Sut gall y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wneud y canllawiau hyn ar gyfer gwasanaethau gwell yn Nghymru yn ddefnyddiol i chi, y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - yw'r cwestiwn a ofynnwyd gan ein Pennaeth Safonau dros dro, Rhiannon Lawson

2 Mawrth 2022

CDPS wants to work with you to develop standards guidance that makes sense ©Artem Sapegin/Unsplash

Datblygodd CDPS y Safonau Gwasanaeth Digidol i helpu sefydliadau i greu gwasanaethau cyhoeddus gwell i bobl Cymru.

Mae safonau a gymhwysir yn gyson yn sail i

  • ddull cyffredin o ddatblygu digidol a defnyddio technoleg
  • bodloni anghenion y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ('anghenion defnyddwyr')
  • galluogi systemau a gwasanaethau i weithio gyda'i gilydd (‘y gallu i ryngweithredu’)
  • prosesau sy'n caniatáu i dimau ddatblygu fersiynau, methu'n gyflym a gwella'n barhaus - gan weithredu'n effeithlon i gynhyrchu gwasanaethau sy'n gweithio

Enghreifftiau o fywyd go iawn

Ac eto nid yw safonau'n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae angen canllawiau i esbonio sut maen nhw'n gweithio a darparu enghreifftiau o'r byd go iawn.

Yn anffodus, mae rhai safonau a chanllawiau'n gwneud i chi deimlo'n fwy dryslyd nag yr oeddech cyn dechrau eu darllen. Dyna pam mae CDPS eisiau gweithio gyda chi i ddatblygu canllawiau sy'n gwneud synnwyr. Credwn fod angen i ganllawiau:

  • gael eu hysgrifennu mewn iaith glir (nid ‘iaith arbenigwyr’)
  • bod yn ymarferol - gyda'r bwriad o'ch helpu i ddylunio a chreu gwasanaethau gwell yn eich sefydliad

Ond dyna ein barn ni. Mae angen i ni glywed gennych chi - i ddeall eich anghenion a chael eich cefnogaeth o'r dechrau.

Cysylltwch â ni

Yn rhan o fy mhroses sefydlu ar gyfer y rôl newydd Pennaeth Safonau, rwy’n awyddus i siarad â chynifer ohonoch – pobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru – â phosibl yn ystod yr wythnosau i ddod. Anfonwch neges e-bost ataf i drefnu cyfarfod.

Byddaf yn gofyn i bobl:

  • A yw’r safonau yn glir?
  • Beth fyddai’n eich helpu chi a’ch sefydliad i’w mabwysiadu nhw?
  • Pa adnoddau fyddai’n fwyaf defnyddiol?

Bydd ein tîm – y tîm safonau – yn gweithio’n agored ac yn blogio am ein cynnydd, felly cadwch lygad ar y blog i gael gwybod mwy.