Rhiannon Lawson yn ymuno â CDPS i oruchwylio safonau gwasanaeth digidol

10 Chwefror 2022

Rydym yn falch iawn o groesawu Rhiannon Lawson i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) fel Pennaeth Safonau dros dro. 

Mae Rhiannon wedi gweithio ym maes technoleg ar draws y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach ers 6 blynedd, ac yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Moderneiddio Technoleg, Dylunio Gwasanaethau a Safonau Technoleg yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth a’r Swyddfa Digidol a Data Ganolog.  

Mae’r Safonau Gwasanaeth Digidol wrth wraidd popeth a wnawn yn CDPS. Maen nhw’n helpu sefydliadau i ystyried yr holl elfennau sy’n arwain at wasanaethau gwell i bobl Cymru. 

Rydym eisiau i’r holl sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ymgorffori dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn yr holl wasanaethau maen nhw’n eu darparu. Bydd rôl Rhiannon yn hollbwysig wrth sicrhau bod y safonau’n cael eu deall, eu mabwysiadu a’u hymgorffori er mwyn darparu gwasanaethau a chanlyniadau gwell i ddefnyddwyr.

Rhiannon Lawson
Rhiannon Lawson

Bydd Rhiannon yn arwain y broses o ddatblygu llawlyfr gwasanaeth – a fydd yn dod â’r safonau’n fyw, yn dangos enghreifftiau o arfer da ac yn darparu offer i helpu sefydliadau i’w mabwysiadu nhw’n rhwydd. 

Bydd Rhiannon hefyd yn gyfrifol am unrhyw fersiynau parhaus o’r safonau ac yn sefydlu a rheoli bwrdd safonau, gan weithio’n agos gyda’r prif swyddogion digidol ym maes llywodraeth leol ac iechyd, ac yn Llywodraeth Cymru. 

Y tu allan i’r gwaith, mae Rhiannon yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad 5Rights, sy’n ymgyrchu dros fyd digidol lle mae plant a phobl ifanc yn ffynnu. Mae hi’n cyflwyno podlediad gyda thair o’i chyfeillion (The Unfairer Sex) ac mae’n forwyn briodas fynych, yn aelod selog o’r gampfa ac yn dwlu ar ddinosoriaid. 

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *