Rhannu gwybodaeth – timau amlddisgyblaethol
5 Tachwedd 2021
Yn ein gweminar rhannu gwybodaeth ddiweddaraf, fe edrychon ni ar Safon Gwasanaeth Digidol 7 ‘Bod â thîm amlddisgyblaethol’.
Trosolwg o’r sesiwn
Fe gawson ni gwmni Dragos Leonte o Digital Scotland, Lesley Jones o Gofnod Gofal Nyrsio Cymru a Fran Beadle o Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Amlygodd y panel sut maen nhw wedi gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol a beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r broses hon. Gorffennodd Ann Kempster o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) y cyflwyniad trwy amlinellu sut maen nhw’n cynorthwyo sefydliadau i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ffurfio timau amlddisgyblaethol.
Canolbwyntiodd Dragos ar elfennau ymarferol ffurfio a disgrifiodd sut mae’n defnyddio’r model Winwnsyn Tîm wrth fynd i’r afael â phrosiectau. Mae’r model Winwnsyn Tîm yn ffordd o strwythuro tîm prosiect ac yn galluogi tîm amlddisgyblaethol i wahodd pobl i ymuno pan fydd angen fel bod llai o seilos. Mae wedi’i ffurfio o 3 chategori, sef y craidd, cydweithredwyr a chefnogwyr, ac mae’n pwysleisio’r angen i gynnwys y bobl a’r sgiliau iawn ar bob cam o brosiect.

Taflodd oleuni ar sut roedd y dull hwn wedi gweithio i ddatblygu system fudo wedi’i seilio ar y cwmwl ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus yn yr Alban.
Pan ofynnwyd iddo roi cyngor i dimau sy’n newydd i’r ffordd hon o weithio, dywedodd: “Mae angen cyfaddawdu wrth gymhwyso’r dull ystwyth i sefydliad; efallai na fydd yn ddelfrydol defnyddio dull ystwyth pur. Mae’n rhaid i ni wneud iddo weithio i’r timau rydyn ni’n rhan ohonynt. Rydyn ni’n dilyn yr egwyddorion ond nid yn glynu wrth y Maniffesto Ystwyth.”
Yna, rhoddodd Lesley a Fran drosolwg i ni o sut gweithion nhw fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i ddigideiddio cofnodion gofal nyrsio yng Nghymru. Anghenion cleifion a’r nyrsys a fyddai’n defnyddio’r system oedd y flaenoriaeth o’r dechrau.
Amlygodd y tîm amlddisgyblaethol y blaenoriaethau, y nodau a’r amserlenni. Trwy gynnwys nyrsys o’r dechrau, maen nhw wedi dylunio system sy’n hawdd ei defnyddio, sy’n glir ac sy’n arbed amser wrth weithio mewn amgylchedd ysbyty. Dangoswyd effaith gadarnhaol y system ddigidol newydd hon yn un o’n blogiau diweddar.
Ann Kempster oedd ein siaradwr olaf. Dywedodd wrthym sut mae’r CDPS yn sefydlu timau amlddisgyblaethol ym mhob un o’r prosiectau maen nhw’n gweithio arnynt, gan gynnwys gyda Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r prosiect cael mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion. Disgrifiodd hefyd sut bydd eu hyfforddiant a’u cymunedau ymarfer yn cefnogi’r newid mewn diwylliant sy’n angenrheidiol i weithio yn y modd hwn.
Cytunodd holl aelodau’r panel fod cydweithio a defnyddio dull hyblyg yn allweddol i weithio’n llwyddiannus mewn tîm amlddisgyblaethol.
Trafodaethau a chwestiynau
Ymdriniwyd ag ystod eang o bynciau yn y drafodaeth a ddilynodd, gan gynnwys:
- p’un a yw COVID-19 a’r symudiad i weithio’n rhithwir wedi’i gwneud yn haws sefydlu timau amlddisgyblaethol
- y rhwystrau canfyddedig rhag gweithio yn y modd hwn a sut i’w goresgyn
- cyngor i dimau sy’n dechrau ar y daith ‘ystwyth’
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r weminar, ond yr hoffech glywed y sgwrs, gallwch gael at y recordiad yma: