwynnol hyn.

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi

Byddwn yn parhau i roi diweddariadau a rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r cam beta hwn cyn i ni lansio’r safonau’n fyw. Os hoffai eich sefydliad wybod mwy am y safonau gwasanaeth neu gymryd rhan yn ein cam beta, cysylltwch â ni.