Dylunio Cynnwys Cymru
Mae’r gymuned hon yn dod â phobl sy’n dylunio cynnwys at ei gilydd er mwyn iddynt allu helpu a chefnogi ei gilydd i wneud eu gwaith a dweud wrth eraill pam mae dylunio cynnwys yn bwysig.
Rydym am feithrin disgyblaeth dylunio cynnwys a gosod dylunwyr cynnwys fel arbenigwyr sy’n hanfodol i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ar gyfer pwy mae’r gymuned
- dylunwyr cynnwys
- unrhyw un sy’n gwneud gweithgareddau dylunio cynnwys
Sut rydym yn cyfarfod
Mae’r grŵp yn cwrdd yn rhithiol unwaith y mis. Rydyn ni’n defnyddio Teams fel cyfrwng cyfarfod.
Rydym yn defnyddio Basecamp fel cyfrwng parhaus i ddechrau trafodaethau, gofyn cwestiynau a rhannu syniadau.
Diwylliant
Dylai aelodau’r gymuned bob amser drin ei gilydd gyda pharch.
Dylai’r aelodau fod yn:
- garedig
- ystyriol
- adeiladol
- cynorthwyol
- cefnogol
Dydyn ni ddim yn cofnodi ein cyfarfodydd rhithiol rheolaidd.
Dyma ofod diogel i ddylunwyr cynnwys drafod eu heriau’n agored. Dylai’r aelodau barchu bod eraill o bosib yn rhannu problemau yn gyfrinachol.
Os ydyn ni’n dewis dweud wrth eraill beth rydyn ni wedi bod yn ei drafod, ni fyddwn yn rhannu’r manylion am bwy ddywedodd beth.
Ymunwch â chymuned Dylunio Cynnwys Cymru
Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd.
Os hoffech chi ymuno â’r gymuned hon, anfonwch ebost at Osian Jones, Uwch-ddylunydd Cynnwys: osian.jones@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru