Cinio a Dysgu
Mae’r sesiynau Cinio a Dysgu yn rhan o Campws Digidol – rhaglen hyfforddiant digidol CDPS ar gyfer pobl mewn sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi’u datganoli i Gymru.
Beth i’w ddisgwyl
- mynd at wraidd pwnc am gyfnod o 30 munud, gyda grŵp o hyd at 20 o bobl dros Zoom
- gadael gyda gwell dealltwriaeth ac awgrymiadau am gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu
Beth allech chi fod yn ei wneud
- ymarfer techneg
- creu syniadau neu drafod arferion gorau
- creu templedi neu ganllawiau i’w lawrlwytho
Cost
Rhad ac am ddim. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu cyrsiau a sesiynau CDPS.
Dim ond i’r rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae CDPS yn cynnig y cyrsiau hyn.