Cymuned Ymchwil Defnyddwyr Cymru
Yn ôl ein hymchwil, mae angen creu cymuned benodol i gysylltu a chefnogi pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd â diddordeb mewn ymchwil i ddefnyddwyr – felly dyna beth wnaethon ni!
Mae’r Gymuned Ymchwil Defnyddwyr Cymru yn gymuned a arweinir gan aelodau sy’n bodoli i:
- gysylltu pobl ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd â diddordeb mewn / neu sy’n ymarfer ymchwil defnyddwyr
- adeiladu a chefnogi arfer ymchwil defnyddwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- hyrwyddo pwysigrwydd ymchwil defnyddwyr ar gyfer helpu sectorau cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni a dylunio gwasanaethau cyhoeddus gwell
- datblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil defnyddwyr o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru
- trafod, herio a gwella’r ffordd y mae ymchwil defnyddwyr yn cael ei wneud mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Ar gyfer pwy mae’r gymuned
Does dim rhaid i chi fod mewn rôl ymchwilydd defnyddwyr i ymuno â’n cymuned.
Efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y gymuned hon os ydych:
- gyda diddordeb mewn deall defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- gwneud gweithgareddau ymchwil fel rhan o’ch rôl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
- yn ymchwilydd defnyddwyr ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- wedi mynychu cwrs hyfforddi gyda CDPS ac eisiau deall mwy am roi ymchwil defnyddwyr ar waith
- eisiau dysgu am ymarfer a hyrwyddo ymchwil defnyddwyr
Neu, os ydych yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru megis:
- GIG Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Llywodraeth leol
- Gofal cymdeithasol
- Addysg
- Sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus
Sut rydyn ni’n cwrdd
Rydym yn defnyddio Microsoft Teams i gadw mewn cysylltiad â’r gymuned. Mae’n lle anffurfiol i sgwrsio am bopeth sy’n ymwneud ag ymchwil defnyddwyr, rhannu gwybodaeth a helpu gyda materion ymchwil defnyddwyr go iawn a rhwydweithio â phobl o’r un anian. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cynnal cyfarfodydd personol ledled Cymru wrth i’n cymuned dyfu.
Sut i gymryd rhan
Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd.
Os hoffech ymuno â’r gymuned hon, anfonwch e-bost ymchwil.defnyddwyr@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru, gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost sector cyhoeddus (e.e., wales.nhs.uk neu llyw.cymru) a byddwn yn anfon gwahoddiad atoch trwy e-bost i ymuno â’n gymuned ar Microsoft Teams.