Denu talent Data, Digidol a Thechnoleg ym marchnad swyddi Cymru

Bydd y gweminar recriwtio hwn yn dweud wrthych am y farchnad swyddi sydd ohoni a sut i ddenu’r bobl iawn i wneud cais am eich swyddi gwag.
Mae galw mawr am sgiliau digidol ac mae’n hybys fod y sector cyhoeddus yn wynebu argyfwng recriwtio. Mae hefyd yn argyfwng denu a chadw cymhleth.
Ar ôl trafod y mater gyda phrif swyddogion digidol Cymru, bu’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cyfweld ag ystod eang o randdeiliaid ar draws y sector cyhoeddus ym mis Awst 2022. Rydym wedi grwpio’r materion a gododd yn themâu y gallem eu datrys yn ymarferol.
Rydym nawr yn rhannu gwybodaeth mewn cyfres o weminarau sy’n rhad ac am ddim. Y nod yw rhoi awgrymiadau ac adnoddau i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru ar gyfer denu, recriwtio a chadw talent ddigidol Cymru.
Rhaglen
Mae ein gweminar cyntaf yn edrych ar ddenu. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cynnwys:
- ystadegau a mewnwelediad i farchnad swyddi presennol Cymru
- awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i ddenu ymgeiswyr i’ch swyddi gwag presennol
- canllawiau arfer gorau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Cofrestru
Cofrestrwch eich lle ar gyfer y gweminar ar Eventbrite
Rhagor i ddod
Ar ôl y gweminar, byddwn yn rhannu templedi, adnoddau a chanllawiau perthnasol er mwyn i chi gael cymorth pellach.
Mae’r gweminar hwn yn rhan o gyfres. Bydd y gweminarau ychwanegol yn cael eu cynnal:
- Recriwtio – Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2022
- Cadw – Dydd Iau 26 Ionawr 2023