Rhannu gwybodaeth – technoleg – gwneud y dewis iawn

26 Mai 2021

Ymunwch â ni yn ein gweminar nesaf yn y gyfres rhannu gwybodaeth pan fyddwn ni yn edrych ar dechnoleg a sut y gall sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru wneud y dewisiadau technegol cywir. 

Tra’n parhau i weithio ar safonau gwasanaeth digidol cyffredin ar gyfer y sector gyhoeddus yng Nghymru, byddwn yn trafod dewisiadau technegol a beth sydd ei angen er mwyn cynnig gwasanaethau cyhoeddus gwell. Mae ein Safonau Gwasanaeth Digidol yn dweud: 

“Dylem ni wneud penderfyniadau am dechnoleg sy’n helpu timau i wneud eu gwaith a chyflawni. Dylem ni bob amser anelu at ddefnyddio’r offeryn symlaf a mwyaf priodol, ac osgoi cloi’r ddarpariaeth gan y gwerthwr i dechnolegau penodol.

Dylid grymuso timau i ddefnyddio’r offer sy’n gweithio iddyn nhw, a’u hannog i ystyried offer sy’n bodloni safonau agored, yn y cwmwl, sy’n cael eu mabwysiadu a’u cefnogi’n eang.”

Sut ydym ni’n gwireddu hyn? Ble mae hyn eisoes yn digwydd a beth ydy’r rhwystrau iddo beidio?

Cofrestrwch yma 

Ymunwch gyda ni 4 -5 pm dydd Mercher 9 Mehefin ar gyfer y 5ed yn y Gyfres rhannu gwybodaeth pan fyddwn ni’n cael cwmni Dai Vaughan, aelod o banel cynghori CDPS, Sam Hall, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol a Mike Ogonovsky Prif Swyddog Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Byddant yn trafod dewisiadau technegol yng Nghymru, beth fydd y ffocws ar gyfer darparu gwasanaeth cyhoeddus ac yn rhannu rhai o’r pethau sydd eisoes yn digwydd i gefnogi dewisiadau technegol gwell. Cofrestrwch yma i ymuno yn y sgwrs:

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_V3lGagXlSC6ZDVsn6dMfkg

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *