Cymunedau ymarfer
“Mae cymunedau ymarfer yn grwpiau o bobl sy’n rhannu pryder neu angerdd tuag at rywbeth y maen nhw’n ei wneud – a dysgant sut i’w wneud yn well am eu bod yn rhyngweithio’n rheolaidd”
Etienne Wenger
Mae ein cymunedau ymarfer yn gyfle i bobl o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau, yn Nghymru a’r tu hwnt, i:
- gyfarfod yn rheolaidd i rannu gwybodaeth a phrofiad a thrafod syniadau
- llunio rhwydweithiau i gefnogi datblygiad proffesiynol ac arferion fel recriwtio a mentora
Rhagor o gymunedau ymarfer
Grwpiau cenedlaethol a rhyngwladol
- Mae cymuned ddylunio ar draws llywodraeth y DU.
- Ar gyfer pobl sy’n ymwneud â cynnwys, mae’r Content Club yn cyfarfod yn aml a medrwch ymuno â’r sianel Slack.
- Mae UX Wales yn gyfarfod ar gyfer pawb sy’n diddori ac yn ymarfer profiad y defnyddiwr.
- Digwyddiad misol rhad ac am ddim i bob greadigol, busnesau a myfyrwyr yw Design Swansea gyda siaradwyr gwadd, gweithdai a mwy.
- Mae sawl grŵp Slack sydd yn werth ymuno â nhw. Mae’r rhain yn llefydd ar-lein i gyfarfod erail sy’n gwneud gwaith tebyg ar draws adrannau’r llywodraeth a gofyn cwestiynau a dysgu:
Cymunedau a rhwydweithiau dylunio i lywodraeth leol
- Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnal llond llaw o gymunedau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gynnwys cymuned dylunio gwasanaethau a dylunio cynnwys.Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â digitalteam@wlga.gov.uk
- Mae hefyd lond llaw o sianeli Slack yn benodol ar gyfer llywodraeth leol
Cysylltwch:
- os ydych chi eisoes yn rhan o gymuned ymarfer sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- os hoffech drafod dechrau cymuned ymarfer newydd